Edward Schillebeeckx

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Edward Schillebeeckx
Edward Schillebeeckx.jpg
Ganwyd 12 Tachwedd 1914 Edit this on Wikidata
Antwerp Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Rhagfyr 2009 Edit this on Wikidata (95 oed)
Nijmegen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth diwinydd, academydd, awdur, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/au Gwobr Erasmus, Gouden Ganzenveer, doctor honoris causa Edit this on Wikidata

Diwinydd Pabyddol o Wlad Belg oedd yn un o ffigurau blaenllaw Ail Gyngor y Fatican oedd Edward Cornelis Florentius Alfonsus Schillebeeckx (12 Tachwedd 191423 Rhagfyr 2009).[1] Yn ôl yr offeiriad ac athro Robert Schreiter, Schillebeeckx oedd yr ysgolhaig Catholig cyntaf i ymdrin mewn difrif â'r holl ymchwil i'r Iesu hanesyddol a'i gyflwyno mewn modd dealladwy ac eglur.[2]

Ysgrifenodd weithiau academaidd oedd yn arddel safbwyntiau blaengar ar Gristnogaeth ac yn cwestiynau rhai o athrawiaethau'r Eglwys Gatholig. Ym 1979 cafodd ei alw i'r Fatican am y tro cyntaf i ateb am ei gred a phrofi ei bod yn gyson â'r ddysgeidiaeth Babyddol. Cafodd ei gwestiynu eto yn y 1980au am ei farnau ar Iesu a'r atgyfodiad, ac am ei ddealltwriaeth o'r offeiriadaeth. Ni chafodd ei gyhuddo'n swyddogol neu ei chael yn euog gan yr un ymchwiliad.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Plentyndod[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Edward Cornelius Florentius Schillebeeckx i deulu o Ffleminiaid Pabyddol yn ninas Antwerp ar 12 Tachwedd 1914. Roedd yn y chweched o 14 o blant. Cyfrifydd oedd ei dad a dyn crefyddol oedd yn cymryd ei deulu i'r Offeren pob diwrnod am hanner wedi chwech y bore, ac yn ymgroesi talcenni'r plant pob nos cyn iddynt mynd i gysgu. Mynychodd y naw brawd ysgol yr Iesuwyr, ond nid oedd Edward yn hoff o lymder a ffurfioldeb y drefn Iesuaidd.[3]

Addysg ddiwinyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo adael yr ysgol Iesuaidd, penderfynodd Edward i ymuno ag Urdd y Dominiciaid ym 1934.[4] Treuliodd ei nofyddiaeth yn Ghent, ac astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Louvain am dair blynedd. Yno bu'n darllen Kant, Hegel, a Freud, er yr oeddent i gyd yn weithiau a waharddid yn swyddogol gan yr Eglwys.[3] Darllenodd hefyd weithiau'r diwinydd Karl Adam a'r Iesuwr Pierre Rousselot, gan feithrin meddwl Schillebeeckx ar brofiad dynol yr Iesu a'r traddodiad patristig.[5] Cafodd ei alw i'r fyddin ym 1938, ond treuliodd y mwyafrif o'i amser yn astudio. Ar ôl un flwyddyn, cafodd ei ganiatáu i ddychwelyd i Louvain. Dechreuodd yr Ail Ryfel Byd ar yr un adeg a chafodd ei alw'n ôl i'r fyddin, ond llwyddodd y lluoedd Almaenig i drechu'r Belgiaid yn gyflym. Dychwelodd Schillebeeckx i Louvain felly ym 1941 i gychwyn ar ei gwrs i gael ei ordeinio'n offeiriad. Pan gwblhaodd ei astudiaethau ym 1943, penodwyd yn ddarlithydd ar bwnc diwinyddiaeth ddogmataidd. Treuliodd dwyflwydd o 1946 i 1948 yn astudio yn y Sorbonne ac enillodd ddoethuriaeth o'r ysgol Ddominicaidd Le Saulchoir. Yno bu'n cwrdd ag Albert Camus[3] a chafodd ei ddylanwadu gan fudiad y nouvelle théologie. Dysgodd dan yr Athro Marie-Dominique Chenu, diwinydd oedd yn barod wedi ei feirniadu gan y Fatican, a magodd cyfeillgarwch ag Yves Congar.[1]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd unwaith eto i addysgu yn Louvain a gweithiodd fel caplan i'r carchar lleol a phregethodd mewn eglwysi ym mhentrefi'r cylch. Cafodd peth anghytundeb gydag awdurdodau'r brifysgol, yn enwedig wedi iddo dywys dau fws llawn myfyrwyr i oror Dwyrain yr Almaen i gyfarfod gweinidog Lwtheraidd oedd yn gweithio gyda ffoaduriaid. Lledaenodd enw Schillebeeckx ymhlith academyddion crefyddol gorllewin Ewrop, a chafodd ei wahodd i ddarlitho mewn prifysgolion eraill ac i ysgrifennu erthyglau am ddiwygio'r Eglwys ar gyfer cyfnodolion Iseldireg. Penodwyd yn athro Dogmateg ac Hanes Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Nijmegen ym 1958, a symudodd i fyw gyda'r Dominiciaid yn adeilad yr Albertinum.[3]

