Arturo Uslar Pietri

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arturo Uslar Pietri
Uslar Pietri.jpg
Ganwyd Arturo Uslar Pietri Edit this on Wikidata
16 Mai 1906 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Chwefror 2001 Edit this on Wikidata (94 oed)
Achos: Trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Feneswela Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ganolog Feneswela Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr, Ysgrifennwr, diplomydd, Gwleidydd, Bardd, Dramodydd, Cyfreithiwr, beirniad llenyddol, cofiannydd Edit this on Wikidata
Swydd member of the Chamber of Deputies of Venezuela Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • El Nacional
  • Prifysgol Ganolog Feneswela Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Venezuelan Democratic Party Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobrau Maria Moors Cabot, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr Rómulo Gallegos, Alfonso Reyes International Prize, Urdd dros ryddid, Urdd Boyacá, Urdd Eryr Mecsico, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Y Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, Grand Officer of the Order of the Condor of the Andes Edit this on Wikidata
Llofnod
Uslar Pietri signature.jpg

Nofelydd, newyddiadurwr, a gwleidydd o Feneswela oedd Arturo Uslar Pietri (16 Mai 190626 Chwefror 2001) a oedd yn un o ffigurau pwysicaf llên Feneswela yn yr 20g. Llenor hynod o doreithiog oedd Uslar Pietri a gyhoeddodd o'i arddegau hyd ddiwedd ei oes. Ymhlith ei nofelau o nod mae Las lanzas coloradas (1931), El camino de El Dorado (1947), ac La isla de Robinson (1981). Yn ogystal â nofelau ac ysgrifau, ysgrifennodd hefyd straeon byrion, barddoniaeth, a dramâu.

Bywyd cynnar ac addysg (1906–29)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Arturo Uslar Pietri yn Caracas, prifddinas Feneswela, ar 16 Mai 1906, i deulu o filwyr. Almaenwr oedd ei hendaid, a frwydrodd yn Rhyfel Annibyniaeth Feneswela a gwasanaethodd yn gadweinydd i Simón Bolívar. Roedd ei daid yn gadfridog ac yn is-arlywydd dan unbennaeth y Cadfridog Juan Vicente Gómez.[1] Roedd ei dad hefyd yn swyddog ym Myddin Feneswela.[2]

Mynychodd Arturo yr Ysgol Ffrengig yn Caracas cyn i'w deulu symud i Cagua, tref yn nhalaith Aragua i dde orllewin y brifddinas, pan oedd yn 8 oed. Gweithiodd ei dad yn weinyddwr sifil yn Cagua.[3] Dwyflwydd yn ddiweddarach, yn 1916, symudodd y teulu i Maracay, prifddinas Aragua, lle'r oedd y Cadfridog Gómez yn llywodraethu'r wlad gan nad oedd yn hoff o Caracas.[1][2] Yn ystod ei naw mlynedd yn Aragua, talaith wledig ar y cyfan, cafodd Arturo ei swyno gan fywydau'r ffermwyr a gwerinwyr eraill, eu hofergoelion, llên gwerin, a chwedlau lleol. Dylanwadwyd ar ei ffuglen yn gryf gan ei brofiadau yng nghefn gwlad, sydd yn lleoliad i'r mwyafrif o'i straeon byrion, ac mae ei ddefnydd o realaeth hudol yn adlewyrchu straeon rhyfedd y werin bobl a glywsai yn ystod ei fachgendod.[3]

