Bara rhyg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bara rhyg

Math o fara sydd wedi'i wneud a chyfuniad o flawd a grawn rhyg yw bara rhyg. Gall fod yn olau neu dywyll, gan ddibynnu ar y math o flawd a ddefnyddiwyd ac unrhyw liw a ychwanegwyd iddo, ac mae fel arfer yn fwy dwys na bara a wneir gyda blawd gwenith. Mae'n ganddo fwy o ffibr a llai o fraster na bara gwyn, ac mae ei flas yn gryfach.

Roedd bara rhyg yn cael ei ystyried yn un o brif fwydydd yr Oesoedd Canol. Y Sacsoniaid a'r Daniaid gyflwynodd rhyg i ynysoedd Prydain o gwmpas 500 OC, ac roedd yr hinsawdd yn addas ar gyfer ei dyfu yno.[1]

Gwelir cyfeiriadau at fara du mewn dogfennau o'r 17g. Sôn am fara rhyg y mae'r rhain, a defnyddid y term 'du' i wahaniaethu bara rhyg a bara gwenith, a elwid yn 'fara gwyn' - er bod y bara'n nes at liw bara blawd cyflawn heddiw. Tyfid rhyg mewn ardaloedd yn Sir Gaernarfon yn y 17g nad oeddynt yn ddigon ffrwythlon i ganiatáu tyfu gwenith. Ar diroedd salach fyth, tyfid dim ond ceirch. Tueddai pobl i fwyta'r hyn oedd ar gael iddynt yn lleol, asc felly bara du rhyg oedd y bara a fwytid gan bobl rhannau yr iseldir lle nad oedd y tir o'r ansawdd gorau.[2]

Mae nifer o wahanol fathau o rawn rhyg wedi dod o ogledd a chanolbarth Ewrop, gan gynnwys Llychlyn, Y Ffindir, Y Gwledydd Baltig, Gwlad Pwyl, Wcrain, Rwsia, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Ffrainc, Y Weriniaeth Tsiec, Yr Almaen ac mae hefyd yn nodweddiadol o ganton Valais yn Y Swistir.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Growing Grains: Wheat, Spelt, Oats, Barley, Rye and More". Organic Gardening. http://www.organicgardening.com/learn-and-grow/grains-growing-guide.
  2. G H Williams, Farming in Stuart Caernarfonshire, TCHS (Cyf 42, 1981), t.73.