Barbwr Sevilla

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Barbwr Sevilla
Opera buffa gan Gioachino Rossini
Rossini-portrait-0.jpg
Portread o'r cyfansoddwr
Teitl iaith gwreiddiol Il barbiere di Siviglia, ossia L'inutile precauzione
Libretydd Cesare Sterbini
Iaith Eidaleg
Seiliedig ar Drama gomedi Beaumarchais Le Barbier de Séville
Premiere 20 Chwefror 1816 (1816-02-20)
Teatro Argentina, Rhufain

Mae Barbwr Sevilla, neu'r Rhagofal Diwerth (Eidaleg: Il barbiere di Siviglia, ossia L'inutile precauzione) yn opera buffa mewn dwy act gan Gioachino Rossini gyda libreto Eidaleg gan Cesare Sterbini. Seiliwyd y libreto ar gomedi Ffrengig Pierre Beaumarchais, Le Barbier de Séville (1775). Perfformiwyd opera Rossini (dan y teitl Almaviva, o sïa L'inutile precauzione) ar 20 Chwefror 1816 yn y Teatro Argentina yn Rhufain, [1] gyda set wedi ei ddylunio gan Angelo Toselli.

Mae Barbwr Sevilla, Rossini wedi ei brofi i fod yn un o gampweithiau comedi mwyaf y byd cerddoriaeth glasurol, ac ar ôl dau gan mlynedd, mae'n parhau i fod yn waith poblogaidd. [2]

Hanes cyfansoddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae opera Rossini yn ailadrodd digwyddiadau'r cyntaf o'r tair drama gan y dramodydd Ffrengig Pierre Beaumarchais sy'n troi o amgylch cymeriad clyfar a mentrus o'r enw Figaro, barbwr y teitl. Mae opera Mozart Priodas Figaro, a gyfansoddwyd 30 mlynedd yn gynharach ym 1786, wedi'i seilio ar ail ran triawd Beaumarchais.

Cyfansoddwyd operâu eraill yn seiliedig ar y ddrama gyntaf yn y gyfres. Cynhyrchwyd Il Barbiere di Siviglia gan Giovanni Paisiello ym 1782). Bu opera ar yr un pwnc gan Nicolas Isouard ym 1796, ac yna gan Francesco Morlacchi ym 1816. Er bod gwaith Paisiello wedi bod ar y brig am gyfnod, dim ond fersiwn Rossini sydd wedi sefyll prawf amser ac sydd yn parhau i fod yn gonglfaen y repertoire operatig cyfoes.

Hanes perfformio[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y perfformiad cyntaf o opera Rossini yn y Teatro Argentina yn Rhufain yn drychineb. [3] Bu'r gynulleidfa yn hisian ac yn gwatwar o'r cychwyn hyd y diwedd a bu nifer o ddamweiniau ar y llwyfan. Roedd nifer o aelodau'r gynulleidfa yn gefnogol i un o gystadleuwyr Rossini, Giovanni Paisiello, a oedd yn chware ar wallgofwyf y dorf i brofocio aelodau eraill o'r gynulleidfa i gamymddygiad. [4] Roedd Paisiello eisoes wedi cyfansoddi opera am Farbwr Sevilla ac yn gweld cyfansoddiad newydd Rossini yn lladrad ac yn sarhad i'w waith ef. Er gwaethaf hyn tyfodd fersiwn Rossini o'r Barbwr mewn poblogrwydd yn fuan iawn.[5]

Cafodd yr opera ei berfformiad cyntaf yn Lloegr ar 10 Mawrth 1818 yn y King's Theatre, Llundain yn cael ei ganu yn yr Eidaleg gwreiddiol. Ychydig yn ddiweddarach cafodd cyfieithiad Saesneg gan John Fawcett a Daniel Terry ei berfformio yn Theatr Covent Garden ar 13 Hydref 1818. Cyfieithiad Covent garden oedd y fersiwn cyntaf o'r sioe i gael ei lwyfannu yn yr Unol Daleithiau yn y Park Theatre, Efrog Newydd ar 3 Mai 1819. [6]

Mae'n bosib mae'r perfformiad yn Theatr y Grand Caerdydd ym mis Mai 1892 oedd y perfformiad cyntaf yng Nghymru. [7] Yn fwy diweddar bu'r gwaith yn rhan o arlwy tymor 2015/2016 Opera Cenedlaethol Cymru [8] ac ar daith gan Opera Dinas Abertawe ym 2018. [9]

