Frieda Hempel

Oddi ar Wicipedia
Frieda Hempel
Ganwyd26 Mehefin 1885 Edit this on Wikidata
Leipzig Edit this on Wikidata
Bu farw7 Hydref 1955 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Cerdd a Theatr Leipzig
  • Stern Conservatory Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano coloratwra Edit this on Wikidata

Roedd Frieda Hempel (26 Mehefin 1885 - 7 Hydref 1955) yn gantores soprano Almaenig o weithiau operatig a chyngerdd a gafodd yrfa ryngwladol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau.[1]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hempel yn Leipzig ac astudiodd gyntaf yng Nghonserfatori Leipzig ac wedi hynny yng Nghonserfatori Stern, Berlin, lle'r oedd yn ddisgybl i Selma Nicklass-Kempner. Roedd ei hymddangosiadau cynharaf yn Worclaw, yn canu Violetta, Brenhines y Nos a Rosina. Gwnaeth ymddangosiad cyntaf yn Schwerin ym 1905, a bu yno am y ddwy flynedd nesaf, gan ganu hefyd Gilda, Leonora (Il trovatore) a Woglinde.[2]

Gwnaeth gymaint o argraff bod Kaiser Wilhelm II wedi gofyn i awdurdodau Schwerin ei rhyddhau i ganu hefyd ym Merlin. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yno ym 1905 fel Frau Fluth (yn Die lustigen Weiber von Windsor gan Otto Nicola). Canodd yn Opera'r Llys Brenhinol, Berlin, rhwng 1907 a 1912, lle cafodd ei hedmygu hefyd fel Lucia, Marguerite de Valois a Marie .

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Ymddangos Hempel yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Llundain yn 1907 fel Bastienne yn Bastien und Bastienne gan Mozart, fel Gretel yn Hänsel und Gretel Humperdinck, fel Eva yn Die Meistersinger von Nürnberg gan Mozart ac Elsa yn Lohengrin Wagner. Atgyfododd ei rôl fel Frau Fluth gan fod Nellie Melba a Selma Kurz bellach yn cymryd ganol y llwyfan ar gyfer y rolau mwy poblogaidd bu gynt yn eiddo i Hempel.

Ym 1912 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan, Dinas Efrog Newydd fel Marguerite de Valois yn Les Huguenots. Canodd yn rheolaidd yn Efrog Newydd wedi hynny hyd at y 1920au. Hi oedd y cyntaf i ganu’r Marschallin yn Der Rosenkavalier yn Efrog Newydd ac ym Merlin, a chanodd y rôl yn Llundain ym 1913 hefyd. Roedd hi yn y Met ym 1913 yn chware rôl Oscar yn Un ballo in maschera, gyda Caruso, Emmy Destinn, Margarete Matzenauer a Pasquale Amato. Ymddangosodd hefyd yn Le nozze di Figaro ym 1916 gyda Matzenauer, Geraldine Farrar ac Antonio Scotti. Ym 1916 chwaraeodd rhan Leïla yn Les Pêcheurs de Perles yn y Met.[3] Roedd gan Hempel ystod ddramatig eang iawn, o Rosina neu Frenhines y Nos i Eva Wagner ac Euryanthe Weber.

Portread o Frieda Hempel (1885-1955) o gyfres o wawdluniau a dynnwyd gan Enrico Caruso, 1909, Llyfrgell Prifysgol Ghent

Datganiadau[golygu | golygu cod]

Ar ôl 1919 bu Hempel yn ymroi i ddatganiadau cyngerdd. Gwnaeth ail yrfa ar y platfform cyngerdd, gan ragori ym mherfformiad lieder Mozart, Schubert, Schumann, Brahms a Wolf, yn ariâu cyngerdd Mozart, ac ati. Daeth yn enwog am ddatganiadau lle ymddangosodd mewn gwisg fel y soprano enwog o'r 19g Jenny Lind.[4]

Enrico Caruso, Frieda Hempel, Maria Duchêne, Andrés de Segurola a Léon Rothier: "È scherzo od è follia" o Un ballo in maschera, Giuseppe Verdi .

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym Merlin ym 1955 yn 70 oed. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Waldfriedhof Heerstrasse, Berlin.[5]

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Hempel wneud recordiadau yn yr Almaen ar gyfer cwmni Odeon Records ym 1906 ac wedyn ar gyfer y Gramophone Company (HMV) yn Lloegr yn ogystal â'r Victor Talking Machine Company ac Edison Records yn yr UD. Mae'r mwyafrif trwy'r broses acwstig.

Dysgu[golygu | golygu cod]

Ymhlith ei myfyrwyr lleisiol mae'r athrawes lais Americanaidd a'r ysgolhaig Bel canto Cornelius L. Reid.[6]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • A. Eaglefield-Hull, A Dictionary of Modern Music and Musicians (Llundain: Dent, 1924)
  • G. Kobbé, The Complete Opera Book (Llundain: Putnam, argrafiiad 1935)
  • H. Rosenthal and J. Warrack, The Concise Oxford Dictionary of Opera (Llundain: OUP, argraffiad 1974)
  • M. Scott, The Record of Singing Volume I (Llundain: Duckworth, 1977)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Hempel, Frieda (1885–1955) | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2020-09-19.
  2. "Frieda Hempel". Britannica Kids. Cyrchwyd 2020-09-19.
  3. Osborne, Conrad L. (Ionawr 2016). "Pearl of the Met". www.operanews.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-19. Cyrchwyd 2020-09-19.
  4. "Review: Frieda Hempel (1885-1955)". Gramophone. Cyrchwyd 2020-09-19.[dolen marw]
  5. "Frieda Hempel (1885-1955) - Find A Grave Memorial". www.findagrave.com. Cyrchwyd 2020-09-19.
  6. Baker's Biographical Dictionary of Twentieth-Century Classical Musicians, gol. Nicolas Slonimsky, Laura Kuhn a Dennis McIntire (Efrog Newydd: Schirmer Books, 1997), 1109