Woolworths
Math | busnes |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyd-stoc |
Diwydiant | manwerthu |
Tynged | Daeth i ben |
Sefydlwyd | 1909 |
Sefydlydd | Franklin Winfield Woolworth |
Daeth i ben | 2009 |
Pencadlys | Llundain |
Rhiant-gwmni | F. W. Woolworth Company |
Gwefan | https://woolworth.de/ |
Cwmni yn y DU oedd yn masnachu dan yr enw Woolworths oedd y Grŵp Woolworth. Lleolwyd pencadlys y cwmni yn Llundain.
Cafodd y siop Woolworths gyntaf yng ngwledydd Prydain ei sefydlu yn Lerpwl, Lloegr, yn 1909, fel cangen o'r cwmni Americanaidd F.W. Woolworths & Co a sefydlwyd gan Franklin Winfield Woolworth. Am flynyddoedd roedd siopau Woolworths yn olygfa gyfarwydd ar y Stryd Fawr mewn nifer o drefi ledled Prydain.
Ar 26 Tachwedd 2008, gwaharddwyd masnachu cyfranddaliadau Woolworths Group ccc, ac aeth ei is-gwmnïau Woolworths ac Entertainment UK i weinyddiaeth. Caeodd Deloitte y cyfan o siopau Woolworths rhwng 27 Rhagfyr 2008 a 6 Ionawr 2009, gan arwain at golli 27,000 o swyddi. Aeth Woolworths Group ccc i weinyddiaeth ar 27 Ionawr 2009, a diddymwyd y cwmni yn swyddogol ar 13 Hydref 2015[1].
Ym mis Chwefror 2009, prynodd Shop Direct nod masnach a chyfeiriad rhyngrwyd Woolworth, a barhaodd fel gwefan adwerthu nes y cafodd ei gau ym Mehefin 2015.
Agweddau daearegol
[golygu | golygu cod]Mae gwenithfaen du y larvikite sydd o dan ffenestri'r hen Woolworths yng Nghaernarfon i'w weld yn yr un lle, fel rhan o “frand” y cwmni mae’n siwr, o dan ffenestri Woolworths ymhobman.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Woolworths to close in January Newyddion BBC 17 Rhagfyr 2008 adalwyd 14 hydref 2017