Ioga fel therapi
Upavista Konasana | |
Enghraifft o'r canlynol | therapi, ioga |
---|
Ioga fel therapi yw'r defnydd o ioga fel ymarfer corff, sy'n cynnwys ystumiau o'r enw asanas er mwyn ystwytho'r cyhyrau ac ymlacio'r meddwl. Mae'n gyfuniad, felly, o ffurf ysgafn o ymarfer corff ac ymlacio, a hynny er mwyn gwella iechyd cyffredinol y person, neu'r iogi. Mae'r math hwn o ioga yn cael ei ymarfer yn eang mewn dosbarthiadau arbennig ledled y byd, a gall gynnwys myfyrdod, delweddaeth, anadlu (pranayama) a cherddoriaeth ymlaciol, yn ogystal ag ioga ystumiol.[1]
Mae o sawl math o honiad iechyd wedi'u gwneud ar gyfer ioga: honiadau lledrithiol, bron am ioga haṭha canoloesol, gan gynnwys ei bŵer i wella'r systemau organau drwy ymarfer yr asanas. Ond mae rhai honiadau o fanteision meddygol a seicolegol penodol wedi'u cefnogi'n dda gan amrywiaeth eang o fethodolegau.
Mae adolygiadau systematig wedi canfod effeithiau buddiol ioga ar boen gwaelod y cefn[2] ac iselder ysbryd[3] ond er gwaethaf llawer o ymchwilio ychydig iawn o dystiolaeth, os o gwbl, o fudd ar gyfer cyflyrau meddygol penodol.[4] Mae astudiaeth o ioga sy'n sensitif i drawma wedi'i rhwystro gan fethodoleg wan.[5]
Cyd-destun
[golygu | golygu cod]Mae dosbarthiadau ioga a ddefnyddir fel therapi fel arfer yn cynnwys asanas (siap y corff, neu ystumiau arbennig a ddefnyddir ar gyfer ymestyn), pranayama (ymarferion anadlu), ac ymlacio mewn savasana (gorwedd).[7] Mae asanas corfforol yoga modern yn gysylltiedig â thraddodiad ioga haṭha canoloesol, ond nid oeddent yn cael eu hymarfer yn eang yn India cyn dechrau'r 20g.[8]
Mae nifer yr ysgolion ac arddulliau yoga yn y byd Gorllewinol wedi cynyddu'n gyflym o ddiwedd yr 20g. Erbyn 2012, roedd o leiaf 19 arddull gwahanol iawn, yn amrywio o ioga ashtanga vinyasa i Viniyoga. Mae'r rhain yn pwysleisio gwahanol agweddau gan gynnwys ymarfer aerobig, manwl gywirdeb yn yr asanas, ac ysbrydolrwydd (spirituality) yn y traddodiad ioga haṭha hynafol.[9][10] Gellir dosbarthu'r agweddau hyn gan ysgolion ag arddulliau nodedig. Felly, mae gan Ioga Bikram arddull ymarfer corff aerobig gydag ystafelloedd wedi'u gwresogi i 105 °F (41 °C) a dilyniant sefydlog o 2 ymarfer anadlu a 26 asana yn cael eu perfformio ym mhob sesiwn. Mae Ioga Iyengar'n pwysleisio aliniad cywir yr ystumiau, gan weithio'n araf, os oes angen gyda phropiau, a gorffen gydag ymlacio. Canolbwyntia Ioga Sivananda yn fwy ar ymarfer ysbrydol, gyda 12 ystum sylfaenol, llafarganu mewn Sansgrit, ymarferion anadlu pranayama, myfyrdod, ac ymlacio ym mhob dosbarth, a rhoddir pwysigrwydd ar ddeiet llysieuol.
