Merywen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Meryw)
Juniperus communis
Juniperus communis (is-rywogaeth communis) yn yr Iseldiroedd
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Pinophyta
Dosbarth: Pinopsida
Urdd: Pinales
Teulu: Cupressaceae
Genws: Juniperus
Rhywogaeth: J. communis
Enw deuenwol
Juniperus communis
L.
Ardaloedd tyfu'r ferywen

Conwydden fytholwyrdd o deulu'r cypreswydd yw'r ferywen[2] (Lladin: Juniperus communis). Fe’i helwir weithiau yn ferywen gyffredin er mwyn ei gwahaniaethu o'r 60 i 70 o rywogaethau eraill sydd yn y genws Juniperus, neu dylwyth y meryw. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys beryw, berywydd, eithin[en] bêr, neu eithin[en] y cwrw.[3]

Tyfir y ferywen ar draws hemisffer y gogledd: Gogledd America, Ewrop, gogledd Affrica, gogledd a gorllewin Asia, a Japan. Tyfir ar fryniau coediog, creigiog a sych, cyfordraethau a thywotiroedd, tarenni arforol, a llethrau a llwyfandiroedd agored. Gall wasgaru i mewn i gaeau a phorfaoedd, ac yn cael budd wrth i anifeiliaid bori'r tir. Mae'n goddef yr haul a'r gwynt, yn ymaddasu i lefelau pH, ac yn manteisio ar amgylcheddau llym lle nad oes fawr o gystadleuaeth. Tyfir mewn amrywiaeth eang o briddau gan gynnwys tywodydd asidig a chalchaidd a phriddglai.[4]

Tyfir yn goed neu’n prysgwydd gwasgarog. Mae ganddi ddail pigfain, miniog. Planhigyn deuoecaidd yw'r ferywen, hynny yw mae ganddi nodweddion y ddau ryw: blodau gwrywol sy'n felyn a chonigol, a blodau benywol sy'n wyrdd a chrwn. Mae'n rhaid tyfu'r ddau'n agos at ei gilydd er mwyn meithrin yr aeron meryw.[5] Mewn gwirionedd, megastrobilws neu foch coed crynion yw'r hadau hyn, nid aeron.[6] Pob dwy flynedd mae'r rhain yn aeddfedu. Cynaeafir aeron meryw ym misoedd Medi a Hydref, gan hel yr aeron gleision yn unig. Os sychir, mae'r rhain yn troi'n lliw glasddu ac ychydig yn grychlyd. Hwngari a De Ewrop, yn enwedig yr Eidal, yw'r prif wledydd sy'n cynhyrchu meryw.[5] Datblygwyd nifer o gyltifarau, er enghraifft gorachaidd a phyramidaidd.[7]

Roedd y ferywen wyllt yn un o'r planhigion cyntaf i gytrefu ynys Prydain ar ôl Oes yr Iâ.[8] Ers y 1970au bu dirywiad o 70% yng ngwledydd Prydain, yn debyg o ganlyniad i bori gormodol ynghŷd â cholli tir pori mewn ardaloedd eraill. Mae'n brin iawn yn awr yng Nghymru, ond yn parhau i dyfu ar Fryn Prestatyn er enghraifft.[9]

Defnydd dynol[golygu | golygu cod]

Crefydd ac ofergoelion[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol roedd enw i'r meryw o fod yn warchodwr ac yn gyfaill i'r rhai mewn trafferth. Sonnir yr Hen Destament am brysgau meryw yn noddfa. Yn ôl chwedl Gristnogol, cafodd y baban Iesu ei roi mewn brigau llwyn meryw pan oedd ei deulu ar ffo. Anwybyddodd milwyr Herod rieni'r Iesu gan nad oeddent yn gweld y baban. Cysegrid y meryw felly i'r Forwyn Fair, ac yn yr Eidal crogir torchau a brigau'r meryw yn y stabl a'r beudy i gofio stori'r geni. Yn yr Oesoedd Canol cafodd brigau'r goeden eu hongian uwchben y drws i amddiffyn yn erbyn gwrachod, a'u llosgi i gadw nadroedd draw.[5]

Coginiaeth[golygu | golygu cod]

Pigwn y meryw, neu aeron meryw.

Blas chwerw-felys a sawr pêr sydd gan aeron meryw.[6] Defnyddir i gynhyrchu jin, gwirodlynnau, chwerwon, a chwrw Swedaidd. Dodir am sesnin ar adar megis hwyaden, cig carw, cig moch, cwningen, a chig oen. Defnyddir hefyd i flasu terinau a phates. Caiff yr aeron eu malu mewn melin bupur neu gyda breuan a phestl er mwyn rhoi mewn marinadau neu sesnin barbiciw,[5] ac yn gynhwysyn am stwffin.[6] Ychwanegir meryw mâl i deisenni ffrwyth megis teisen Nadolig a phwdin Nadolig. Yn aml mae'n cyd-fynd ag afalau, er enghraifft mewn pwdin briwsion neu darten ffrwythau.[5]

Meddyginiaeth[golygu | golygu cod]

Ymddengys y ferywen mewn traddodiadau meddygol nifer o bobloedd frodorol Gogledd America, Ewrop ac Asia. Gwneid tonigau am afiechydon yr arennau a'r stumog yn Ewrasia, tonig gwaed gan frodorion y Basn Mawr, a thonigau am annwyd, y ffliw, cymalwst, poen cyhyrau ac afiechydon yr arennau yng Ngogledd Orllewin America.[4] Defnyddid y ferywen yn Ewrop i gynorthwyo cylchrediad y gwaed ac i roi hoen ieuenctid i'r henoed. Defnyddir hyd heddiw i drin colig, bol-wynt a'r gwynegon ac fel gwrthwenwyn am frathiadau neidr. Gwrth-haint cryf yw meryw ac fe'i defnyddir mewn pryfleiddiaid a phersawrau.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Juniperus communis. Rhestr Goch yr IUCN. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  2.  meryw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  3.  Geiriadur enwau a thermau: Juniperus communis. Llên Natur. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Juniperus communis. Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 Morris, Sallie. The New Guide to Spices (Llundain, Lorenz, 1999), t. 55.
  6. 6.0 6.1 6.2 (Saesneg) juniper. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  7. (Saesneg) juniper. The Columbia Encyclopedia. Encyclopedia.com (2016). Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  8.  Darganfod Sir Ddinbych. Cyngor Sir Ddinbych. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  9.  Prosiect Merywen. Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych. Adalwyd ar 22 Mai 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: