Pryd ma' Te

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pryd ma te5.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Grŵp pop Cymraeg oedd Pryd ma' Te. Cychwynnodd y grŵp fel triawd yn 1984, a'r aelodau oedd Siân Wheway, Carys Huw a'r actores Mair 'Harlech'. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1985 roedd Nia Bowen wedi ymuno ar y drymiau. Roedd tafod y moch y merched pan fathwyd yr enw, gan fod y byrfoddau'n awgrymog: P.M.T.

Roedd y grŵp yn chwarae caneuon amrywiol - gwleidyddol, ffeministaidd, serch, hiwmor a hwyl. Roedd enw'r grwp yn cynnwys y blaenlythrennau PMT, a oedd yn cryfhau ochr ffeministaidd y band.

Bu'r band yn chwarae yn gyson hyd 1989 ac yn ysbeidiol wedi hynny.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • "Pryd Ma' Te?" - Sengl 12", (Recordiau Sain, SAIN 132EE, 1987)
  • Geraint (Pigion Taro Tant) (Recordiau Sain C969G, 1986)
  • Rheolau Dynion (Cadw Reiat) (Recordiau Sain C975G, 1986)