Mae eiriolwyr rhai ysgolion ioga yn yr 20g, megis BKS Iyengar, wedi gwneud honiadau am effeithiau ioga ar organau penodol, heb nodi unrhyw dystiolaeth o hynny. Dadleua’r ysgolhaig ioga Suzanne Newcombe bod honiadau fel hyn wastad wedi bod yn rhan o weledigaeth ioga o fod yn therapiwtig, yn dda'n feddygol ac yn hybu iechyd a lles.[12] Ar y llaw arall, disgrifia'r ysgolhaig ioga Andrea Jain yr honiadau hyn gan Iyengar fel honiadau sy'n "ymhelaethu ac yn atgyfnerthu ei frand ioga"[13] ac yn ddim mwy na "marchnata torfol",[13] gan alw llyfr Iyengar Light on Yoga (1966) yn "ddigwyddiad arwyddocaol yn y broses o ymhelaethu'r brand".[13] Dywed yr athrawes ioga Bernie Gourley nad yw'r llyfr yn darparu tystiolaeth ar gyfer y buddion honedig.[14] Mae Jain yn awgrymu bod "ei thafodiaith fiofeddygol yn ddeniadol i lawer."[13] Er enghraifft, yn y llyfr, mae Iyengar yn honni bod asanas cylch Eka Pada Sirsasana yn helpu gydag edrychiad y cyhyrau, gwella cylchrediad y gwaed drwy'r corff cyfan ayb.[15]
Adolygwyd yr honiadau hyn gan William J. Broad yn ei lyfr The Science of Yoga (2012) lle mae'n dadlau, er bod yr honiadau iechyd ar gyfer ioga wedi dechrau fel ystum cenedlaetholgar Hindŵaidd, fe'u hystyrir bellach yn[16] "gyfoeth o fuddion gwirioneddol".[16]
Ymchwil
[golygu | golygu cod]Methodoleg
[golygu | golygu cod]Mae llawer o'r ymchwil ar y defnydd therapiwtig o ioga wedi bod ar ffurf astudiaethau rhagarweiniol neu dreialon clinigol o ansawdd isel, gan gynnwys meintiau sampl bach, rheolaeth annigonol, diffyg hapnodi, a risg uchel o ragfarn.[17][18] Mae angen ymchwil pellach, mwy gwyddonol, i fesur y buddion ac i egluro'r mecanweithiau dan sylw. [19]
Er enghraifft, dywedodd adolygiad yn 2010 ar y defnydd o ioga ar gyfer iselder, "er bod canlyniadau'r treialon hyn yn galonogol, dylid eu hystyried yn rhagarweiniol iawn oherwydd bod y treialon, fel grŵp, yn dioddef o gyfyngiadau methodolegol sylweddol."[20] Argymhellodd adolygiad systematig yn 2015 ar effaith ioga ar hwyliau ac ar yr ymennydd y dylai treialon clinigol yn y dyfodol gymhwyso mwy o drylwyredd methodolegol.[21]
Mecanweithiau
[golygu | golygu cod]Honnwyd bod ymarfer yr asanas yn gwella hyblygrwydd, cryfder a chydbwysedd y corff; yn lleddfu straen a phryder, ac yn lleihau symptomau poen yng ngwaelod y cefn, heb ddangos o reidrwydd yr union fecanweithiau dan sylw.[23] Nododd adolygiad o bum astudiaeth fod tri mecanwaith seicolegol (effaith gadarnhaol, ymwybyddiaeth ofalgar, a hunan-dosturi) a phedwar mecanwaith biolegol (hypothalamws posterior, interleukin-6, protein C-adweithiol a cortisol) a allai weithredu ar straen a'u bod wedi cael eu harchwilio'n empirig; mae mecanweithiau eraill, fodd bynnag, yn parhau iheb eu hasudio. Canfuwyd bod pedwar o'r mecanweithiau (effaith gadarnhaol, hunan-dosturi, ataliad yr hypothalamws ôl a cortisol poer) yn cyfryngu effaith ioga ar straen.[24]
Poen gwaelod y cefn
[golygu | golygu cod]Poen cefn yw un o'r rhesymau pam mae pobl yn cymryd ioga, ac ers o leiaf y 1960au mae rhai ymarferwyr wedi honni ei fod wedi lleddfu eu symptomau.[25]
Canfu adolygiad systematig 2013 fod ymarfer ioga'n lleihau poen gwaelod y cefn; cafwyd tystiolaeth gref ar gyfer effeithiau tymor byr a hirdymor ar boen, a thystiolaeth gymedrol o fudd hirdymor mewn anabledd cefn-benodol, heb unrhyw sgileffeithiau andwyol difrifol. Dadansoddwyd deg hap-dreial rheoledig, ac roedd gan wyth ohonynt risg isel o ragfarn. Roedd y canlyniadau a fesurwyd yn cynnwys gwelliant mewn "poen, anabledd cefn-benodol, anabledd generig, ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd, a gwelliant global".[26] Nododd yr adolygiad y gellir argymell ioga fel therapi ychwanegol i gleifion poen gwaelod y cefn cronig.