Ail Gyngor y Fatican[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig cyn agor Ail Gyngor y Fatican ym 1962, Schillebeeckx oedd prif awdur y llythyr a gyhoeddwyd gan esgobion Iseldiraidd yn galw am ddiwygio'r Eglwys Gatholig a chwtogi grymoedd y Fatican. Yn y llythyr hwn, disgwylid y mwyafrif o newidiadau blaengar y Cyngor ar bynciau megis y litwrgi, eciwmeniaeth, a swyddogaethau'r llewygwyr. O ganlyniad, ni wahoddwyd Schillebeeckx i fod yn gynghorwr swyddogol (peritus neu arbenigwr) i'r Cyngor, ond teithiodd i Rufain gyda'r esgobion Iseldiraidd i'w cynghori ar faterion diwinyddol. Am dair blynedd bu Schillebeeckx yn darlithio i esgobion o bedwar ban byd gan ymateb i ddogfennau a thrafodaethau'r Cyngor. Roedd Schillebeeckx yn un o garfan o ysgolheigion Ewropeaidd a siaradodd o blaid newid yn yr Eglwys, a gafodd cryn ddylanwad ar gynigion y Cyngor: dywed ar y pryd bod "y Rhein wedi llifo i'r Tiber".[3] Gweithiodd gyda'r Cardinal Bernard Alfrink, Archesgob Utrecht, i bwysleisio natur golegol yr esgobyddiaeth i wrthbwyso athrawiaeth anffaeledigrwydd y Pab a gyhoeddid gan Gyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Adlewyrchir y farn hon gan Lumen gentium, neu Gyfansoddiad Dogmataidd yr Eglwys, un o brif ddogfennau'r cyngor. Lansiodd Schillebeeckx a'i gyfoedion Hans Küng, Karl Rahner a Yves Congar y cyfnodolyn diwinyddol Concilium, oedd yn mynegi syniadau'r blaengarwyr am flynyddoedd i ddod.

O sabwynt Schillebeeckx, roedd y Cyngor yn fan dechrau ar broses o ddiwygio sylweddol yn yr Eglwys Gatholig.Ymhlith ei farnau a aeth yn bellach na newidiadau'r Cyngor oedd ei gefnogaeth dros ordeinio dynion a menywod priod a threfnau democrataidd yng ngweinyddiaeth eglwysig.[4] Yr Iseldiroedd oedd y wlad fwyaf flaengar yn y byd wrth roi cynigion y Cyngor ar waith, yn aml o ganlyniad i waith a dylanwad Schillebeeckx.[2] Schillebeeckx oedd un o awduron y Catecism Iseldiraidd Newydd, a gyhoeddwyd ym 1966.

