Hanes gwydr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Câi gwydr ei wneud o waith llaw ers dyddiau'r henfyd, at ddibenion ymarferol ac addurnol.

Yr Hen Aifft[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid ydys yn sicr pa bryd y darganfyddwyd y gelfyddyd о wneuthur gwydr. Gleiniau gwydr o'r hen Aifft yw'r gwrthrychau gwydr o waith llaw cynharaf yr ydym yn ymwybydol ohonynt, a'r rheiny yn dyddio o'r cyfnod 2500 CC. Yn ddiweddarach yn y gwareiddiad Eifftaidd, gwnaed llestri gwydr a chanddynt batrymau igam-ogam o edeifion lliw. Darlunid y modd yr oeddynt yn chwythu y gwydr mewn paentiadau o'r cyfnod. Мог gywrain ydoedd yr Eifftiaid yn y gelfyddyd o wneuthur gwydr, fel y llwyddasant i'w werthu yn fynych yn lle yr amethyst, a meini gwerthfawr eraill. Defnyddid ef weithiau gan yr Eifftiaid hyd yn oed i wneuthur eirch. Yr oeddynt yn ei ddefnyddio, nid yn unig i wneud diodlestri ac addurniadau i'r corff, ond hefyd i wneud brithwaith, ffugr-dduwiau, ac arwyddluniau cysegredig, o'r crefftwaith mwyaf cywrain a destlus, a'u lliwiau yn hynod о ddisglair.

Ymddengys fod gwydr hefyd yn beth adnabyddus i'r Iddewon hynafol. Credir fod y gair Hebraeg am grisial yn Job xxviii. 17, yn golygu gwydr.

Y Groegiaid a'r Rhufeiniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Sonir am grefft y gwydrwr gan sawl awdur yr henfyd, gan gynnwys Plinius yr Hynaf, Strabo, a Josephus. Dywed Plinius yr Hynaf, roedd yn anwybodus o grefft yr Eifftiaid, ei bod wedi cael ei darganfod trwy ddamwain. Rhyw fasnachwyr, meddai, a gynneuasant dân ar y parth hwnnw о lannau Ffenicia sydd yn gorwedd yn agos i Ptolemais, rhwng troed mynydd Carmel a Tyrus, yn y fan lle mae Afon Belus yn bwrw y tywod mân a ddwg i lawr gyda hi yn ei llwybr o'r mynydd. Gan nad oeddynt yn meddu y taclau angenrheidiol i grogi eu llestri coginiol uwch ben y tân, hwy a ddefnyddiasant natron i wneud y diffyg i fyny. Roedd gwres y tân yn toddi y natron, yr hwn a ddisgynai yn ddiferion ar y tywod. Yn y man, cynhyrchwyd ffrwd dryloyw brydferth iawn. Hyn, meddir, a roddodd y syniad cyntaf i ddyn am wneuthuriad gwydr. Darfu i drigolion yr ardal, yn ninas Sidon (yr hon sydd heddiw yn rhan o Libanus), wneud defnydd o'r darganfyddiad, ac wedi iddynt mewn amser berffeithio y gelfyddyd, ennillasant iddynt eu hunain gyfoeth ас enwogrwydd mawr. Fe ddyfeisiwyd hyd yn oed ddrychau gwydr gan у Sidoniaid.

Datblygwyd technegau gwydr modern yn Alecsandria yn ystod yr oes Ptolemaidd. Perffeithiwyd y dechneg o wneud gwydr brith drwy dorri gwiail o wahanol liwiau ar letgroes i gynhyrchu patrymau addurnol. Cafodd wydr hefyd ei wasgu i fowld er mwyn ei siapio.

Mae'n debyg taw y Syriaid oedd y cyntaf i chwythu gwydr, a hynny yn ystod y 1g CC. Trwy'r dechneg hon, gellir chwythu gwydr i mewn i fowld neu ei siapio'n hollol rhydd ei ffurf.

Daeth у Rhufeiniaid, yn enwedig, i ddeall yn dda у gelfyddyd о chwythu, toddi, a lliwio gwydr. Perffeithiwyd gwydr cameo gan y Rhufeiniaid, sef trwy dorri i ffwrdd haen o wydr a chreu dyluniad mewn cerfwedd.