Anhwylderau meddwl
[golygu | golygu cod]Mae ioga sy'n sensitif i drawma wedi'i ddatblygu gan David Emerson ac eraill o'r Ganolfan Trawma yn y Sefydliad Adnoddau Cyfiawnder yn Brookline, Massachusetts. Defnyddia'r ganolfan ioga ochr yn ochr â thriniaethau eraill i gefnogi adferiad ar ôl cyfnodau trawmatig ac i alluogi iachâd o anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Mae gweithwyr gan gynnwys Bessel van der Kolk a Richard Miller wedi astudio sut y gall unigolion "adennill cysur yn eu cyrff, gwrthweithio'r ailadrodd obsesiynol o feddyliau, a gwella hunan-reoleiddio trwy ioga."[27][28]
Mae adolygiadau systematig yn nodi bod ioga'n cynnig budd cymedrol wrth drin PTSD.[29][30][31] Dangosodd adolygiad systematig 2017 o PTSD mewn cyn-filwyr ôl-9/11 fod cyfranogwyr mewn astudiaethau a oedd wedi derbyn hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth ofalgar, therapi corff meddwl, ac ioga "yn gweld gwelliannau sylweddol mewn symptomau PTSD".[32] Canfu adolygiad systematig arall o gyn-filwyr yr un flwyddyn hefyd welliant mewn symptomau PTSD.[33] Rhagdybia adolygiadau systematig eraill bod dylunio'r arddull a'r cyfarwyddiadau i anghenion y cyn-filwyr yn arwain at ganlyniadau gwell ac effaith fwy ar symptomau PTSD.[34]
Canfu adolygiad systematig 2013 ar y defnydd o ioga ar gyfer iselder ysbryd dystiolaeth gymedrol o fudd tymor byr dros y "gofal arferol a ddarperir" a thystiolaeth gyfyngedig o'i gymharu ag ymlacio ac ymarfer corff aerobig. Dim ond 3 o 12 hap-dreial rheoledig oedd â risg isel o ragfarn. Roedd amrywiaeth yr astudiaethau'n atal dadansoddiad o effeithiau hirdymor.[35] Daeth adolygiad systematig yn 2015 ar effaith ioga ar hwyliau person a'r ymennydd i'r casgliad bod "ioga'n gysylltiedig â gwell rheoleiddio'r system nerfol sympathetig a'r system hypothalamig-bitwidol-adrenal, yn ogystal â gostwng symptomau iselder a phryder mewn ystod o oedran a gwahanol boblogaeth."[36][37]
Iechyd cardiofasgwlaidd
[golygu | golygu cod]Mae arolwg o ioga yn Awstralia yn 2012 yn nodi bod “tystiolaeth dda”[38] bod ioga a’i ffordd iach o fyw cysylltiedig — bwyd llysieuol a dim ysmygu, ffafrio bwyd organig, yfed llai neu ddim alcohol — yn fuddiol i iechyd cardiofasgwlaidd yr unigolyn ond mai "ychydig iawn oedd yn cymryd ioga i fynd i'r afael â chyflyrau cardiofasgwlaidd a ffactorau risg".[39] Cyfeiriodd ymatebwyr at ioga fel un o achosion y newidiadau hyn mewn ffordd o fyw.
Nid oes llawer o dystiolaeth ddibynadwy bod ioga'n fuddiol ar gyfer cyflyrau meddygol penodol, a cheir swm cynyddol o dystiolaeth nad yw.
