Henri Barbusse
Gwedd
Henri Barbusse | |
---|---|
Ganwyd | Adrien Gustave Henri Barbusse 17 Mai 1873 Asnières-sur-Seine |
Bu farw | 30 Awst 1935 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, sgriptiwr, cofiannydd, nofelydd, gwleidydd, arlunydd, bardd, hanesydd |
Swydd | golygydd llenyddol, cyfarwyddwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Under Fire |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Ffrengig |
Mudiad | proletarian literature |
Priod | Hélyonne Mendès |
Gwobr/au | Gwobr Goncourt, Cystadleuthau Cyffredinol, Croix de guerre 1914–1918 |
llofnod | |
Nofelydd a bardd yn yr iaith Ffrangeg o Ffrainc oedd Henri Barbusse (17 Mai 1873 – 30 Awst 1935) sy'n nodedig am ei nofel Le Feu (1916) sy'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Ganwyd yn Asnières-sur-Seine, ger Paris. Cychwynnod ar ei yrfa lenyddol gyda'r gyfrol o farddoniaeth newydd-Symbolaidd, Pleureuses (1895). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Les Suppliants, yn 1903, a'r nofel newydd-Naturiolaidd L'Enfer yn 1908. Ymunodd â Byddin Ffrainc yn 1914 a gwasanaethodd yn droedfilwr ar Ffrynt y Gorllewin.
Wedi'r rhyfel, trodd Barbusse yn heddychwr ac yna'n gomiwnydd milwriaethus. Symudodd i'r Undeb Sofietaidd ac ysgrifennodd Staline (1935), bywgraffiad am Joseff Stalin. Bu farw ym Moscfa yn 62 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Henri Barbusse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2019.
Categorïau:
- Genedigaethau 1873
- Marwolaethau 1935
- Beirdd y 19eg ganrif o Ffrainc
- Beirdd Ffrangeg o Ffrainc
- Bywgraffyddion yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Bywgraffyddion Ffrangeg o Ffrainc
- Comiwnyddion o Ffrainc
- Milwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Nofelwyr Ffrangeg o Ffrainc
- Pobl o Hauts-de-Seine
- Pobl fu farw ym Moscfa