Yn y Testament Newydd, cyfeirir at wydr fel arwyddlun о burdeb a gloywder i Gristnogion: Datguddiad Ioan iv. 6; xv. 2; xxi. 18.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cryn amser ers pan y defnyddir gwydr i'w osod mewn ffenestri yn Ewrop. Yn y flwyddyn 674, daeth celfyddydwyr o wledydd tramor i wydro ffenestri Eglwys Weremouth, yn Durham.

Ymledodd technegau gwneud gwydr ar draws Ewrop. Yn Fenis yn y 15g bu'r datblygiadau mawr nesaf yn hanes gwydr. Ers y 13g, ynys Murano oedd canolfan gwneud gwydr yn Ewrop, a'r crefftwyr Fenisaidd yn arfer technegau traddodiadol i gynhyrchu darnau addurnol a lliwgar yn ystod y Dadeni.

Yn ddiweddarach, datblygasant cristallo, gwydr claear sydd yn debyg i grisial. Cafodd gweithiau gwydr o'r fath hon eu hallforio o Fenis ar draws Ewrop. Roedd y dechneg o addurno cristallo gan engrafwyr tringar yn boblogaidd o'r 16g hyd y 18g. Gwnaed hyn gan engrafwyr gyda blaen diemwnt yn enwedig yn yr Iseldiroedd a'r Almaen.

Yr 17g a'r 18g[golygu | golygu cod y dudalen]

O ddiwedd yr 17g hyd ddechrau'r 20g, Bohemia yng nghanolbarth Ewrop oedd un o brif ganolfannau gwneud gwydr. Lledodd y traddodiad Fenisaidd i Loegr erbyn yr 17g, a noder gwydr Seisnig am ei symledd. Tua'r flwyddyn 1675, darganfyddodd George Ravenscroft bod ychwanegu plwm ocsid at wydr Fenisaidd yn creu gwydr solet a thrymach, a elwir crisial plwm. Daeth crisial plwm yn boblogaidd i wneud llestri bwrdd hardd.

Yng nghanol y 18g yn Lloegr, daeth enamlo yn ffasiynol, ac o ganlyniad datblygwyd gwydr Bryste. Datblygwyd gwydr nadd yn Lloegr ac Iwerddon, a chafodd holl arwyneb y gwydr ei dorri i adlewyrchu golau. Mae'r fath wydr plwm nadd, megis crisial Waterford, yn boblogaidd hyd heddiw.

Y 19g[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y 19g, cafodd bum math o wydrau eu gwneud yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, ac adnabyddir hwy wrth yr enwau canlynol: gwydr ffenestri, gwydr plât, gwydr fflint, gwydr llydan, a gwydr potel. Roedd eu defnyddiau yn gwahaniaethu, ond roeddent i gyd yn cynnwys tywod, ac amrywiol fathau о gyfferïau. Toddir y defnyddiau ynghyd mewn ffwrneisi, am ddeugain o oriau, ac yna tywelltir ef i'r ffurf a ddewisir. Bydd wedi hynny yn mynd о dan lawer o driniaethau yn ôl fel y bydd i ateb gwahanol ddibenion. Roedd y prif weithfeydd gwydr yn Newcastle-upon-Tyne, Shields, Stourbridge, Lerpwl, Ravenhead, Bryste, Warrington, Birmingham, Leeds, Llundain, Glasgow, Leith, Dulyn, Corc, a Belffast.

Yr 20g[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylanwadwyd ar dechnegau gwneud gwydr gan fudiadau celf a ffasiynau dylunio mewnol yr 20g. Yn ystod cyfnod Art Nouveau, dyfeisiwyd gwydr Favrile gan Louis Comfort Tiffany. Bu'r Ffrancod Émile Gallé, René Lalique, a Daum Frères hefyd yn bwysig. Yn yr Unol Daleithiau, cynhyrchwyd gwrthrychau gwydr claear gyda dyluniadau endoredig gan y Steuben Glass Company yn Efrog Newydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.