Ymchwiliadau'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Trwy gydol y 1970au, ysgrifenodd Schillebeeckx lwyth o ysgrifau academaidd oedd yn cwestiynu darlleniad tra-lythrennol y Testament Newydd. Er enghraifft, amheuodd bod dysgeidiaeth yr Eglwys ar yr enedigaeth wyryfol a'r atgyfodiad yn berthnasol i fywyd y Pabydd modern. Ym mis Rhagfyr 1979 cafodd ei alw i'r Fatican am y tro cyntaf i ateb am ei gred a phrofi ei bod yn gyson â dysgeidiaeth yr Eglwys. Cymharodd Schillebeeckx y profiad â'r bachgen drwg yn cael ei ddanfon i ystafell y prifathro.[1] Cytunodd i deithio i'r Fatican i egluro'i farnau i'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad yn bennaf ar ei ymdrechion yn ei ddau lyfr ar bwnc Cristoleg, Jezus, het verhaal van een levende ("Iesu, arbrawf mewn Cristoleg"; 1974) a Gerechtigheid en liefde, genade en bevrijding ("Cyfiawnder a chariad, trugaredd a gwaredigaeth"; 1977), i gysylltu neges yr efengyl â'r profiad modern. Llwyddodd i wrthsefyll yr ymchwiliad a dychwelodd i'w waith yn Nijmegen. Tua'r un adeg, derbyniodd ei hen gyfaill yr Athro Hans Küng o Brifysgol Tübingen ŵys gan y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd, ond gwrthododd Küng i deithio i'r Fatican i amddiffyn ei hunan gan alw'r fath ymchwiliad yn "dreial o'r Oesoedd Canol". O ganlyniad, collodd Küng ei drwydded eglwysig i addysgu diwinyddiaeth mewn prifysgolion Catholig.[1] O bosib, penderfynodd y Fatican i beidio â chondemnio Schillebeeckx yn swyddogol oherwydd roedd yr ymchwiliad yn erbyn yr Athro Küng yn denu sylw annymuniedig.[3]

Cafodd Schillebeeckx ei alw'n ôl i'r Fatican yng Ngorffennaf 1984 wedi iddo gefnogi hawl y lleygwr i gysegru'r Cymun yn lle'r offeiriad mewn amodau eithriadol. Cefnogwyd gan Damian Byrne, pennaeth y Dominiciaid, wrth i'r Cardinal Joseph Ratzinger (yn ddiweddarach, Pab Bened XVI) ei gwestiynu. Cytunodd Schillebeeckx i beidio sôn am offeiriadaeth leyg mewn ysgrifau'r dyfodol, er mwyn osgoi cerydd swyddogol gan yr Eglwys.[1] Cafodd ei gwestiynu eto ym 1985 am ei farnau ar Iesu a'r atgyfodiad, ac ym 1986 am ei ddealltwriaeth o'r offeiriadaeth. Casgliad amhendant oedd i bob un ymchwiliad, a derbyniodd Schillebeeckx gwynion a rhybuddion yn unig. Ni chafodd ei gyhuddo'n ffurfiol neu ei gael yn euog gan yr un ymchwiliad.[2][4] Yn ôl yr Athro Küng, llwyddodd Schillebeeckx i osgoi cosb oherwydd nad oedd yr un aelod o'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd yn medru'r Iseldireg ddigon i allu darllen ei waith cymhleth.[1][3]

Bywyd personol a'i oes hwyrach[golygu | golygu cod y dudalen]

Edward Schillebeeckx (canol) yn cwrdd ag aelodau teulu brenhinol yr Iseldiroedd ym 1982.

Yn y 1970au ysgrifenodd ar amrywiaeth o faterion cymdeithasol a gwleidyddol, yn enwedig arfau niwclear, ac ymddiddorodd yn niwinyddiaeth rhyddhad American Ladin. Addysgodd yn Nijmegen hyd iddo ymddeol ym 1982. Yn yr un flwyddyn, Schillebeeckx oedd y diwinydd cyntaf i dderbyn Gwobr Erasmus am gyfraniadau i ddiwylliant Ewrop,[6] ac ym 1983 cafodd ei urddo'n Gadlywydd Urdd Oranje-Nassau. Treuliodd gweddill ei oes yn byw yn Nijmegen, a pharháodd i ysgrifennu ar faterion crefyddol yn ei naw degau. Cafodd llai o ddylanwad ar arweinyddiaeth geidwadol newydd yr Eglwys Iseldiraidd, ond parháodd yn ddiwinydd poblogaidd gan ddiwygwyr ar draws y byd. Ym 1989 roedd Schillebeeckx yn un o 163 o ddiwinyddion, y mwyafrif ohonynt o Orllewin yr Almaen, a arwyddodd Ddatganiad Cwlen. Roedd y datganiad hwn yn beirniadu'r Pab Ioan Pawl II am ei bolisïau ceidwadol.[1] Pan gaeodd yr Albertinum, symudodd Schillebeeckx i fyw mewn fflat a chafodd ei ofalu gan leian ar ddiwedd ei oes.[3]