Canfu adolygiad systematig yn 2013 dystiolaeth wan ar gyfer defnyddio ioga ar gyfer , gan archwilio canlyniadau poen ac anabledd, heb unrhyw dystiolaeth o'i ddiogelwch. [40]
Ni chanfu adolygiad systematig yn 2015 unrhyw dystiolaeth o fudd wrth drin epilepsi neu symptomau sy’n gysylltiedig â’r menopos.[41][42]
Yn ôl Cymdeithas Canser America, gall ymarfer ioga wella cryfder a chydbwysedd mewn cleifion canser, a'i fod yn "annhebygol o achosi niwed",[43] ac nid yw'n "ymyrryd â thriniaeth canser".[43] Mae'r gymdeithas yn nodi na all ioga "wella canser"[44] ond y gallai ioga helpu i wella ansawdd bywyd mewn goroeswyr canser, fel y dangoswyd mewn hap-dreial rheoledig o fenywod a oedd wedi cael canser y fron. Roedd yr hyn a oedd yn cael ei fesur yn cynnwys blinder, iselder, ac ansawdd cwsg.[44][45]
Ni ddangosodd adolygiad systematig yn 2010 unrhyw effaith buddiol o ioga ar anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), wedi'i fesur yn ôl sgôr athro ar raddfa gyffredinol ADHD.[46]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Broad, William J. (2012). The Science of Yoga: The Risks and the Rewards. Simon and Schuster. ISBN 978-1-4516-4142-4.
- Goldberg, Elliott (2016). The Path of Modern Yoga : the history of an embodied spiritual practice. Inner Traditions. ISBN 978-1-62055-567-5. OCLC 926062252.
- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
- Jain, Andrea (2015). Selling Yoga : from Counterculture to Pop culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
- Mallinson, James; Singleton, Mark (2017). Roots of Yoga. Penguin Books. ISBN 978-0-241-25304-5. OCLC 928480104.
- Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga the Iyengar Way: The new definitive guide to the most practised form of yoga. Dorling Kindersley. ISBN 978-0863184208.
- Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.
- Singleton, Mark (2010). Yoga Body : the origins of modern posture practice. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-539534-1. OCLC 318191988.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Feuerstein, Georg (2006). "Yogic Meditation". In Jonathan Shear (gol.). The Experience of Meditation. St. Paul, Minnesota: Paragon House. t. 90.
While not every branch or school of yoga includes meditation in its technical repertoire, most do.
- ↑ Cramer, Holger; Lauche, Romy; Haller, Heidemarie; Dobos, Gustav (2013). "A Systematic Review and Meta-analysis of Yoga for Low Back Pain". The Clinical Journal of Pain 29 (5): 450–460. doi:10.1097/AJP.0b013e31825e1492. PMID 23246998. https://semanticscholar.org/paper/37c21944e6a15bd5432d507b93f009a2a16744e0.
- ↑ Pascoe, Michaela C.; Bauer, Isabelle E. (1 September 2015). "A systematic review of randomised control trials on the effects of yoga on stress measures and mood". Journal of Psychiatric Research 68: 270–282. doi:10.1016/j.jpsychires.2015.07.013. PMID 26228429.
- ↑ Uebelacker, L. A.; Epstein-Lubow, G.; Gaudiano, B. A.; Tremont, G.; Battle, C. L.; Miller, I. W. (2010). "Hatha yoga for depression: critical review of the evidence for efficacy, plausible mechanisms of action, and directions for future research". Journal of Psychiatric Practice 16 (1): 22–33. doi:10.1097/01.pra.0000367775.88388.96. PMID 20098228.
- ↑ Nguyen-Feng, Viann N.; Clark, Cari J.; Butler, Mary E. (August 2019). "Yoga as an intervention for psychological symptoms following trauma: A systematic review and quantitative synthesis". Psychological Services 16 (3): 513–523. doi:10.1037/ser0000191. PMID 29620390.
- ↑ Anon (13 November 2012). "What's Your Style? Explore the Types of Yoga". Yoga Journal.
- ↑ Forbes, Bo. "Yoga Therapy in Practice: Using Integrative Yoga Therapeutics in the Treatment of Comorbid Anxiety and Depression". International Journal of Yoga 2008: 87.
- ↑ Singleton 2010.
- ↑ Anon (13 November 2012). "What's Your Style? Explore the Types of Yoga". Yoga Journal.Anon (13 November 2012). "What's Your Style? Explore the Types of Yoga". Yoga Journal.
