Biblioteca Nacional del Uruguay

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Llyfrgell genedlaethol Wrwgwái yn Ne America yw'r Biblioteca Nacional del Wrwgwái (Sbaeneg, sef Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái). Fe'i lleolir ym Montevideo, prifddinas y wlad. Agorwyd y llyfrgell yn 1815 ac mae wedi bod yn yr adeilad presennol ers 1955. Yn 2006, roedd ganddi dros 900,000 llyfr ar ei silffoedd a hefyd 20,000 o gylchgronau, deunydd clywedol, mapiau, cerddoriaeth, darluniau o bob math, a llawysgrifau.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Uruguay.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wrwgwái. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato