Neidio i'r cynnwys

Hafodyrynys

Oddi ar Wicipedia
Hafodyrynys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Sirol Caerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6836°N 3.1183°W Edit this on Wikidata
Cod OSST227989 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruLindsay Whittle (Plaid Cymru)
AS/au y DURuth Jones (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Crymlyn, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Hafodyrynys.[1][2] Saif ar briffordd yr A472 rhwng trefi Pontypŵl a Chrylmyn. Yn hanesyddol, fe'i lleolid yn Sir Fynwy.

Disgrifir y stryd fawr yn aml fel y stryd fwyaf llygredig yng Nghymru, gyda lefelau nitrogen deuocsid uchaf ym Mhrydain y tu ôl i ganol Llundain,[3] ac mae yna bolisi o ddymchwel tai sy'n cael eu heffeithio waethaf gan y traffig trwm sy'n mynd trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lindsay Whittle (Plaid Cymru) [4] ac yn Senedd y DU gan Ruth Jones (Llafur).[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 26 Rhagfyr 2021
  3. "Galw am ddymchwel tai ar 'stryd mwyaf llygredig' Cymru", BBC Cymru Fyw, 23 Gorffennaf 2020; adalwyd 26 Rhagfyr 2021
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrdeistref Sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato