Vates (band)
Jump to navigation
Jump to search
Vates | |
---|---|
Gwybodaeth gefndirol | |
Tarddiad | ![]() |
Cerddoriaeth | Dub / Ska / Pync |
Blynyddoedd | 2000- |
Label(i) recordio | Recordiau Bos Records |
Cysylltiedig | Anweledig / Mim Twm Llai |
Dylanwadau | Madarch Hud |
- Erthygl am fand o Gymru yw hon. Am yr offeiriad Celtaidd, gweler Vates.
Mae Vates yn fand o ardal Ffestiniog yn Ngwynedd, yn chwarae mewn nifer o arddulliau, yn cynnwys Ska a Dub. Dewi Prysor yw prif leisydd y band, ac maent yn canu am nifer o faterion cyfoes, ac yn ogystal, materion hollol anghyfoes. Fe ffurfiwyd y band yn gynnar yn y mileniwm newydd, ac mae Iwan 'Oz' Jones yn brif gitarydd y band, gynt o Anweledig. Rhyddhawyd eu albwm cyntaf "Ymosodiad y Contiad y Môr Rheibus o du Hwnt i'r Cyrtans" ar label Recordiau Bos ym Mis Mehefin 2007. Maent yn perfformio mewn nifer o wyliau lleol, megis Gŵyl Car Gwyllt, yn gymharol aml.
Discograffi[golygu | golygu cod y dudalen]
"Ymosodiad y Contiad y Môr Rheibus o du Hwnt i'r Cyrtans" Recordiau Bos, 2007