Mae'r ail act yn cynnwys golygfa lle mae'r cymeriad Rosina yn cael gwers canu, byddai rhai cantoresau yn defnyddio'r olygfa i roi cyngerdd bach heb ei sgriptio i mewn i'r cynhyrchiad [10]. Bu Adelina Patti yn cynnwys can Luigi Arditi's "Il bacio", y Bolero I vespri siciliani gan Verdi, a chan poblogaidd Henry Bishops "Home! Sweet Home!". Bu Nellie Melba yn gwneud yr un fath gan gyfeilio ei hun ar y piano ar gyfer y gan olaf. Er nad oedd yr arfer yn cael ei groesawu gan bawb, bu gohebydd y Cardiff Evening Express yn cwyno bod y cynhyrchiad yng Nghaerdydd wedi ei ddifetha gan gynnwys can o'r enw My Pretty Jane i'r arlwy. [11]

Cast[golygu | golygu cod y dudalen]

Nellie Melba yn rôl Rosina
Cymeriad Llais
Ardalydd Almaviva Bonhedig pwdr tenor
Bartolo, meddyg a gwarcheidwad Rosina baswr
Rosina, Disgybl cyfoethog yn nhŷ Bartolo contralto
Figaro, Barbwr bariton
Basilio, Athro cerdd Rosina, rhagrithwr bass
Berta, Morwyn yn nhŷ Bartolo soprano
Fiorello, Gwas Ardalydd Almaviva baswr
Ambrogio, Gwas Bartolo baswr
Swyddog yr Heddlu baswr
Notari (Cyfreithiwr sy'n ardystio dogfennau) Dim yn canu
Corws: Swyddogion, Milwyr, Cerddorion stryd

Synopsis[golygu | golygu cod y dudalen]

Lle: Sevilla, Sbaen [12]

Amser: 18 Ganrif

Act 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Ryan Allen yn rôl Dr Bartolo (2012)

Golygfa: Y sgwâr tu allan i dŷ Bartolo [13]

Ar sgwâr cyhoeddus y tu allan i dŷ Bartolo, mae band o gerddorion a myfyriwr tlawd o'r enw Lindoro yn serenadu, heb lwyddiant, ffenestr Rosina (Ecco, ridente in cielo; "Yna, yn chwerthin yn yr awyr"). Mae Lindoro, sef yr Ardalydd Almaviva ifanc, mewn cuddwisg, yn gobeithio bydd Rosina yn syrthio mewn cariad a'i bersonoliaeth - gan nad yw am gael ei garu am ei ffortiwn yn unig. Mae Almaviva yn talu'r cerddorion sydd wedyn ei adael ar ben ei hun yn y sgwâr.

Rosina yw ward ifanc, Bartolo meddyg sarrug oedrannus. Dyw Bartolo dim yn rhoi llawer o ryddid i Rosina cymdeithasu gan ei fod am ei phriodi, ac ennill ei gwaddol sylweddol, pan fydd yn cyrraedd oedran cyfreithiol i briodi.

Mae Figaro yn dynesu gan ganu (Aria: Largo al factotum della città; "Gwnewch ffordd i was y ddinas"). Gan fod Figaro'n arfer bod yn was i'r Ardalydd, mae Almaviva yn gofyn iddo am gymorth i'w helpu i gwrdd â Rosina, gan gynnig arian iddo pe bai'n llwyddo. (Deuawd: All'idea di quel metallo; "Y syniad o'r fath metel"). Mae Figaro yn cynghori'r Ardalydd i guddwisgo fel milwr meddw, gyda gorchymyn ar i Bartolo roi llety dros dro iddo, er mwyn cael mynediad i'r tŷ. Am yr awgrym hwn, mae Figaro yn cael ei wobrwyo'n hael.[14]

Golygfa 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Ystafell yn nhŷ Bartolo gyda phedwar drws[15]

Mae'r olygfa yn dechrau wrth i Rosina canu ei chafatina, Una voce poco fa ("Llais, ychydig bach yn ôl").

