Win Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Win Griffiths
Ganwyd11 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Mae Winston (Win) James Griffiths, OBE (ganwyd 11 Chwefror 1943) yn wleidydd Llafur Cymreig.

Bu'n Aelod Senedd Ewrop dros etholaeth De Cymru o 1979 hyd 1989 ac yn aelod o Senedd San Steffan dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr o 1987 i 2005.

Fe fu yn Llefarydd yr Wrthblaid ar amgylchedd o 1990 hyd 1992; yn Llefarydd yr Wrthblaid ar addysg o 1992 hyd 1994; Llefarydd yr Wrthblaid ar faterion Cymru o 1994 hyd 1997 ac yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig o 1997 i 1998. Ildiodd ei sedd San Steffan yn etholiad 2005

Mae o bellach yn Gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac fe fu yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg hyd ei ddiddymu ac yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hyd 2012



Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.