Azorín
| Azorín | |
|---|---|
| Ffugenw | Azorín, Cándido |
| Ganwyd | 8 Mehefin 1873, 11 Mehefin 1874 Monòver |
| Bu farw | 3 Mawrth 1967 Madrid |
| Dinasyddiaeth | Sbaen |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | nofelydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ffeithiol, dramodydd, gwleidydd |
| Swydd | member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, Member of the Royal Spanish Academy |
| Arddull | drama, traethawd |
| Prif ddylanwad | Miguel de Unamuno, Ángel Ganivet |
| Mudiad | Cenhedlaeth 98 |
| Priod | Julia Guinda de Urzanqui |
| Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Croes Urdd Siarl III, Q77595621, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X |
Nofelydd, ysgrifwr, a beirniad llenyddol Sbaenaidd oedd José Martínez Ruiz (8 Mehefin 1873 – 2 Mawrth 1967) a adwaenir gan y ffugenw Azorín. Efe oedd un o aelodau blaenllaw y mudiad llenyddol La Generación del 98.
Ganed ym Monóvar, Valencia, yng Ngweriniaeth Gyntaf Sbaen. Astudiodd y gyfraith yn Valencia, Granada, a Salamanca. Symudodd i Fadrid i fod yn newyddiadurwr, ond roedd yn anodd iddo gael gwaith oherwydd ei agwedd ddi-flewyn-ar-dafod.[1]
Ysgrifennodd driawd o nofelau traethodol – La voluntad (1902), Antonio Azorín (1903), Las confesiones de un pequeño filósofo (1904) – a oedd yn hwb i La Generación del 98. Mynegir gwladgarwch diwylliannol Azorín yn ei gyfrol El alma castellana (1900) a'i gasgliadau o ysgrifau La ruta de Don Quijote (1905) ac Una hora de España 1560–1590 (1924). Ystyrir Azorín yn feirniad gwychaf Sbaen yn nechrau'r 20g, a dethlir clasuron llenyddiaeth Sbaeneg yn ogystal â mudiadau newydd yn ei weithiau megis Al margen de los clásicos (1915). Azorín oedd golygydd y cylchgrawn Revista de Occidente o 1923 i 1936.
Treuliodd Azorín gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen ym Mharis yn ysgrifennu i'r papur newydd Archentaidd La Nación. Dychwelodd i Fadrid ym 1949, a bu farw yno yn 93 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 (Saesneg) Azorín. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2020.