Les pêcheurs de perles
diwedd Act 1 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1863 |
Dechrau/Sefydlu | 1863 |
Genre | opéra comique, opera |
Cymeriadau | Nadir, Leïla, Zurga, Nourabad |
Libretydd | Eugène Cormon, Michel Carré, P. E. Cormon |
Lleoliad y perff. 1af | Theatre Lyrique |
Dyddiad y perff. 1af | 30 Medi 1863, 29 Medi 1863 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Georges Bizet |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Les pêcheurs de perles (Y Pysgotwyr Perlau) yn opera mewn tair act gan y cyfansoddwr Ffrengig Georges Bizet, i libreto gan Eugène Cormon a Michel Carré.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd ei ddangos am y tro cyntaf ar 30 Medi 1863 yn y Théâtre Lyrique ym Mharis, a chafodd 18 perfformiad yn ei rediad cychwynnol. Wedi'i gosod yn yr hen amser ar ynys Ceylon (Sri Lanka), mae'r opera yn adrodd hanes am sut mae adduned dau ddyn i fod yn gyfeillion tragwyddol yn cael ei fygwth gan eu teimladau o serch tuag at yr un fenyw. Mae hefyd yn trafod cyfyng-gyngor y ferch am wrthdaro rhwng cariad seciwlar a'i llw cysegredig fel offeiriades. Mae deuawd cyfeillgarwch yr opera "Au fond du temple saint", a elwir yn gyffredinol "Deuawd y Pysgotwyr Perlau",[2] yw un o'r rhai mwyaf adnabyddus yn y byd opera.
Ar adeg y premiere, nid oedd Bizet (ganwyd ar 25 Hydref 1838) yn 25 oed eto: nid oedd eto wedi sefydlu ei hun ym myd cerddorol Paris. Cododd y comisiwn i ysgrifennu Les pêcheurs o'r ffaith ei fod yn gyn enillydd y Prix de Rome. Roedd y Prix de Rome yn wobr o fri gan lywodraeth Ffrainc a roddwyd i bobl ifanc rhwng 1663 a 1968 i'w galluogi i dderbyn hyfforddiant yn y celfyddydau yn Rhufain.
Er gwaethaf derbyniad da gan y cyhoedd i 'Les pêcheurs', roedd ymateb y wasg i'r gwaith yn elyniaethus ac yn ddiystyriol ar y cyfan, er bod cyfansoddwyr eraill, yn enwedig Hector Berlioz, wedi canfod cryn rinwedd yn y gerddoriaeth. Ni adfywiwyd yr opera yn ystod oes Bizet, ond o 1886 ymlaen fe’i perfformiwyd gyda pheth rheoleidd-dra yn Ewrop a Gogledd America, ac o ganol yr 20g mae wedi mynd i mewn i repertoire tai opera ledled y byd. Oherwydd bod y sgôr gwreiddiol wedi'i golli, roedd cynyrchiadau ar ôl 1886 yn seiliedig ar fersiynau diwygiedig o'r sgôr a oedd yn cynnwys gwyriadau sylweddol o'r gwreiddiol. Ers y 1970au, gwnaed ymdrechion i ail lunio'r sgôr yn unol â bwriadau Bizet.
Mae barn feirniadol fodern wedi bod yn fwy caredig na barn cyfnod Bizet. Mae sylwebyddion yn disgrifio ansawdd y gerddoriaeth fel rhywbeth anwastad ac adegau heb wreiddioldeb, ond maent yn cydnabod yr opera fel gwaith o addewid lle mae doniau Bizet am alaw ac offeryniaeth atgofus yn amlwg.[3] Maent wedi nodi rhagfynegiadau clir o athrylith y cyfansoddwr a fyddai’n cyrraedd ei uchafbwynt, 10 mlynedd yn ddiweddarach, yn Carmen. Er 1950 recordiwyd y gwaith ar sawl achlysur, yn y fersiynau diwygiedig a gwreiddiol.