- ↑ Beirne, Geraldine (10 January 2014). "Yoga: a beginner's guide to the different styles". The Guardian. Cyrchwyd 1 February 2019.
- ↑ Beirne, Geraldine (10 January 2014). "Yoga: a beginner's guide to the different styles". The Guardian. Cyrchwyd 1 February 2019.Beirne, Geraldine (10 January 2014). "Yoga: a beginner's guide to the different styles". The Guardian. Retrieved 1 February 2019.
- ↑ Newcombe 2019.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 13.3 Jain 2015.
- ↑ Gourley, Bernie (1 June 2014). "Book Review: Light on Yoga by BKS Iyengar". The !n(tro)verted yogi. Cyrchwyd 20 November 2018.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ 16.0 16.1 Broad 2012, tt. 39 and whole book.
- ↑ Krisanaprakornkit, T.; Ngamjarus, C.; Witoonchart, C.; Piyavhatkul, N. (2010). "Meditation therapies for attention-deficit/hyperactivity disorder (ADHD)". Cochrane Database of Systematic Reviews (6): CD006507. doi:10.1002/14651858.CD006507.pub2. PMC 6823216. PMID 20556767. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6823216.
- ↑ Uebelacker, L. A.; Epstein-Lubow, G.; Gaudiano, B. A.; Tremont, G.; Battle, C. L.; Miller, I. W. (2010). "Hatha yoga for depression: critical review of the evidence for efficacy, plausible mechanisms of action, and directions for future research". Journal of Psychiatric Practice 16 (1): 22–33. doi:10.1097/01.pra.0000367775.88388.96. PMID 20098228.Uebelacker, L. A.; Epstein-Lubow, G.; Gaudiano, B. A.; Tremont, G.; Battle, C. L.; Miller, I. W. (2010). "Hatha yoga for depression: critical review of the evidence for efficacy, plausible mechanisms of action, and directions for future research". Journal of Psychiatric Practice. 16 (1): 22–33. doi:10.1097/01.pra.0000367775.88388.96. PMID 20098228. S2CID 205423922.
- ↑ Penman, Stephen; Stevens, Philip; Cohen, Marc; Jackson, Sue (2012). "Yoga in Australia: Results of a national survey". International Journal of Yoga 5 (2): 92–101. doi:10.4103/0973-6131.98217. ISSN 0973-6131. PMC 3410203. PMID 22869991. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3410203.
- ↑ Uebelacker, L. A.; Epstein-Lubow, G.; Gaudiano, B. A.; Tremont, G.; Battle, C. L.; Miller, I. W. (2010). "Hatha yoga for depression: critical review of the evidence for efficacy, plausible mechanisms of action, and directions for future research". Journal of Psychiatric Practice 16 (1): 22–33. doi:10.1097/01.pra.0000367775.88388.96. PMID 20098228.Uebelacker, L. A.; Epstein-Lubow, G.; Gaudiano, B. A.; Tremont, G.; Battle, C. L.; Miller, I. W. (2010). "Hatha yoga for depression: critical review of the evidence for efficacy, plausible mechanisms of action, and directions for future research". Journal of Psychiatric Practice. 16 (1): 22–33. doi:10.1097/01.pra.0000367775.88388.96. PMID 20098228. S2CID 205423922.
- ↑ Pascoe, Michaela C.; Bauer, Isabelle E. (1 September 2015). "A systematic review of randomised control trials on the effects of yoga on stress measures and mood". Journal of Psychiatric Research 68: 270–282. doi:10.1016/j.jpsychires.2015.07.013. PMID 26228429.Pascoe, Michaela C.; Bauer, Isabelle E. (1 September 2015). "A systematic review of randomised control trials on the effects of yoga on stress measures and mood". Journal of Psychiatric Research. 68: 270–282. doi:10.1016/j.jpsychires.2015.07.013. PMID 26228429.
- ↑ Riley, Kristen E.; Park, Crystal L. (2015). "How does yoga reduce stress? A systematic review of mechanisms of change and guide to future inquiry". Health Psychology Review 9 (3): 379–396. doi:10.1080/17437199.2014.981778. PMID 25559560.