Gan adnabod yr Ardalydd fel Lindoro yn unig, mae Rosina yn ysgrifennu ato. Wrth iddi adael yr ystafell, mae Bartolo a Basilio yn dod i mewn. Mae Bartolo yn amheus bod gan yr Ardalydd diddordeb rhamantus parthed Rosina. Mae Basilio yn awgrymu cael gwared ohono trwy greu sïon ffug amdano (La calunnia è un venticello - "Mae enllib fel yr awel").[16]

Wedi i'r ddau henwr ymadael mae Rosina a Figaro yn dychwelyd. Mae Figaro yn gofyn i Rosina ysgrifennu ychydig o eiriau calonogol i Lindoro, heb wybod bod hi eisoes wedi gwneud hynny. (Deuawd: Dunque io son...tu non m'inganni?; "Felly rwyf ... nid wyt yn fy nhwyllo?")

Mae Bartolo yn amau bod Rosina wedi ysgrifennu llythyr at Lindoro; pan mae hi'n protestio ei bod yn ddieuog, mae o'n ei rhybuddio iddi beidio â cheisio ei dwyllo ef, gan ei chynghori i ddod o hyd i well esgusodion os am gael y gorau ar ddyn o'i statws a gallu. (Aria: Un dottor della mhia sorte; "I feddyg o fy safon").

Mae Almaviva, sydd bellach wedi'i wisgo fel milwr, yn cyrraedd i gymryd ei 'biled' yn nhŷ Bartolo. Wrth gwrs, mae Rosina wrth ei bodd pan ddatgelir iddo mae ef yw ei edmygydd mewn gwirionedd. Mae aflonyddwch Bartolo ac ymddygiad meddw Almaviva yn achosi ffrae swnllyd sydd yn gwneud i'r cymdogion galw'r milisia. Mae'r Ardalydd, fodd bynnag, yn dianc rhag yn cael ei arestio, er fawr syndod a siom i Bartolo.[17]

Act 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Ystafell biano yn nhŷ Bartolo

Figaro yn eillio Bartolo (Florida Grand Opera 2015)

Mewn cuddwisg arall mae Almaviva yn mynd i mewn i'r tŷ gan gogio mae ef yw Don Alonso. Mae Don Alonso yn honni ei fod wedi dod i roi gwers cerdd i Rosina yn lle ei athro arferol Don Basilio, y mae o'n honni sydd wedi ei daro gan salwch sydyn. Wrth i Rosina derbyn ei wers mae Bartolo yn cael cyntun bach, sy'n rhoi cyfle i Rosina a Lindoro i fynegi eu cariad ac i gynllwynio ffordd i redeg ymaith i briodi.[18]

Mae Figaro yn cyrraedd i eillio Bartolo. Mae'n llwyddo i ddwyn yr allwedd i falconi Rosina ac yn hudo Bartolo i allan o'r ystafell gerdd trwy dorri pentwr o lestri. Mae'r cynllun i'w weld fel petai'n gweithio’n well na'r disgwyl hyd i Don Basilio troi fyny ar gyfer y wers. Does gan Don Basilio dim syniad pwy yw 'Don Alonso ac yn methu deall pam bod athro cerdd arall yno yn ei le. Mae'n cael ei lwgrwobrwyo gan Almaviva gyda phawb yn ei berswadio ei fod yn sâl go iawn. (Pumawd: Don Basilio! - Cosa veggo! " Don Basilio! - Beth rwy'n ei weld?"). Mae Figaro yn mynd yn ôl i eillio Bortolo ac yn dweud wrth Rosina am ei gynllun i gynorthwyo'r ddau gariad i ffoi.

Dyw Bartolo heb ei dwyllo'n llwyr, mae'n gweithio allan mae Lindoro mewn cuddwisg yw Don Alonso mae'r gêm ar ben i'r cariadon (am y tro)![19]

Mae Bartolo yn penderfynu priodi Rosina yn ddi-oed. Mae Berta, morwyn Bartolo, yn gwneud sylwadau craff am ffolineb hen ddynion sy'n dymuno priodi gwragedd ifanc. Mae Bartolo yn dangos llythyr i Rosina yr oedd hi wedi danfon i Lindoro ac yn ei pherswadio ei bod yn ffôl wrth gredu bod Lindoro yn ei charu gan nad yw yn ddim ond asiant sy'n amlwg yn gweithredu ar ran Almaviva.