Opera cyntaf Bizet, oedd y gwaith un act Le docteur Miracle,[4] a chafodd ei ysgrifennu ym 1856 pan oedd y cyfansoddwr yn 18 oed ac yn fyfyriwr yn y Conservatoire de Paris. Dyma oedd cais buddugol Bizet mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y cyfansoddwr enwog Jacques Offenbach, ac enillodd wobr ariannol iddo, medal aur, a pherfformiad o'r gwaith arobryn yn y Théâtre des Bouffes-Parisiens.[5] Ym 1857 dyfarnwyd y Prix de Rome o fri i Bizet, ac o ganlyniad treuliodd y rhan fwyaf o'r tair blynedd ganlynol yn yr Eidal, lle ysgrifennodd Don Procopio, opera buffa byr yn arddull Donizetti.[6] Erbyn hyn roedd Bizet wedi ysgrifennu sawl gwaith di lwyfan, gan gynnwys ei Symffoni mewn C. Achosodd y derbyniad gwael a roddwyd i'w Te Deum ym 1858, gwaith crefyddol a gyfansoddodd yn Rhufain, i'w argyhoeddi bod ei ddyfodol yn gorwedd yn bennaf gyda'r theatr gerdd.[7] Cynlluniodd ac o bosibl dechreuodd sawl gwaith operatig cyn iddo ddychwelyd i Baris ym 1860, ond ni ddaeth yr un o'r prosiectau hyn i ffrwythlondeb.[8]
Ym Mharis, darganfu Bizet yr anawsterau oedd yn wynebu cyfansoddwyr ifanc a chymharol anhysbys a oedd yn ceisio cael perfformiadau o'u hoperâu. O'r ddau dŷ opera oedd yn derbyn cymhorthdal gan y wladwriaeth, yr Opéra a'r Opéra-Comique, cynigiodd y cyntaf repertoire statig lle'r oedd gweithiau gan gyfansoddwyr tramor, yn enwedig Rossini a Meyerbeer, yn fwyaf poblogaidd. Roedd hyd yn oed cyfansoddwyr Ffrengig sefydledig fel Gounod yn cael anhawster cael gweithiau wedi'u perfformio yno.[9][10] Yn yr Opéra-Comique, roedd arloesi'r un mor brin; er i fwy o weithiau Ffrengig gael eu perfformio yno, prin fod arddull a chymeriad y mwyafrif o gynyrchiadau wedi newid ers y 1830au. Fodd bynnag, un o amodau cyllido llywodraethol ar yr Opéra-Comique oedd y dylai o bryd i'w gilydd gynhyrchu gweithiau un act gan gyn enillwyr y Prix de Rome. O dan y ddarpariaeth hon, ysgrifennodd Bizet La guzla de l'Emir, gyda libreto gan Jules Barbier a Michel Carré, a chafodd y gwaith ei hymarfer yn gynnar ym 1862.[11]
Yn Ebrill 1862, tra fo ymarferion La guzla yn parhau, ymwelodd Léon Carvalho, rheolwr cwmni annibynnol Théâtre Lyrique, â Bizet. Roedd Carvalho wedi cael cynnig grant blynyddol o 100,000 ffranc gan Weinidog y Celfyddydau Cain, Yr Ardalydd Walewski, ar yr amod ei fod yn llwyfannu opera tair act newydd bob blwyddyn gan enillydd diweddar y Prix de Rome. Roedd gan Carvalho farn uchel am alluoedd Bizet, a chynigiodd iddo libreto Les pêcheurs de perles, stori egsotig gan Carré ac Eugène Cormon wedi'i gosod ar ynys Ceylon (Sri Lanca bellach). Gan weld cyfle am lwyddiant theatraidd efo gwaith cyflawn, derbyniodd Bizet y comisiwn. Oherwydd bod Walewski wedi cyfyngu ei grant i gyfansoddwyr nad oeddent wedi cael unrhyw waith masnachol blaenorol, tynnodd Bizet La guzla yn ôl o'r Opéra-Comique; ni pherfformiwyd hi erioed, ac mae'r gerddoriaeth wedi diflannu bellach.[11]
Rolau
[golygu | golygu cod]Rôl | Math o lais | Cast y premiere 30 Medi 1863 (Arweinydd: Adolphe Deloffre) |
---|---|---|
Leïla, offeiriades Brahma | soprano | Léontine de Maësen [12] |
Nadir, pysgotwr | tenor | François Morini |
Zurga, prif bysgotwr | bariton | Ismaël |
Nourabad, archoffeiriad Brahma | bas | Prosper Guyot [13] |
Corws pysgotwyr, gwyryfon, offeiriaid ac offeiriaid Brahma |
Crynodeb
[golygu | golygu cod]- Lleoliad: Ceylon
- Amser: Amseroedd hynafol
Act 1
