Pop Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 18: Llinell 18:


== Cerddorion pop Cymraeg ==
== Cerddorion pop Cymraeg ==
===1970au===
Mae'n debyg mae [[Edward H. Dafis]] oedd y grwp mwyaf enwog yn y [[1970au]]. Roedd [[Hergest]], [[Sidan]], [[Y Tebot Piws]] a [[Meic Stevens]] wrth gwrs.
Mae'n debyg mai y band [[Edward H. Dafis]] oedd un o'r grwpiau mwyaf poblogaidd yn y [[1970au]]. Roedd [[Hergest]], [[Sidan]], [[Y Tebot Piws]] a [[Meic Stevens]] yn parhau yn boblogaidd yn ystod y cyfnod yma hefyd.


===1980au===
[[Geraint Jarman]] a'r Cynganeddwyr a'r [[Y Trwynau Coch|Trwynau Coch]] oedd y mwyaf poblogaidd yn y [[1980au]]. Roedd llawer o fandiau poblogaidd yn yr 1980au; [[Angylion Stanli]], [[Doctor]], [[Crys]], [[Eliffant (band)|Eliffant]], [[Omega]], [[Crysbas]], [[Ficer]] a [[Pryd ma' Te]].
[[Geraint Jarman]] a'r Cynganeddwyr a'r [[Y Trwynau Coch|Trwynau Coch]] oedd y mwyaf poblogaidd yn y [[1980au]]. Roedd llawer o fandiau poblogaidd yn yr 1980au; [[Angylion Stanli]], [[Doctor]], [[Crys]], [[Eliffant (band)|Eliffant]], [[Omega]], [[Crysbas]], [[Ficer]] a [[Pryd ma' Te]].


===1990au===
Yn y [[1990au]] mae'n debyg mae'r mwyaf poblogaidd oedd [[Bryn Fôn]] a'r band, [[Celt]] ac [[Anweledig]]. Yn ystod y 1990au roedd llawer yn canu yn Gymraeg a Saesneg fel [[Catatonia]], a [[Super Furry Animals]].
Yn y [[1990au]] mae'n debyg mae'r mwyaf poblogaidd oedd [[Bryn Fôn]] a'r band, [[Iwcs a Doyle]], [[Celt]] ac [[Anweledig]]. Yn ystod y 1990au roedd llawer yn canu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal a chynhyrchu cerddoriaeth yn yr iaith Saesneg fel [[Catatonia]], a'r [[Super Furry Animals]]. Golygodd hyn fod eu cerddoriaeth yn cael ei glywed gan gynulleidfa ehangach, gan arwain at ddiddordeb cynyddol yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yng Nghymru ei hun a thu hwnt i ffiniau'r wlad, arweiniodd hyn at fathu'r term ''[[Cool Cymru]]'' gan y wasg Saesnig.


===2000au===
Mae llawer o ferched yn canu [[Cerddoriaeth roc|roc]] yn ddiweddar ac yn cyflogi band i gyfeilio fel [[Elin Fflur]] a [[Meinir Gwilym]].
Erbyn y 1990au hwyr a'r 2000au, roedd darpariaeth cerddoriaeth o bob arddull i'w gael yn yr iaith Gymraeg. Roedd llawer o ferched yn canu [[Cerddoriaeth roc|roc]] yn y cyfnod hwn ac aml yn cyflogi band i gyfeilio fel [[Elin Fflur]] a [[Meinir Gwilym]]. Daeth [[Mim Twm Llai]] yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Roedd grwpiau roc fel [[Kentucky AFC]], [[Poppies]], [[Radio Luxembourg]], [[Gola Ola]] ac [[Y Rei]] yn boblogaidd. Tra roedd bandiau fel [[Derwyddon Dr. Gonzo]] yn parhau y traddodiad canu [[reggae]] a [[ska]] yng Nghymru. Daeth grwpiau Cymreig [[hip hop]] fel y [[Pep Le Pew]] a'r [[Genod Droog]] yn fwy amlwg ar y sîn hefyd.

===2010au===
Roedd y band gwerin amgen [[Gwibdaith Hen Frân]] yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Parhaodd artistiad [[hip hop]] fel [[Mr. Phormula]] i sicrhau fod y diwylliant Cymraeg yn cael ei fynegi drwy sawl cyfrwng cerddorol gwahanol.


==Gweler hefyd==
==Gweler hefyd==

Fersiwn yn ôl 11:16, 11 Ebrill 2011

Roedd cerddoriaeth bop Cymraeg yn gymharol hwyr yn datblygu. Roedd diwylliant pop yn y dinasoedd ond araf oedd e i gyrraedd yr ardaloedd gwledig Cymraeg. Roedd llawer o rhesymau am hyn. Gan fod Cymru'n wlad fynyddig, roedd derbyniad radio yn wael yn yr ardaloedd gwledig a doedd llawer o Gymry Cymraeg ddim yn clywed caneuon bop. Roedd y Cymry Cymraeg yn dueddol i wneud eu diwillant eu hunain wrth farddoni a chanu caneuon gwerin traddodiadol mewn nosweithiau llawen neu eisteddfodau. Cyn y 1960au doedd dim trydan yng Nghymru yn yr ardaloedd gwledig. Doedd hi ddim yn bosibl chwarae gitâr trydan. Roedd rhaid defnyddio offerynau acwstig, felly fe wnaeth y traddodiad canu gwerin barhau. Roedd dylanwad crefydd ac emynau yn dal i barhau hefyd. Doedd rhythm yr iaith Gymraeg ddim yn ffitio rhythmau roc a rôl yn dda ac yn swnio braidd yn od. Cerddoriaeth ddawns oedd roc a rôl yn wreiddiol, felly doedd y geiriau ddim yn bwysig. Roedd ambell i gystadlaeth pop mewn eisteddfodau ond anodd iawn oedd gosod drymau ac offerynau trydan ar lwyfan er mwyn canu un gân fach, yn enwedig pan oedd cystadleuwyr eraill yn disgwyl i ddefnyddio'r llwyfan. Roedd y beirniaid, a oedd yn arfer beirniadu cerdd dant a chanu penillion, yn gwybod dim byd am ddulliau chwarae'r felan, sylfaen cerddoriaeth bop.

