La fille du régiment
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1840 |
Dechrau/Sefydlu | 1840 |
Genre | opéra comique, opera |
Cymeriadau | corporal, notari, gwerinwr, Y Sarsiant Sulpice, Y Dduges Crakentorp, Yr Ardalyddes Berkenfield, Hortensius, Marie, Tonio, milwyr Ffrengig |
Libretydd | Jules-Henri Vernoy de Saint-Georges, Jean-François Bayard |
Lleoliad y perff. 1af | Opéra-Comique |
Dyddiad y perff. 1af | 11 Chwefror 1840 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Tirol |
Cyfansoddwr | Gaetano Donizetti |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae La fille du régiment (Merch y Gatrawd) yn opéra comique mewn dwy act gan Gaetano Donizetti, wedi'i gosod i libreto Ffrengig gan Jules-Henri Vernoy de Saint-Georges a Jean-François Bayard. Cafodd ei pherfformio gyntaf ar 11 Chwefror 1840 gan y Paris Opéra-Comique yn y Salle de la Bourse. Ysgrifennodd Donizetti'r opera tra roedd yn byw yn Paris rhwng 1838 a 1840 wrth baratoi fersiwn adolygiadol o'r opera Eidaleg oedd heb ei pherfformio, Poliuto, fel Les martyrs ar gyfer Paris Opéra. Roedd Martyrs wedi'i gohirio, ac roedd gan y cyfansoddwr amser i gyfansoddi'r gerddoiaeth ar gyfer La fille du régiment, ei opera gyntaf wedi'i gosod i destun Ffrengig, yn ogystal â llwyfannu fersiwn Ffrengig Lucia di Lammermoor fel Lucie de Lammermoor. Roedd La fille du régiment yn llwyddiannus iawn, yn ddiolch rhannol i'r aria enwog "Ah! mes amis, quel jour de fête!", sy'n gofyn i'r tenor i ganu wyth C uchel. Cafodd fersiwn Eidaleg o'r opera, La figlia del reggimento, (wedi'i chyfiethu gan Calisto Bassi) wedi'i addasu ar gyfer hoffter y cyhoedd Eidaleg.
Hanes perfformio
[golygu | golygu cod]Perfformiad cyntaf Opéra-Comique
[golygu | golygu cod]Fe wnaeth y noson agoriadol 'dim ond bron ag osgoi trychineb'.[1] Yn ôl sôn, roedd y prif denor yn aml allan o diwn.[2] Dywedpdd tenor Ffrengig Gilbert Duprez yn hwyrach yn ei Souvernirs d'un chanteur: "Fe wnaeth Donizetti'n aml cyfaddef sut wnaeth ei hunan-hyder fel cyfansoddwr wedi'i niwedio ym Mharis. Ni chafodd ei drin yno fel y dylai yn ôl ei rinweddau. Gwelais i'r camlwyddiant, bron i ddymchwel, La fille du régiment".[3][4] Derbyniodd beirniad negatif iawn gan y beirniad a chyfansoddwr Ffrengig Hector Berlioz (Journal des débats, 16 Chwefror 1840), a wnaeth halwio ni ellir ei gymryd o ddifrif gan y cyhoedd neu'r cyfansoddwr, er wnaeth Berlioz gyfaddef roedd y gerddoriaeth ' y wals sy'n ymddwyn fel yr entr'acte a'r triawd dialogué... yn bod ag eisiau naill ai bywiogrwydd neu ffresni."[5]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Cymeriad | Llais |
---|---|
Marie, vivandière | soprano coloratura |
Tonio, Tyrol ifanc | tenor |
Y Sarsiant Sulpice | bas |
Yr Ardalyddes Berkenfield | contralto |
Hortensius, gwas | bas |
Corporal | bas |
Gwerinwr | tenor |
Y Dduges Crakentorp | rhan llafar |
Notari | rhan llafar |
Milwyr Ffrengig, popbl Tyrol, gweision y Duges |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ William Ashbrook (1982). Donizetti and His Operas. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-23526-X, p. 146. Saesneg gwreiddiol: "a barely averted disaster."
- ↑ Ashbrook 1982, p. 651, note 45.
- ↑ Gilbert Duprez, Souvenirs d'un chanteur, 1880, p. 95 (at the Internet Archive).
- ↑ Quoted and translated by Ashbrook 1982, p. 146 "Donizetti often swore to me how his self-esteem as a composer had suffered in Paris. He was never treated there according to his merits. I myself saw the unsuccess, almost the collapse, of La fille du régiment."
- ↑ Ashbrook 1982, p. 146. "the little waltz that serves as the entr'acte and the trio dialogué ... lack neither vivacity nor freshness."