- ↑ Hayes, M.; Chase, S. (March 2010). "Prescribing Yoga". Primary Care 37 (1): 31–47. doi:10.1016/j.pop.2009.09.009. PMID 20188996.
- ↑ Riley, Kristen E.; Park, Crystal L. (2015). "How does yoga reduce stress? A systematic review of mechanisms of change and guide to future inquiry". Health Psychology Review 9 (3): 379–396. doi:10.1080/17437199.2014.981778. PMID 25559560.Riley, Kristen E.; Park, Crystal L. (2015). "How does yoga reduce stress? A systematic review of mechanisms of change and guide to future inquiry". Health Psychology Review. 9 (3): 379–396. doi:10.1080/17437199.2014.981778. PMID 25559560. S2CID 35963343.
- ↑ Newcombe 2019, t. 203.
- ↑ Cramer, Holger; Lauche, Romy; Haller, Heidemarie; Dobos, Gustav (2013). "A Systematic Review and Meta-analysis of Yoga for Low Back Pain". The Clinical Journal of Pain 29 (5): 450–460. doi:10.1097/AJP.0b013e31825e1492. PMID 23246998. https://semanticscholar.org/paper/37c21944e6a15bd5432d507b93f009a2a16744e0.Cramer, Holger; Lauche, Romy; Haller, Heidemarie; Dobos, Gustav (2013). "A Systematic Review and Meta-analysis of Yoga for Low Back Pain". The Clinical Journal of Pain. 29 (5): 450–460. doi:10.1097/AJP.0b013e31825e1492. PMID 23246998. S2CID 12547406.
- ↑ Jackson, Kate. "Trauma-Sensitive Yoga". Social Work Today.
- ↑ Nolan, Caitlin R. (2016). "Bending without breaking: A narrative review of trauma-sensitive yoga for women with PTSD". Complementary Therapies in Clinical Practice 24: 32–40. doi:10.1016/j.ctcp.2016.05.006. PMID 27502798.
- ↑ Uebelacker, Lisa (20 March 2016). "Yoga for Depression and Anxiety: A Review of Published Research and Implications for Healthcare Providers". Rhode Island Medical Journal 99 (3): 20–22. PMID 26929966. http://rimed.org/rimedicaljournal/2016/03/2016-03-20-intmed-uebelacker.pdf.
- ↑ Nguyen-Feng, Viann N.; Clark, Cari J.; Butler, Mary E. (August 2019). "Yoga as an intervention for psychological symptoms following trauma: A systematic review and quantitative synthesis". Psychological Services 16 (3): 513–523. doi:10.1037/ser0000191. PMID 29620390.
- ↑ Cramer, Holger; Anheyer, Dennis; Saha, Felix J.; Dobos, Gustav (March 2018). "Yoga for posttraumatic stress disorder – a systematic review and meta-analysis". BMC Psychiatry 18 (1): 72. doi:10.1186/s12888-018-1650-x. PMC 5863799. PMID 29566652. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5863799.
- ↑ Cushing, R. E.; Braun, K. L. (2018). "Mind-Body Therapy for Military Veterans with Post-Traumatic Stress Disorder: A Systematic Review". The Journal of Alternative and Complementary Medicine 24 (2): 106–114. doi:10.1089/acm.2017.0176. PMID 28880607.
- ↑ Niles, Barbara (21 March 2018). "A systematic review of randomized trials of mind-body interventions for PTSD". Journal of Clinical Psychology 74 (9): 1485–150. doi:10.1002/jclp.22634. PMC 6508087. PMID 29745422. https://www.ptsd.va.gov/professional/articles/article-pdf/id50274.pdf.
- ↑ Robin, Cushing (30 April 2018). "Military-Tailored Yoga for Veterans with Post-traumatic Stress Disorder". Military Medicine 183 (5–6): e223–e231. doi:10.1093/milmed/usx071. PMC 6086130. PMID 29415222. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6086130.
- ↑ Cramer, Holger; Lauche, Romy; Langhorst, Jost; Dobos, Gustav (2013). "Yoga for Depression: A Systematic Review and Meta-Analysis". Depression and Anxiety 30 (11): 1068–1083. doi:10.1002/da.22166. PMID 23922209.