Dychwelodd Arturo i Caracas yn niwedd ei arddegau, ac ymddiddorodd mewn clasuron llên Ewrop, gan gynnwys Henri Barbusse, Gabriel Miró, Azorín, Antonio Machado, Oscar Wilde, Leo Tolstoy, Vladimir Korolenko, a Leonid Andreyev.[3] Dylanwadwyd arno yn ei ieuenctid gan lenorion modernaidd America Ladin megis y bardd Rubén Darío a'r ysgrifwr José Enrique Rodó, a gwelir y tueddiadau hynny yn ei farddoniaeth a'i straeon byrion cyntaf.[2] Dechreuodd astudio'r gyfraith a gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Ganolog Feneswela yn 1924. Parhaodd i ddarllen ac ysgrifennu yn ei amser rhydd, a chymerodd ran mewn sawl tertulia, sef ymgynulliadau cymdeithasol o lenorion ifainc.[3] Daeth yn rhan o fudiad yr avant-garde ac Arturo oedd un o sefydlwyr y cylchgrawn Valvula yn 1928.[1] Y flwyddyn honno fe gyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Barrabás y otros relatos. Yn y casgliad hwn mae straeon sydd yn annhebyg i draddodiad llenyddol Feneswela, ac i weithiau diweddarach Uslar Pietri. Nid ydynt yn adlewyrchu themâu criollismo na thafodiaith wledig, ond yn hytrach yn ymwneud â chefndiroedd y ddinas, gwledydd tramor, a'r môr.[3] Derbyniodd ei ddoethuriaeth, ar bwnc gwyddor gwleidyddiaeth, o Brifysgol Ganolog Feneswela yn 1929.

Gyrfa ddiplomyddol ac ysgrifeniadau cynnar (1929–37)[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo raddio o'r brifysgol, ymunodd Uslar Pietri â'r gwasanaeth diplomyddol a threuliodd bum mlynedd ym Mharis yn gweithio yn swyddog sifil yn llysgenhadaeth Feneswela i Ffrainc. Yn ei swydd fe deithiodd ar draws cyfandir Ewrop, yn cynadledda, yn mynychu trafodaethau Cynghrair y Cenhedloedd yn Genefa ac yn gwrando ar areithiau gan rai o wladweinwyr amlycaf y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, gan gynnwys Aristide Briand, Gustav Stresemann, ac Arthur Henderson. Ym Mharis fe gyfarfu â nifer o lenorion ac arlunwyr, yn eu plith Paul Valéry, André Breton, Salvador Dalí, Luis Buñuel, Rafael Alberti, Jean Cassou, Massimo Bontempelli, Alejo Carpentier, a Miguel Ángel Asturias. Yn 25 oed, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ac enwocaf, Las lanzas coloradas (1931), ym Madrid. Nofel hanesyddol ydyw sy'n ymdrin â Rhyfel Annibyniaeth Feneswela o dri safbwynt: credoau ac ofergoelion y caethweision croenddu, hanesyddiaeth arwrol y prif gymeriad, a phortread realistig o drais rhyfel.[3]

Dychwelodd Uslar Pietri i Feneswela yn 1934. Yn sgil marwolaeth yr Arlywydd Gómez yn 1935, dechreuodd Uslar Pietri ysgrifennu newyddiaduraeth wleidyddol. Yn y 1930au bu'n sylwebu ar faterion cyfoes yn y papur newydd dyddiol Ahora. Yn 1936, bathodd yr ymadrodd sembrar el petroleo ("hau'r olew") i annog defnyddio'r elw a ddaw o allforion olew i fuddsoddi er lles y wlad, yn hytrach na'i wario'n ddi-hid.[1]

Gyrfaoedd academaidd a gwleidyddol (1937–73)[golygu | golygu cod y dudalen]

Daliodd Uslar Pietri swydd Athro Economi Wleidyddol ym Mhrifysgol Ganolog Feneswela o 1937 i 1941.

Yn 1939, penodwyd Uslar Pietri yn weinidog addysg yn llywodraeth y Cadfridog Eleázar López Contreras, y dyn ieuengaf i ddal y swydd honno yn hanes Feneswela. Yn 1941 penodwyd yn ysgrifennydd preifat i'r Arlywydd Cadfridog Isaías Medina Angarita. Yn ddiweddarach fe wasanaethodd yn weinidog ariannol ac yn weinidog mewnwladol. Disodlwyd Medina gan wrthryfel radicalaidd yn 1945, a chafodd Uslar Pietri ei alltudio.[1]

Cyfnod alltud (1945–50)[golygu | golygu cod y dudalen]