Yr arloeswyr

Roedd yna adfywiad caneuon gwerin ar ddechrau'r 1960au. Dywed rhai fod rhythm yr iaith Gymraeg yn mynd gyda rhythmau roc werin yn llawer gwell na rhythmau roc a rôl cynnar. Roedd hi'n bossibl i gyfansoddi a chanu caneuon roc a pop yn Gymraeg.

Bu Dafydd Iwan yn canu a chyfeilio ei hunan ar y gitâr ers 1962.

Yn 1965 roedd merch ifanc o'r enw Helen Wyn Jones yn canu caneuon pop Cymraeg ar y radio. Aeth ymlaen i ganu led led y byd o dan yr enw Tammy Jones, ond Helen Wyn oedd hi i'r Cymry o hyd.

Un arall yn 1965 oedd Mary Hopkin. Roedd hi'n canu roc werin Cymraeg. Pan ddarganfyddwyd hi gan Paul McCartney, aeth yn ei blaen gan lwyddo ar y llwyfan rhyngwladol.

Un o gantorion mwyaf poblogaidd (a gwahanol) a chwedegau oedd Meic Stevens.

Y grwp pop Cymraeg cyntaf oedd y Blew; a berfformiodd mewn cyngerdd pop yn y babell lên ar gae Eisteddfod y Bala yn 1967. Roedd y Blew a Dafydd Iwan yn perfformio yno. Ers hynny mae cyngherddau pop wedi bod yn gysylltiedig â'r eisteddfod yn flynyddol.

Caneuon protest

Yr hyn a wthiodd cerddoriaeth pop Cymraeg ymlaen oedd y gân brotest gyda Dafydd Iwan ar flaen y gad. Roedd llawer o bethau'n poeni ieuenctid Cymru ar y pryd; boddi Tryweryn yn 1965, statws yr iaith Gymraeg ac arwisgiad Charles fel Tywysog Cymru yn 1969. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd y clerwr yn mynd a'i gitâr i'r dafarn a chanu caneuon ddychanol a chaneuon brotest. Pan ddechreuodd Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards recordiau Sain yn 1969, y gân brotest "Dŵr" gan Huw Jones oedd y record gyntaf. Roedd cân brotest yn ei hanterth yr adeg honno, hefyd gyda Bob Dylan er engraifft yn ffigwr byd-eang, amlwg.

Cerddorion pop Cymraeg

1970au

Mae'n debyg mai y band Edward H. Dafis oedd un o'r grwpiau mwyaf poblogaidd yn y 1970au. Roedd Hergest, Sidan, Y Tebot Piws a Meic Stevens yn parhau yn boblogaidd yn ystod y cyfnod yma hefyd.

1980au

Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr a'r Trwynau Coch oedd y mwyaf poblogaidd yn y 1980au. Roedd llawer o fandiau poblogaidd yn yr 1980au; Angylion Stanli, Doctor, Crys, Eliffant, Omega, Crysbas, Ficer a Pryd ma' Te.

1990au

Yn y 1990au mae'n debyg mae'r mwyaf poblogaidd oedd Bryn Fôn a'r band, Iwcs a Doyle, Celt ac Anweledig. Yn ystod y 1990au roedd llawer yn canu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal a chynhyrchu cerddoriaeth yn yr iaith Saesneg fel Catatonia, a'r Super Furry Animals. Golygodd hyn fod eu cerddoriaeth yn cael ei glywed gan gynulleidfa ehangach, gan arwain at ddiddordeb cynyddol yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yng Nghymru ei hun a thu hwnt i ffiniau'r wlad, arweiniodd hyn at fathu'r term Cool Cymru gan y wasg Saesnig.

2000au

Erbyn y 1990au hwyr a'r 2000au, roedd darpariaeth cerddoriaeth o bob arddull i'w gael yn yr iaith Gymraeg. Roedd llawer o ferched yn canu roc yn y cyfnod hwn ac aml yn cyflogi band i gyfeilio fel Elin Fflur a Meinir Gwilym. Daeth Mim Twm Llai yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Roedd grwpiau roc fel Kentucky AFC, Poppies, Radio Luxembourg, Gola Ola ac Y Rei yn boblogaidd. Tra roedd bandiau fel Derwyddon Dr. Gonzo yn parhau y traddodiad canu reggae a ska yng Nghymru. Daeth grwpiau Cymreig hip hop fel y Pep Le Pew a'r Genod Droog yn fwy amlwg ar y sîn hefyd.

2010au

Roedd y band gwerin amgen Gwibdaith Hen Frân yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Parhaodd artistiad hip hop fel Mr. Phormula i sicrhau fod y diwylliant Cymraeg yn cael ei fynegi drwy sawl cyfrwng cerddorol gwahanol.

Gweler hefyd