Deiniol
Deiniol | |
---|---|
Cerflun o Deiniol, Eglwys Gadeiriol Bangor | |
Ganwyd | c. 530 Cymru |
Bu farw | 584 Ynys Enlli |
Man preswyl | Tyddewi, Bangor-is-y-coed |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Dydd gŵyl | 11 Medi |
Tad | Dynod Fawr |
Mam | Dwywe |
Plant | Deiniolen |
Llinach | Urien Rheged |
Sant Deiniol (hefyd Deiniol Wyn a Deiniol Ail, Lladin: Daniel) (fl. 550?) yw nawddsant dinas Bangor yng Ngwynedd, Cymru. Yn ôl yr achau yr oedd o'r un llinach ag Urien Rheged, pennaeth Rheged yn yr Hen Ogledd. Roedd yn fab i Sant Dunod, un o feibion Cunedda Wledig, a'r santes Dwywe ferch Gwallog ap Llëenog. Ei fab oedd Sant Deiniolen, a elwir yn Ddeiniol Fab yn ogystal.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Dywedir fod Deiniol yn byw fel meudwy ger Tyddewi cyn symud i'r fynachlog newydd ym Mangor Is-Coed a sefydlwyd gan ei dad, yn ôl traddodiad. Ceir ffynnon o'r enw Ffynnon Ddeiniol yno. Eto yn ôl traddodiad dywedir mai Deiniol a Dyfrig a berswadiodd Ddewi Sant i gynnal Synod Llanddewibrefi yn 545.
Sefydlodd Deiniol eglwys ym Mangor yn Arfon neu Fangor Fawr (dinas Bangor heddiw). Roedd yn abad ar gymuned o fynachod yno yn ôl pob tebyg a chafodd ei apwyntio'n esgob cyntaf esgobaeth Bangor (gan y brenin Maelgwn Gwynedd yn ôl un ffynhonnell, ond mae hynny'n annhebygol). Cafodd ei gladdu ymhlith yr Ugain Mil o Seintiau ar Ynys Enlli, yn ôl Gerallt Gymro.
Eglwysi
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â Bangor Fawr, ceir eglwysi cysegredig i Ddeiniol yn y gogledd ym Marchwiail ger Wrecsam, Llanuwchllyn a Llanfor ger Y Bala, a Penarlâg (Hawarden) yn Sir y Fflint (lle codwyd Llyfrgell Deiniol Sant gan Gladstone). Ceir yn ogystal Landdeiniol yng Ngheredigion, ger Llanddewibrefi. Ceir ambell enghraifft o'i enw cysylltiedig ag egwlysi yn y de yn ogystal ond perthynai i'r hen Wynedd yn neilltuol. Mae cymunedau Planiel, Aodoù-an-Arvor a Plouzeniel, Penn-ar-Bed, Llydaw hefyd wedi eu henwi er clod i Sant Deiniol [1]
Ei ddydd gŵyl yw 11 Medi.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sabine Baring-Gould, The Lives of the British Saints: The Saints of Wales, Cornwall and Irish Saints