Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd
Gwedd
| Enghraifft o: | cynulleidfa |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 21 Gorffennaf 1542 |
| Lleoliad yr archif | Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd |
| Pennaeth y sefydliad | Pennaeth y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd |
![]() | |
| Rhagflaenydd | Cynulleidfa Gysegredig y Swyddfa Sanctaidd |
| Pencadlys | Palas y Swyddfa Sanctaidd |
| Gwladwriaeth | y Fatican |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0pc5n |
Yr hynaf o'r naw cynulliad yn Llys y Pab yw'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd (Lladin: Congregatio pro Doctrina Fidei, CDF). Sefydlwyd y Cynulliad dros y Chwilys Cyffredinol ar 21 Gorffennaf 1542 gan y Pab Pawl III i amddiffyn yr Eglwys yn erbyn heresi. Newidodd yr enw i Gynulliad y Swyddfa Sanctaidd ym 1908, ac yna'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd ym 1965. Ei swyddogaeth bresennol yw i gyhoeddi ac amddiffyn athrawiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Lleolir ei bencadlys ym Mhalas y Swyddfa Sanctaidd, y tu allan i Ddinas y Fatican ar diriogaeth Eidalaidd sy'n eiddo i Esgobaeth y Pab.