[golygu | golygu cod]Glan môr anghyfannedd yw'r olygfa, gydag adfeilion teml Hindŵaidd yn y cefndir. Mae corws o bysgotwyr perlau yn canu am y tasgau peryglus sydd o'u blaenau ("Sur la grève en feu"), gan berfformio dawnsfeydd defodol i yrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Yna maen nhw'n ethol un o'u plith, Zurga, fel eu harweinydd, neu "frenin". Mae Nadir yn dod i mewn, ac yn cael ei alw gan Zurga cyn cyfaill nad yw wedi ei weld am amser maith. Wedi eu gadael ar eu pennau eu hunain, mae'r pâr yn hel atgofion am eu gorffennol yn ninas Kandy, lle dinistriwyd eu cyfeillgarwch bron gan fod ill dau yn caru offeiriades ifanc wedi iddynt syllu am enid ar ei harddwch. Roedd y ddau wedi penderfynu peidio â charu'r ferch ac wedi tyngu i aros yn driw i'w gilydd. Nawr, wedi eu haduno, maen nhw'n cadarnhau unwaith eto y byddan nhw'n ffyddlon hyd farwolaeth ("Au fond du temple sant").[14]
Mae cwch yn tynnu i fyny ar y traeth sy'n dwyn ffigur Leila, yr offeiriades wyryfol y mae angen ei gweddïau i sicrhau diogelwch y pysgotwyr. Er nad yw Nadir na Zurga yn ei chydnabod, hi yw'r fenyw o Kandy yr oedd y ddau wedi bod mewn cariad â hi. Gan fod Zurga yn egluro ei dyletswyddau, mae'n cydnabod Nadir, ond nid yw'n dweud dim ac yn fuan wedi hynny caiff ei harwain i fyny i'r deml gan yr archoffeiriad Nourabad. Mae Zurga a'r pysgotwyr yn mynd i lawr i'r môr, gan adael Nadir ar ei ben ei hun. Mewn ymson cythryblus cyn iddo gysgu mae'n cofio sut, yn Kandy, yr oedd wedi torri ei addunedau i Zurga a dilyn ei gariad at y fenyw ("Je crois entendre encore"). Y si bod modd dod o hyd iddi yn y lle hwn a ddaeth ag ef yma. Ar ei ben ei hun yn y deml, mae Leila yn gweddïo ac yn canu. Mae Nadir yn deffro ac, gan gydnabod llais yr hogan mae wedi dymuno ei charu ers hir, mae'n ei olrhain i'r deml. Mae Leila yn tynnu ei gorchudd o'r neilltu am ennyd, ac wrth iddynt syllu a'i gilydd mae eu hangerdd yn cael ei ail gynnau. Ar y traeth, mae'r pysgotwyr yn pledio gyda Leila i barhau i'w hamddiffyn, ond mae hi'n dweud wrth Nadir y bydd hi'n canu iddo ef yn unig ("O Dieu Brahma").[15]
Act 2
[golygu | golygu cod]Yn y deml gyda Nourabad, mae Leila yn mynegi ofn cael ei gadael ar ei phen ei hun, ond mae Nourabad yn ei hannog i fod yn ddewr ac i gyflawni ei haddunedau i Brahma ar boen marwolaeth. Mae hi'n dweud wrtho am y dewrder a ddangosodd unwaith pan oedd hi, fel plentyn, wedi cuddio ffoadur rhag ei elynion ac wedi gwrthod ei ildio hyd yn oed pan gafodd ei bygwth â marwolaeth (J'étais encore enfant"). Roedd y ffoadur wedi ei gwobrwyo â mwclis y gofynnodd iddi ei gwisgo bob amser. Roedd hi wedi cadw'r addewid hwn, fel y byddai'n cadwn driw i'w addewidion crefyddol. Ar ymadawiad yr offeiriad, mae Leila yn myfyrio'n dawel am yr adegau cynt pan fyddai hi a Nadir yn cwrdd gyda'i gilydd yn gyfrinachol ("Comme autrefois dans la nuit sombre"). Yna daw Nadir i mewn; wedi ei dychryn gan fygythiadau Nourabad mae Leila yn ei annog i adael, ond mae'n aros ac mae'r ddau yn datgan eu cariad mewn deuawd angerddol ("Léïla! Léïla!...Dieu puissant, le voilà!"). Mae'n mynd, gan addo dychwelyd noson nesaf, ond wrth iddo adael mae'n cael ei ddal gan y pysgotwyr a'i ddwyn yn ôl i'r deml. Ar y dechrau mae Zurga, fel arweinydd y pysgotwyr, yn gwrthsefyll galwadau'r pysgotwyr am ddienyddiad Nadir ac yn eiriol trugaredd. Fodd bynnag, ar ôl i Nourabad dynnu gorchudd Leila, mae Zurga yn ei hadnabod fel eu cyn cariad. Wedi ei wylltio gan genfigen, mae'n gorchymyn bod Nadir a Leila yn cael eu rhoi i farwolaeth. Mae storm yn cychwyn wrth i'r pysgotwyr uno i ganu emyn i Brahma ("Brahma divin Brahma!").[16]
Act 3