Yn dilyn stormydd cryf, mae Figaro ac Almaviva yn dringo i mewn i'r tŷ trwy ddefnyddio ysgol i gyrraedd ffenestr agored. Mae Rosina yn teimlo'n ddig am gael ei ddefnyddio gan Lindoro ar ran yr Ardalydd. Mae Lindoro yn datgelu mae ef yw'r Ardalydd Almaviva yn ceisio ei chael hi i'w garu heb wybod am ei deitl a'i gyfoeth. Mae hi'n maddau Lindoro / Almaviva am ei dwyll ac yn syrthio'n gariadus i mewn i'w breichiau. Mae Figaro yn awyddus i'r cariadon i ffoi ar frys, ond maen nhw'n darganfod na allant ddianc oherwydd bod Bartolo wedi symud yr ysgol.[20]

Mae Basilio yn dychwelyd gyda'r notari sy'n barod i briodi Rosina i'w gwarcheidwad, ond trwy lwgrwobr a bygythiad i'w saethu yn cael ei berswadio i fod yn dyst i briodas Rosina ac Almaviva yn lle hynny. Mae Bartolo yn dychwelyd gydag ynad, ond mae'n rhy hwyr ac mae'n rhaid iddo gydnabod ei fod wedi colli Rosina. Mae'r opera yn dod i ben trwy ganu anthem i gariad (Amor e fede eterna, si vegga in nhoi regnar! "Cariad a ffydd yn dragwyddol, rydym yn ei weld yn teyrnasu ynom ni").[21]

Detholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Barbwr Sevilla – Disgyddiaeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Casaglia, Gherardo, "20 Febbraio 1816" Archifwyd 3 December 2013 yn y Peiriant Wayback., Almanacco Amadeus, 2005
  2. Fisher, Burton D., The Barber of Seville (Opera Classics Library Series). Grand Rapids: Opera Journeys, 2005.
  3. Osborne, Charles (1994). The Bel Canto Operas. Portland: Amadeus Press. p. 52. ISBN 0-931340-71-3. 
  4. Osborne, Richard 2007, pp. 38–41 Archifwyd 17 June 2014 yn y Peiriant Wayback..
  5. Opera Awstralia - CHEAT SHEET: THE BARBER OF SEVILLE adalwyd 10 Hydref 2018
  6. Loewenberg, Alfred (1978). Annals of Opera 1597–1940 (third edition, revised). Totowa, New Jersey: Rowman and Littlefield. ISBN 978-0-87471-851-5
  7. "GRAND OPERA AT CARDIFF - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-05-27. http://hdl.handle.net/10107/3231060. Adalwyd 2018-10-10.
  8. Opera Cenedlaethol Cymru The Barber of Seville Rossini adalwyd 10 hydref 2018
  9. Opera Dinas Abertawe The Barber of Seville Rossini adalwyd 10 hydref 2018
  10. Osborne, Richard (1992), The Barber of Seville, in Stanley Sadie (Ed.), The New Grove Dictionary of Opera, Vol. One. London: Macmillan Publishers, Inc. ISBN 0-333-73432-7
  11. "IL BARBIERS DE SEVILLE AT CARDIFF - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-05-28. http://hdl.handle.net/10107/3231067. Adalwyd 2018-10-10.
  12. Summary of “The Barber of Seville” in 3 Minutes - Opera Synopsis adalwyd 10 Hydref 2018
  13. Opera Cenedlaethol Lloegr – Discover The Barber of Seville adalwyd 10 Hydref 2018
  14. The plot of 'The Barber of Seville' | The Seattle Times adalwyd 10 Hydref 2018
  15. Rossini's 'Barber of Seville' Plot Synopsis – Thought Co adalwyd 10 Hydref 2018
  16. Rossini's 'The Barber of Seville' : NPR adalwyd 10 Hydref 2018
  17. The Barber of Seville 2009 Synopsis - NOVA adalwyd 10 Hydref 2018
  18. The Barber of Seville (Work - Gioacchino Rossini/Cesare Sterbini ... adalwyd 10 Hydref 2018
  19. Music with ease - The Barber of Seville - Synopsis adalwyd 10 Hydref 2018
  20. Y Tŷ Opera Brenhinol Il barbiere di Siviglia adalwyd 10 Hydref 2018
  21. Study Guide for The Barber of Seville 2016.pub - Pittsburgh Opera adalwyd 10 Hydref 2018