Miguel Ángel Asturias
| Miguel Ángel Asturias | |
|---|---|
| Ganwyd | Miguel Ángel Tejada Peñuela 19 Hydref 1899 Dinas Gwatemala |
| Bu farw | 9 Mehefin 1974 Madrid |
| Dinasyddiaeth | Gwatemala |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, diplomydd, newyddiadurwr, gwleidydd, bardd-gyfreithiwr, cyfieithydd, cyfreithiwr |
| Swydd | Member of the Congress of Guatemala, Llywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes, ambassador of Guatemala to Mexico, ambassador of Guatemala to El Salvador, ambassador of Guatemala to France |
| Adnabyddus am | Leyendas de Guatemala, Mulata de tal |
| Mudiad | Swrealaeth, realaeth hudol |
| Priod | Clemencia Amado, Blanca Mora y Araujo |
| Plant | Rodrigo Asturias |
| Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Order of Augusto César Sandino, Medalla Yucatán, Gwobr Heddwch Lennin, honorary doctorate of the University of Reims, honorary doctor of the University of Western Brittany |
Bardd a nofelydd Sbaeneg a diplomydd o Gwatemala oedd Miguel Ángel Asturias (19 Hydref 1899 – 9 Mehefin 1974). Derbyniodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1967 "am ei gyrhaeddiad llenyddol bywiog, wedi ei wreiddio'n ddwfn yn nheithi a thraddodiadau cenedlaethol y bobloedd Indiaidd yn America Ladin".[1]
Ganwyd yn Ninas Gwatemala. Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol San Carlos yn 1923. Ymsefydlodd ym Mharis ac astudiodd ethnoleg yn y Sorbonne. Ymunodd â'r mudiad Swrealaidd dan ddylanwad y bardd André Breton. Un o'i weithiau cyntaf oedd Leyendas de Guatemala (1930), sy'n disgrifio cymdeithas a diwylliant y Maya yn y cyfnod cyn dyfodiad y Sbaenwyr.[2]
Dychwelodd Asturias i Gwatemala a sefydlodd y cylchgrawn radio El diario del aire. Ymhlith ei nofelau mae El señor presidente (1946), Hombres de maíz (1949), a'r triawd sy'n cynnwys Viento fuerte (1950), El papa verde (1954), a Los ojos de los enterrados (1960). Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, gan gynnwys Sonetos (1936). Cychwynnodd ar ei yrfa ddiplomyddol yn 1946, a daliodd swydd llysgennad Gwatemala i Ffrainc o 1966 i 1970. Bu'n byw ym Mharis am weddill ei oes. Bu farw ym Madrid yn 74 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1967", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 7 Medi 2019.
- 1 2 (Saesneg) Miguel Ángel Asturias. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Medi 2019.
- Genedigaethau 1899
- Marwolaethau 1974
- Beirdd yr 20fed ganrif o Gwatemala
- Beirdd Sbaeneg o Gwatemala
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Paris
- Diplomyddion o Gwatemala
- Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel
- Ethnolegwyr o Gwatemala
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Gwatemala
- Nofelwyr Sbaeneg o Gwatemala
- Pobl o Ddinas Gwatemala
- Pobl fu farw ym Madrid
- Sonedwyr Sbaeneg
- Ymfudwyr o Gwatemala i Ffrainc