Neidio i'r cynnwys

Gwibdaith Hen Frân

Oddi ar Wicipedia
Gwibdaith Hen Frân
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dynodwyr

Band acwstig gwerin amgen o ardal Blaenau Ffestiniog oedd Gwibdaith Hen Frân

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ffurfiodd y band yn 2006, gan esblygu o chwarae yn nhafarndai Bro Ffestiniog i wyliau cerddorol megis Gŵyl Car Gwyllt, Tân y Ddraig, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2007. Daeth yr ysbrydoliaeth i enw'r band drwy ddylanwad y band Old Crow Medicine Show ac er cof am Jac y Frân, anifail anwes Phil, un o'r aelodau.

Gwibdaith yng ngŵyl Tegeingl.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Cedors Hen Wrach yn 2007 ar label Rasal. Lansiwyd eu hail albwm, Tafod Dy Wraig yn Haf 2008 a dilynodd eu trydydd albwm, Llechan Wlyb ym mis Mai 2010.

Ym mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd dau o aelodau Gwibdaith Hen Frân - Paul Thomas a Robert Ifan Buckley - eu bod yn bwriadu gadael y band. Fodd bynnag, cyhoeddodd Philip Lee Jones y buasai Gwibdaith Hen Frân yn parhau i berfformio hyd yn oed pe bai'r ddau yn gadael.

Ymunodd 3 aelod newydd â'r band ym mis Rhagfyr 2010; sef Justin Allen Davies (Mandolin / Harmonica), Gary Richardson (Gitâr Fas), ac Ieuan Williamson (Banjo), ac yn dilyn bron i dair mlynedd o deithio a pherfformio rhyddhawyd eu 4ydd albwm Yn Ôl ar y Ffordd ym mis Awst 2013.

Yn 2021, cyhoeddodd y grŵp eu bod yn rhoi'r gorau i berfformio gyda'i gilydd.[1] Er hynny parhaodd y band i berfformio ar rai achlysuron. Yn 2025 perfformiodd y band yn Tafwyl ac Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Yn Medi 2025 cyhoeddwyd y byddai'r band yn dod i ben yn barhaol. Roedd aelodau'r band yn byw yn bell o'i gilydd, a felly prin oedd yr amser i ymarfer. Chwaraeodd y grŵp eu gig olaf yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe ar nos Sadwrn, 27 Medi 2025.[2]

Aelodau

[golygu | golygu cod]

Cyn-aelodau

[golygu | golygu cod]

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwibdaith Hen Fran". www.facebook.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-09-14.
  2. "Gwibdaith Hen Frân wedi perfformio 'am y tro olaf'". newyddion.s4c.cymru. 2025-09-29. Cyrchwyd 2025-09-29.