Rubén Darío

Oddi ar Wicipedia
Rubén Darío
FfugenwEl Príncipe de las Letras Castellanas, El Padre del Modernismo Edit this on Wikidata
GanwydFélix Rubén García Sarmiento Edit this on Wikidata
18 Ionawr 1867 Edit this on Wikidata
Ciudad Darío Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 1916 Edit this on Wikidata
o sirosis Edit this on Wikidata
León Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNicaragwa Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, diplomydd, gohebydd, ysgrifennwr, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Swyddconswl Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAzul, Cantos de vida y esperanza, Q30141638 Edit this on Wikidata
PriodRafaela Contreras, Rosario Murillo, Francisca Sánchez del Pozo Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd o Nicaragwa yn ysgrifennu yn Sbaeneg oedd Félix Rubén García Sarmiento, yn ysgrifennu dan y ffugenw Rubén Darío (18 Ionawr 18676 Chwefror 1916). Adnabyddir ef fel "Tad Moderniaeth".

Ganed Darío yn Metapa, Nicaragwa, tref sy'n awr wedi ei hail-enwi yn Ciudad Darío ar ei ôl. Ymwahanodd ei reni yn fuan ar ôl ei enedigaeth, a dim ond dwywaith yn ei fywyd y gwelodd ei fam wedyn. Dechreuodd farddoni yn ieuanc, a chafodd yr enw "El Niño Poeta" ("y bachgen-fardd"); roedd yn cyhoeddi ei farddoniaeth erbyn bod yn ddeuddeg oed.

Teithiodd i El Salvador, lle cyfarfu a Francisco Gavidia, a gyflwynodd lenyddiaeth Sbaeneg a Ffrangeg iddo. Yn ddiweddarach symudodd i Tsile, lle cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Emelina. Yn ddiweddarach daeth yn newyddiadurwr ar La Nacion yn yr Ariannin. Dychwelodd i Nicaragwa yn 1883.

Yn 1888 cyhoeddodd ei gasgliad Azul... ("Glas..."), a ddaeth ag ef i amlygrwydd fel un o sylfaenwyr y mudiad Modernismo mewn llenyddiaeth Sbaeneg.