Diwinyddiaeth ac ysgolheictod[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyrwyddodd Schillebeeckx ddiwinyddiaeth bersonol a bugeiliol sy'n ystyried profiadau'r credinwr yn hytrach na chysyniadau haniaethol. Ceisiodd gysylltu dysgeidiaeth draddodiadol yr Eglwys â phrofiadau cyfoes, er ffydd fyw sy'n berthnasol i'r werin. Parchodd y feirniadaeth Feiblaidd fodern a wnaed gan ymchwilwyr anghatholig, a defnyddiodd ddulliau beirniadaeth hanesyddol yn ei waith. Ysgrifenodd Schillebeeckx mwy na 400 o weithiau diwinyddol sy'n trafod ysgrythur, hanes crefyddol, ac athrawiaeth eglwysig. Ymhlith ei lyfrau pwysicaf mae'r triawd ar Iesu (1974), Crist (1977), a'r Eglwys (1990). Gwelir ei arddull lenyddol yn ddwys ac yn anodd, ond roedd hefyd ganddo fedr y gymhariaeth a'r stori eglurol.[3]

Gellir leoli diwinyddiaeth Schillebeeckx a'r blaengarwyr eraill yng nghyd-destun etifeddiaeth Cyngor Cyntaf y Fatican. Adwaith oedd yr Ail Gyngor i'r ddysgeidiaeth neo-ysgolaidd a fabwysiadwyd gan yr Eglwys yn y ganrif gynt i wrthsefyll syniadau a mudiadau seciwlar a datblygiadau a welid yn wrthwynebus i'r ffydd Gatholig. Pwysleisiodd Schillebeeckx yr angen i ystyried athroniaeth Tomos o Acwin a'r ysgolwyr eraill yng nghyd-destun yr Oesoedd Canol. Felly, yn lle athrawiaethau tra-geidwadol a diamod y Cyngor Cyntaf, disgrifiodd Schillebeeckx ffurf lai rhesymolaidd a chysyniadol ar Domistiaeth. Manteisiodd Schillebeeckx ar ddatblygiadau athronyddol yr 20g, yn enwedig ffenomenoleg, yn ei ddiwinyddiaeth. O'i ddealltwriaeth o'r ymwybod a chyd-destun hanesyddol daw pwyslais Schillebeeckx ar brofiad y credinwr modern.[4]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • De sacramentele heilseconomie (Antwerp 1952)
  • Christus, sacrament van de Godsontmoeting (Bilthoven 1959)
  • Op zoek naar de levende God (Nimwegen 1959)
  • Openbaring en theologie (Bilthoven 1964) (Theologische Peilingen, 1)
  • God en mens (Bilthoven 1965) (Theologische Peilingen, 2)
  • Wereld en kerk (Bilthoven 1966) (Theologische Peilingen, 3)
  • De zending van de kerk (Bilthoven 1968) (Theologische Peilingen, 4)
  • Jezus, het verhaal van een levende (Bloemendaal 1974)
  • Gerechtigheid en liefde, genade en bevrijding (Bloemendaal 1977)
  • Tussentijds verhaal over twee Jezusboeken (Baarn 1978)
  • Evangelie verhalen (Baarn 1982)
  • Pleidooi voor mensen in de kerk. Christelijke identiteit en ambten in de kerk (Baarn 1985)
  • Als politiek niet alles is... Jezus in de westerse cultuur (Baarn 1986)
  • Mensen als verhaal van God (Baarn 1989)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 (Saesneg) Peter Stanford. "Edward Schillebeeckx obituary, The Guardian (24 Chwefror 2010). Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Robert McClory. "Theologian Edward Schillebeeckx dead at 95", National Catholic Reporter (24 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 26 Hydref 2016.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 3.8 (Saesneg) "Obituary: Father Edward Schillebeeckx", The Daily Telegraph (3 Ionawr 2010). Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2016.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Peter Steinfels. "Edward Schillebeeckx, Catholic Theologian, Dies at 95", The New York Times (16 Ionawr 2010). Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2016.
  5. (Saesneg) "Edward Schillebeeckx" yn yr Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Rhagfyr 2016.
  6. (Saesneg) "Former Laureates: Edward Schillebeeckx". Praemium Erasmianum Foundation. http://www.erasmusprijs.org/Prijswinnaars?lang=en&itemid=D59147A9-9D41-9D54-A672A0298C97725E&mode=detail. Adalwyd 24 Mehefin 2017.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: