Dafydd Huws (gwleidydd a seiciatrydd)
Dafydd Huws | |
---|---|
Ganwyd | 29 Tachwedd 1935 |
Bu farw | 3 Gorffennaf 2011 o canser |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Gwleidydd a seiciatrydd o Gymru oedd y Dr Dafydd John Lewys Huws (29 Tachwedd 1935 – 3 Gorffennaf 2011).[1] Bu'n flaenllaw ym maes melinau gwynt Cymru hefyd.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd Dafydd Jones ei eni yn Aberystwyth a'i fagu yn Llandre. Treuliodd ychydig o'i flynyddoedd cynnar yn Cenia, lle yr oedd ei dad yn gweithio fel daearegwr yn y diwydiant mwyngloddio, a sicrhaodd ei rieni yr oedd athro i ddysgu'r Gymraeg iddo. Mynychodd Ysgol Ramadeg Ardwyn ac astudiodd yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Aeth ati i dreulio'i holl oedolaeth yng Nghaerdydd.[1]
Gyrfa fel seiciatrydd
[golygu | golygu cod]Gweithiodd Dafydd Huws i'r Cyngor Ymchwil Meddygol am bum mlynedd cyn cymryd swydd seiciatrydd ymgynghorol yn Ysbyty'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd o 1970 hyd iddo ymddeol ym 1996. Roedd yn Gadeirydd adran seiciatrig Awdurdod Iechyd De Morgannwg ac yn aelod o Ymgyrch Feddygol Cymru yn erbyn Arfau Niwclear. Bu'n edmygydd o'r seiciatrydd Cymreig Ernest Jones.[1]
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Roedd Dafydd Huws yn genedlaetholwr Cymreig brwd ers ei ddyddiau ysgol,[1] ac roedd yn hoff o ddweud: "Mae bod yn Gymro neu'n Gymraes yn golygu perthyn, teimlo ein bod ni'n perthyn – beth bynnag yw ein hiaith, lliw neu grefydd."[1][2] Ym 1969 daeth yn gynghorydd cyntaf Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, yn cynrychioli Ward Plasmawr.[3] Safodd Huws yn erbyn George Thomas am etholaeth Gorllewin Caerdydd yn etholiadau cyffredinol 1970, Chwefror 1974, ac Hydref 1974, a safodd am sedd Ceredigion ym 1979 ac eto yng Nghaerdydd ym 1983. Safodd am etholaeth De Cymru yn etholiad Senedd Ewrop ym 1984, gan ennill 13,201 o bleidleisiau (6.8 y cant o'r cyfanswm).[1] Roedd yn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru yn yr 1980au. Derbynodd wobr gan y blaid a roddwyd i'w weddw Rhian yng nghynhadledd flynyddol y blaid ym mis Medi 2011.[1]
Ynni gwynt
[golygu | golygu cod]Cafodd Dafydd Huws ei ysbrydoli ym maes ynni gwynt gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth ac gan ymweliad â Denmarc.[2] Gyda'i wraig, Rhian, fe sefydlodd gwmni Ynni Amgen Cyf.[4] a bu'n gyfrifol am sefydlu un o ffermydd gwynt cyntaf yng Nghymru ar Fynydd Gorddu, ger Tal-y-bont, Ceredigion. Yn ôl Eryl Vaughan, Rheolwr Gyfarwyddwr Ynni Gwynt Cymru, "fe gyfrannodd yn aruthrol at ddatblygu ynni gwynt yng Nghymru" ac mae'r fferm wynt hon "yn waddol i'r genedl".[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Rhian Jones ym 1976[1] a chafodd dau fab (Aled a Geraint) a thair merch (Gwenan, Elen a Carys).[2] Roedd Huws yn Gristion a addolodd mewn capeli Cymraeg trwy gydol ei fywyd.[1] Erbyn diwedd ei oes roedd yn byw yn y Ffwrnes Blwm ger Caerffili, a bu farw o ganser yn 75 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 (Saesneg) Stephens, Meic (14 Medi 2011). Dafydd Huws: Psychiatrist, Plaid Cymru stalwart and wind-farm pioneer. The Independent. Adalwyd ar 26 Mai 2013. Fersiwn ar storfa Google.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Y seiciatrydd Dafydd Huws wedi marw. BBC (3 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 26 Mai 2013.
- ↑ Marw’r seiciatrydd Dr Dafydd Huws. Golwg360 (3 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 26 Mai 2013.
- ↑ Hanes Fferm Wynt Mynydd Gorddu. Ynni Amgen Cyf.. Adalwyd ar 26 Mai 2013.