Gorllewin De Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)
Roedd Gorllewin De Cymru yn etholaeth Senedd Ewrop a oedd yn cwmpasu rhan o ddeheubarth Cymru gan gynnwys dinas Abertawe.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1999, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno yn llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un.
Cafodd yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad senedd Ewrop 1994 allan o rannau o etholaethau dde Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru, Daeth y sedd yn rhan o etholaeth Cymru gyfan ym 1999.
Roedd yr etholaeth yn cynnwys etholaethau seneddol Aberafan, Pen-y-bont ar Ogwr, Gŵyr, Castell-nedd, Ogwr, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe.
Aelodau etholedig
[golygu | golygu cod]Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
1994 | David Morris | Llafur |
Canlyniad Etholiad 1994
[golygu | golygu cod]Dyma ganlyniadau etholiad 1994.[1]
Etholiad Senedd Ewrop, 1994: Etholaeth Gorllewin De Cymru | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Parch David Morris | 104,263 | 66.1 | ||
Ceidwadwyr | R J Buckland | 19,293 | 12.2 | ||
Democratiaid Rhyddfrydol | J G Bushell | 15,499 | 9.8 | ||
Plaid Cymru | Miss C M Adams | 12,364 | 7.9 | ||
Gwyrdd | Miss J B Evans | 4.114 | 2.6 | ||
Deddf Naturiol | Miss H Evans | 1,106 | 0.7 | ||
Ymgeisydd Ewropeaidd o'r Blaned Beanus | Y Capten Beany | 1,106 | 0.7 | ||
Mwyafrif | 84,970 | 53.9 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 395,131 | 39.9 | |||
Llafur yn cadw | Gogwydd |