- ↑ Pascoe, Michaela C.; Bauer, Isabelle E. (1 September 2015). "A systematic review of randomised control trials on the effects of yoga on stress measures and mood". Journal of Psychiatric Research 68: 270–282. doi:10.1016/j.jpsychires.2015.07.013. PMID 26228429.Pascoe, Michaela C.; Bauer, Isabelle E. (1 September 2015). "A systematic review of randomised control trials on the effects of yoga on stress measures and mood". Journal of Psychiatric Research. 68: 270–282. doi:10.1016/j.jpsychires.2015.07.013. PMID 26228429.
- ↑ Cramer, Holger; Anheyer, Dennis; Lauche, Romy; Dobos, Gustav (2017). "A systematic review of yoga for major depressive disorder". Journal of Affective Disorders 213: 70–77. doi:10.1016/j.jad.2017.02.006. PMID 28192737.
- ↑ For example, the survey by Penman and Stevens cites: Jayasinghe, S. R. (2004). "Yoga in cardiac health (A Review)". European Journal of Cardiovascular Prevention & Rehabilitation 11 (5): 369–375. doi:10.1097/01.hjr.0000206329.26038.cc. ISSN 1741-8267. PMID 15616408.
- ↑ Penman, Stephen; Stevens, Philip; Cohen, Marc; Jackson, Sue (2012). "Yoga in Australia: Results of a national survey". International Journal of Yoga 5 (2): 92–101. doi:10.4103/0973-6131.98217. ISSN 0973-6131. PMC 3410203. PMID 22869991. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3410203.Penman, Stephen; Stevens, Philip; Cohen, Marc; Jackson, Sue (2012). "Yoga in Australia: Results of a national survey". International Journal of Yoga. 5 (2): 92–101. doi:10.4103/0973-6131.98217. ISSN 0973-6131. PMC 3410203. PMID 22869991.
- ↑ Cramer, H.; Lauche, R.; Langhorst, J.; Dobos, G. (November 2013). "Yoga for rheumatic diseases: a systematic review". Rheumatology (Oxford) 52 (11): 2025–30. doi:10.1093/rheumatology/ket264. PMID 23934220.
- ↑ Panebianco, Mariangela; Sridharan, Kalpana; Ramaratnam, Sridharan (2 May 2015). Panebianco, Mariangela. ed. "Yoga for epilepsy". The Cochrane Database of Systematic Reviews (5): CD001524. doi:10.1002/14651858.CD001524.pub2. PMID 25934967.
- ↑ Lee, M. S.; Kim, J. I.; Ha, J. Y.; Boddy, K.; Ernst, E. (2009). "Yoga for menopausal symptoms: a systematic review". Menopause 16 (3): 602–608. doi:10.1097/gme.0b013e31818ffe39. PMID 19169169.
- ↑ 43.0 43.1 "The Truth About Alternative Medical Treatments". American Cancer Society. 30 January 2019. Cyrchwyd 4 September 2019.
- ↑ 44.0 44.1 "Say Yes to Yoga". American Cancer Society. 23 August 2018. Cyrchwyd 4 September 2019.
- ↑ Chandwani, Kavita D.; Perkins, George; Nagendra (2014). "Randomized, Controlled Trial of Yoga in Women With Breast Cancer Undergoing Radiotherapy". Journal of Clinical Oncology 32 (10): 1058–1065. doi:10.1200/JCO.2012.48.2752. ISSN 0732-183X. PMC 3965260. PMID 24590636. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3965260.
- ↑ Krisanaprakornkit, T.; Ngamjarus, C.; Witoonchart, C.; Piyavhatkul, N. (2010). "Meditation therapies for attention-deficit/hyperactivity disorder (ADHD)". Cochrane Database of Systematic Reviews (6): CD006507. doi:10.1002/14651858.CD006507.pub2. PMC 6823216. PMID 20556767. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6823216.Krisanaprakornkit, T.; Ngamjarus, C.; Witoonchart, C.; Piyavhatkul, N. (2010). "Meditation therapies for attention-deficit/hyperactivity disorder (ADHD)". Cochrane Database of Systematic Reviews (6): CD006507. doi:10.1002/14651858.CD006507.pub2. PMC 6823216. PMID 20556767.