Defnyddiwr:Rhyswynne/Fydd y Chwyldro Ddim Ar y Teledu, Gyfaill

Oddi ar Wicipedia

Cerdd a chân gan Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog yw Fydd y Chwyldro Ddim Ar y Teledu, Gyfaill, ble mae Ifor, a gyfansoddodd y gerdd, yn ei llefaru i gyfeiliant cerddoriaeth gan Llwybr Llaethog. Mae'n addasiad o The Revolution Will Not Be Televised gan Gil Scott-Heron.

Rhyddhawyd fel cân ochr B ar argraffiad arbennig o record 7 modfedd ar roddwyd am ddim i'r rhai a fynychodd gig Noson Claddu Reu yn Mhontrhydfendigaid yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992. Maes-e gan Datblygu yw'r gân arall ar y record.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ar y pryd, roedd Ifor ap Glyn yn gweithio i gwmni cynhyrchu yng Nghaerdydd, ond gan i fod yn byw yng Nghaernarfon, roedd hefyd yn llogi desg yn swyddfa label Ankst ym Mhen-y-groes. Tros baned soniodd wrth X ac Y am ei syniad o drosi The Revolution Will Not Be Televised i'r Gymraeg. Roeddent yn meddwl ei fod yn syniad da, a gofynnwyd iddo ddod a'i gerdd iddynt drannoeth.

Cyfeiriadau diwylliannol[golygu | golygu cod]