[golygu | golygu cod]Yn ei babell ar y traeth, mae Zurga yn nodi bod y storm wedi cilio, fel y mae ei gynddaredd; mae bellach yn teimlo edifeirwch am ei ddicter tuag at Nadir ("L'orage s'est calmé"). Dygir Leila i mewn; mae Zurga wedi ei swyno gan ei harddwch wrth iddo wrando arni'n ymbil am fywyd Nadir, ond mae ei genfigen yn cael ei ailgynnau. Mae'n cyfaddef ei gariad tuag ati, ond mae'n gwrthod trugaredd ("Je suis jaloux"). Mae Nourabad a rhai o'r pysgotwyr yn dod i mewn i adrodd bod y goelcerth angladdol yn barod. Wrth i Leila gael ei chymryd i ffwrdd, mae Zurga yn ei gweld yn rhoi ei mwclis i un o'r pysgotwyr, gan ofyn am ddychwelyd i'w mam. Gyda bloedd, mae Zurga yn rhuthro allan ar ôl y grŵp ac yn cipio’r mwclis.[17]
Y tu allan i'r deml, mae Nadir yn aros wrth ochr y goelcerth angladdol wrth i'r dorf, canu a dawnsio, gan ddisgwyl am y wawr a'r dienyddiad dwbl sydd i ddod ("Dès que le soleil"). Mae Leila yn ymuno ag ef; wedi derbyn eu tynged, mae'r pâr yn canu am sut y bydd eu heneidiau'n cael eu huno yn y nefoedd yn fuan. Mae golau yn ymddangos yn yr awyr, ac mae Zurga yn rhuthro i mewn i adrodd bod gwersyll y pysgotwyr ar dân. Wrth i'r dynion frysio i ffwrdd i achub eu cartrefi, mae Zurga yn rhyddhau Leila a Nadir. Mae'n dychwelyd y mwclis i Leila, ac yn datgelu mai ef yw'r dyn a achubodd pan oedd hi'n blentyn. Mae'n cydnabod nawr bod ei gariad tuag ati yn ofer, ac yn dweud wrthi hi a Nadir i ffoi. Wrth i'r cwpl adael, gan ganu am fywyd llawn cariad sy'n eu disgwyl, mae Zurga yn cael ei adael ar ei ben ei hun, i aros am ddychweliad y pysgotwyr ("Plus de crainte. Plus de crainte. Plus de crainte!").
(Yn y fersiwn ddiwygiedig o’r diweddglo a gyflwynwyd ar ôl adfywiad yr opera ym 1886, mae Nourabad yn dyst i Zurga yn rhyddhau'r carcharorion ac yn ei fradychu i’r pysgotwyr. Mae un ohonynt yn trywanu Zurga i farwolaeth wrth i'r nodyn olaf yn gân ffarwel Leila a Nadir darfod. Mewn rhai amrywiadau mae Zurga yn cwrdd â'i farwolaeth mewn ffyrdd eraill, ac mae ei gorff yn cael ei draddodi i'r goelcerth.) [18]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Les pêcheurs de perles - Disgyddiaeth
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Dean, Winton (1965). Georges Bizet: His Life and Work. London: J.M. Dent & Sons Ltd. OCLC 643867230.
- Curtiss, Mina (1959). Bizet and his World. London: Secker & Warburg. OCLC 505162968.
- Steen, Michael (2003). The Life and Times of the Great Composers. London: Icon Books. ISBN 978-1-84046-679-9.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Les pêcheurs de perles | Staatsoper Berlin". www.staatsoper-berlin.de. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "BBC - Gogledd Orllewin - Gŵyl y Faenol 2005". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-11.[dolen farw]
- ↑ "Les Pêcheurs de Perles review – inconsistently ravishing". the Guardian. 2016-01-05. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "Bizet's Le Docteur Miracle". www.popupopera.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-12.[dolen farw]
- ↑ Dean (1965), tud. 9-10
- ↑ Dean (1965), tud. 20
- ↑ Curtiss (1959) tud 68-71
- ↑ Dean (1965), tud. 260-61
- ↑ Steen, tud. 586
- ↑ Dean (1965), tud. 36-39
- ↑ 11.0 11.1 Dean (1965), tud. 47-48
- ↑ "Pêcheurs de perles, Les". Grove Music Online. doi:10.1093/gmo/9781561592630.article.o903766. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ Dean (1965), tud. 50–52
- ↑ "Les Pêcheurs de Perles". www.metopera.org. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "Synopsis from Les Pêcheurs de perles". Opera-Arias.com. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "Bizet's The Pearl Fishers | ENO Operas | English National Opera". Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "Opera Profile: Bizet's 'Les Pecheurs de Perles'". Opera Wire. 2017-10-01. Cyrchwyd 2020-09-12.
- ↑ "The Pearl Fishers – Synopsis and Highlights". Utah Opera. 2014-12-19. Cyrchwyd 2020-09-12.