Tomistiaeth

Oddi ar Wicipedia

Diwinyddiaeth ac athroniaeth Gristnogol sy'n seiliedig ar waith Sant Tomos o Acwin (1225–1274) yw Tomistiaeth.[1] Ymdrechodd Tomos i gyfuno athroniaeth Aristotlys gyda diwinyddiaeth yr Eglwys Gatholig. Gan ddefnyddio'r cysyniadau Aristotelaidd am fater a ffurf, lluniodd hierarchaeth sy'n gosod yr ysbryd uwch mater, yr enaid uwch y corff, a diwinyddiaeth uwch athroniaeth.

Wedi ei farwolaeth, cafodd ysgrifau Tomos eu hastudio gan ysgolheigion ar draws Ewrop gan feithrin dealltwriaeth sylfaenol o'i feddwl. Yn yr Oesoedd Canol Tomistiaeth oedd un o'r prif athrawiaethau ysgolaidd. Sefydlogodd fframwaith y system Domistaidd yn yr 16g, cyfnod yr Ail Domistiaeth a ddaeth yn sail i addysg Babyddol. Datblygodd drydedd ffurf ar Domistiaeth yn ail hanner y 19g, adeg Cyngor Cyntaf y Fatican, ac yn rhan o'r neo-ysgolaeth oedd yn adwaith i seciwlaraeth a modernedd. Cyhoeddodd y Pab Leo XIII gylchlythyr Aeterni Patris ym 1879 yn galw am adfer dysgeidiaeth Domistaidd mewn ysgolion Pabyddol. Ers y 1960au bu'r Tomistiaid yn ceisio ymateb i effaith Ail Gyngor y Fatican ar y byd Catholig, a hefyd yn pwysleisio testunau gwreiddiol Tomos. Trwy gydol ei hanes, câi Tomistiaeth ei harddel gan amryw o feddylwyr, llenorion, arweinwyr crefyddol, urddau eglwysig, ac ysgolion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Tomistiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2016.