Le nozze di Figaro
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
gwaith drama-gerdd, opera ![]() |
Iaith |
Eidaleg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi |
1785 ![]() |
Dechrau/Sefydlu |
1785 ![]() |
Genre |
opera buffa ![]() |
Cyfres |
list of operas by Wolfgang Amadeus Mozart ![]() |
Cymeriadau |
Figaro, Cherubino, Iarll Almaviva, Marcellina, Bartolo, Basilio, Don Curzio, Barbarina, Dwy fenyw, Susanna, Iarlles Rosina Almaviva, Antonio ![]() |
Yn cynnwys |
Agorawd (priodas Figaro), Non più andrai, Se vuol ballare, Voi non sapete ![]() |
Libretydd |
Lorenzo Da Ponte ![]() |
Cyfansoddwr |
Wolfgang Amadeus Mozart ![]() |
Dyddiad y perff. 1af |
1 Mai 1786 ![]() |
Statws hawlfraint |
parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
Opera buffa (comedi) gan Wolfgang Amadeus Mozart, gyda libretto gan Lorenzo da Ponte, yw Le nozze di Figaro, K. 492.
Cafodd ei pherfformiad cyntaf ar 1 Mai 1786, yn y Burgtheater, Wien.
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Le nozze di Figaro ("Priodas Figaro") yn opera a gyfansoddwyd gan Wolfgang Amadeus Mozart ym 1786 gyda libreto Eidalaidd a ysgrifennwyd gan Lorenzo Da Ponte. Mae'r opera yn adrodd hanes Figaro i gadw ei dyweddi Susanna rhag eu meistr, Ardalydd Almaviva, sy'n credu bod gan feistr hawl i gael rhyw gyda'i morynion ar noswyl eu priodas. Mae libreto'r opera yn seiliedig ar gomedi llwyfan gan Pierre Beaumarchais, La folle journée, ou le Mariage de Figaro ("Y diwrnod gorffwyll," neu "Briodas Figaro"), a berfformiwyd gyntaf ym 1784. Mae'n adrodd sut bu'r gweision, Figaro a Susanna, llwyddo priodi, gan rwystro ymdrechion eu cyflogwr ofer, Ardalydd Almaviva, i lathludo Susanna a rhoi gwers iddo mewn pwysigrwydd ffyddlondeb.
Mae'r sioe yn gonglfaen i'r repertoire opera ac mae'n ymddangos yn gyson ymhlith y deg uchaf yn rhestr Operabase o'r operâu a berfformir amlaf.[1]
Perfformiad cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]
Perfformiwyd Priodas Figaro am y tro cyntaf yn y Burgtheater, Fienna ar 1 Mai 1786 o dan arweiniad Mozart. Chwaraewyd rhan Figaro gan Francesco Benucci, rhan Susanna gan Nancy Storace a rhan Ardalydd Almaviva gan Stefano Mandini yn y perfformiad cyntaf.
Dramatis personae[golygu | golygu cod y dudalen]
- Il conte di Almaviva (baritôn)
- La contessa di Almaviva (soprano)
- Susanna, cariad Figaro (soprano)
- Figaro (baritôn)
- Cherubino, macwy Almaviva (mezzo-soprano)
- Marcellina (mezzo-soprano)
- Bartolo, meddyg (bas)
- Basilio, cerddor (tenor)
- Don Curzio (tenor)
- Barbarina (soprano), merch Antonio
- Antonio (bas)
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Le nozze di Figaro - disgyddiaeth
- ↑ "Statistics for the five seasons 2009/10 to 2013/14". Operabase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 1 Hydref 2018.