Treuliodd bum mlynedd yn alltud yn Efrog Newydd. Yno addysgodd llenyddiaeth Sbaeneg yr Amerig ym Mhrifysgol Columbia o 1946 i 1947. Canolbwyntiodd ar lenydda, a chyhoeddodd y nofel El camino de El Dorado (1947), sy'n seiliedig ar fywyd y concwistador Lope de Aguirre, dwy gyfrol o ysgrifau, a chasgliad o straeon byrion.[1]

Yn ystod ei gyfnod yn Efrog Newydd, dechreuodd ysgrifennu'r golofn "Pizarra" i bapur newydd El Nacional yn y 1940au. Cyhoeddwyd y golofn honno ganddo am hanner canrif.[2]

Seneddwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Arturo Uslar Pietri yn y 1950au.

Dychwelodd Uslar Pietri i Feneswela, ond ni fu'n gwleidydda yn ystod unbennaeth y Cadfridog Marcos Pérez Jiménez. Yn 1953 dechreuodd gyflwyno'r rhaglen deledu Valores Humanos, a barhaodd tan 1985.[1] Cyhoeddodd hefyd sawl llyfr am hanes a diwylliant Feneswela.

Wedi disodli'r arlywydd yn 1958, dychwelodd Uslar Pietri at yr arena wleidyddol. Gwasanaethodd yn seneddwr dros Caracas am dri thymor, o 1958 hyd 1973.

Ymgyrch arlywyddol 1963[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymgeisiodd am yr arlywyddiaeth yn 1963 fel annibynnwr gyda chefnogaeth clymblaid. Enillodd 39% o'r bleidlais yn Caracas, ond dim on 16% ar draws y wlad.[4]

Golygyddiaeth El Nacional (1969–74)[golygu | golygu cod y dudalen]

Uslar Pietri oedd golygydd y papur newydd dyddiol El Nacional, a gyhoeddwyd yn Caracas, o 1969 i 1974.

Diwedd ei oes (1973–2001)[golygu | golygu cod y dudalen]

Arturo Uslar Pietri (chwith) yn Amgueddfa Gelf Gyfoes Caracas yn 1993, yn sgwrsio â sefydlydd yr amgueddfa, Sofía Ímber.

Penderfynodd Uslar Pietri ymddeol o fyd gwleidyddiaeth yn 1973, ac yn 1974 daeth ei gyfnod yn olygydd El Nacional i ben. Aeth yn ôl i Baris yn 1975–79 i wasanaethu yn llysgennad Feneswela i UNESCO.[5]

Bu farw ei wraig yn 1996. Cawsant un mab, Fernando Uslar Braun, ac un ferch.[1] Bu farw Arturo Uslar Pietri ar 26 Chwefror 2001, yn ei gartref yn Caracas, o drawiad ar y galon yn 94 oed.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) "Obituary: Arturo Uslar Pietri", The Daily Telegraph (9 Mawrth 2001). Adalwyd ar 5 Medi 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Simon Romero, "Arturo Uslar Pietri, Novelist of Venezuela, Is Dead at 94", The New York Times (1 Mawrth 2001). Adalwyd ar 5 Medi 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 (Saesneg) "Pietri, Arturo Uslar" yn Gale Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 6 Medi 2019.
  4. (Saesneg) Phil Gunson, "Obituary: Arturo Uslar Pietri", The Guardian (2 Mawrth 2001). Adalwyd ar 5 Medi 2019.
  5. (Saesneg) Juan Carlos Galeano, "Uslar Pietri, Arturo (1906–2001)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 5 Medi 2019.
  6. (Saesneg) "A. Uslar Pietri; Venezuelan Novelist and Statesman", Los Angeles Times (6 Mawrth 2001). Adalwyd ar 6 Medi 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofiannau ac astudiaethau bywgraffyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rafael Arráiz Lucca, Arturo Uslar Pietri, o la hipérbole del equilibrio: Biografía (Caracas: Fundación para la Cultura Urbana, 2005).
  • Astrid Avendaño, Arturo Uslar Pietri : entre la razón y la acción (Caracas: Oscar Todtmann Editores, 1996).
  • Jorge A. Marbán, La vigilia del vigía: vida y obra de Arturo Uslar Pietri (Caracas: Fondo Editorial del Centro Internacional de Educación y Desarrollo, 1997).
  • Ildefonso Méndez Salcedo, Arturo Uslar Pietri: Una vocación al servicio de la cultura (San Cristóbal, Táchira: Fundación de Estudios Históricos, 2014).
  • Tomás Polanco Alcántara, Arturo Uslar Pietri: Biografía literaria (Caracas: Ediciones GE, 2002).
  • Patrizia Spinato Bruschi, Arturo Uslar Pietri: Tra politica e letteratura (Rhufain: Bulzoni, 2001).
  • Ramon Urdaneta, Arturo Uslar Pietri (Caracas: Editorial Panapo, 1997).
  • Arturo Uslar Pietri a Leonor Giménez de Mendoza, Arturo Uslar Pietri, 1906–2006 (Caracas: Fundación Polar, 2006).

