De Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)
| Enghraifft o: | etholaeth Senedd Ewrop |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1979 |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Roedd De Cymru yn etholaeth Senedd Ewrop a oedd yn cwmpasu canol deheubarth Cymru, gan gynnwys dinas Caerdydd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1979, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno yn llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un.
Pan gafodd ei greu ym 1979 roedd De Cymru yn cynnwys etholaethau seneddol Aberafan, Y Barri, Gogledd Caerdydd, Gogledd Orllewin Caerdydd, De-ddwyrain Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Castell-nedd, Ogwr a Phontypridd.
Ym 1984 cafodd etholaethau y Barri, Gogledd Orllewin Caerdydd, De-ddwyrain Caerdydd a Chastell-nedd yn cael eu disodli gan Pen y bont ar Ogwr, Canol Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth a Bro Morgannwg.
Cafodd yr etholaeth ei ddiddymu ym 1994, aeth y rhan fwyaf ohoni i etholaeth newydd Canol De Cymru a rhan i Orllewin De Cymru.
Aelodau Etholedig
[golygu | golygu cod]| Etholiad | Aelod | Plaid | |
|---|---|---|---|
| 1979 | Win Griffiths | Llafur | |
| 1989 | Wayne David | Llafur | |
Canlyniad etholiad 1979
[golygu | golygu cod]| Etholiad senedd Ewrop, 1979: De Cymru[1] | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Llafur | Win Griffiths | 77,784 | 44.1 | ||
| Ceidwadwyr | Stefan Terlezki | 66,852 | 37.9 | ||
| Rhyddfrydol | J C Greaves | 17,811 | 10.1 | ||
| Plaid Cymru | Dafydd Williams | 14,029 | 7.9 | ||
| Mwyafrif | 10,932 | 6.2 | |||
| Y nifer a bleidleisiodd | 535,752 | 32.9 | |||
Canlyniad etholiad 1984
[golygu | golygu cod]| Etholiad senedd Ewrop, 1984: De Cymru[1] | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Llafur | Win Griffiths | 99,936 | 51.1 | ||
| Ceidwadwyr | Miss J R Pattman | 55,678 | 28.5 | ||
| Rhyddfrydol | Mrs J D Davies | 26,588 | 13.6 | ||
| Plaid Cymru | Dr Dafydd Huws | 13,201 | 6.8 | ||
| Mwyafrif | 44,258 | 22.6 | |||
| Y nifer a bleidleisiodd | 509,434 | 38.4 | |||
Canlyniad etholiad 1989
[golygu | golygu cod]| Etholiad Senedd Ewrop 1989: De Cymru | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Llafur | Wayne David | 108,550 | 54.7 | ||
| Ceidwadwyr | A R Taylor | 45,993 | 23.2 | ||
| Gwyrdd | G P Jones | 25,993 | 13.1 | ||
| Plaid Cymru | Peter J Keelan | 10,727 | 5.4 | ||
| Democratiaid Cymdeithasol a Rhyddfrydol | P K Verma | 4,828 | 2.0 | ||
| SDP Annibynnol | D A T Thomas | 3,153 | 1.6 | ||
| Mwyafrif | 62,557 | 31.5 | |||
| Y nifer a bleidleisiodd | 520,963 | 38.1 | |||
| Llafur yn cadw | Gogwydd | ||||