Astudiaethau beirniadol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rafael Arráiz Lucca et al., Los nombres de Arturo Uslar Pietri: Una valoración multidisciplinaria (Mérida: Universidad de Los Andes, 2006).
  • Rafael Arráiz Lucca et al., Arturo Uslar Pietri : valoración múltiple (Caracas: Los Libros de El Nacional, 2012).
  • Francisco Barbadillo, Los artículos de Pizarrón: aproximación al pensamiento de Arturo Uslar Pietri (Caracas: Ediciones de la Presidencia de la República, 1996).
  • R. M. R. Dougherty, "The Essays of Arturo Uslar Pietri" (Urbana, Illinois: University of Illinois, 1971).
  • Mauricio García Araujo (gol.), Todo Uslar (Caracas: Editorial Panapo, 2001).
  • Teresita Josefina Parra, Visión histórica en la obra de Arturo Uslar Pietri (Madrid: Editorial Pliegos, 1993).
  • José Luis Vivas, La cuentística de Arturo Uslar Pietri (Caracas: Universidad Central de Venezuela, 1963).
  • Domingo Miliani, Arturo Uslar Pietri: Renovador del cuento venezolano contemporáneo (Dinas Mecsico: Facultad de Filosofía y Letras, UNAM, 1965).
  • Guillermo Moron, Dos novelistas latinoamericanos: Arturo Uslar Pietri, Ernesto Sábato (Buenos Aires: Publicaciones de la Embajada de Venezuela, 1979).
  • Tomás Polanco Alcántara (gol.), El valor humano de Arturo Uslar Pietri (Caracas: Ediciones de la Academia Nacional de la Historia, 1984).
  • Patrizia Spinato Bruschi, Costanti tematiche nell'opera di Arturo Uslar Pietri (Rhufain: Bulzoni, 2003).

Detholiadau a sgyrsiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Margarita Eskenazi (cyfwelydd), Uslar Pietri: Muchos hombres en un solo nombre (Caracas: Editorial Caralex, 1988).
  • Laura Febres (detholydd), A los amigos invisibles: Visiones de Arturo Uslar Pietri (Caracas: Universidad Metropolitana, 2006).

Llyfryddiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Luis Alberto Musso Ambrosi, Arturo Uslar Pietri en el suplemento de "El Día": hemerografía analítica (Montevideo: Biblioteca Nacional del Uruguay, 1990).
  • Rafael Ángel Rivas Dugarte, Fuentes complementarias para el estudio de Arturo Uslar Pietri (Caracas: Centro de Estudios Latinoamericanos Rómulo Gallegos, 1998).
  • Manuel Pérez Vila, Contribución a la biblio-hemerografía de Arturo Uslar Pietri: bibliografía, hemerografía y programas de TV (Caracas: Editorial Ex Libris, 1989).
  • María Zoraída Lange de Cabrera ac Efraín Subero, Bibliografia de Arturo Uslar Pietri (Caracas: Universidad Catolica Andrés Bello, 1973).