Machen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Gwybodlen WD |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) symud y ddelwedd |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
| aelodseneddol = {{Swits Caerffili i enw'r AS}} |
| aelodseneddol = {{Swits Caerffili i enw'r AS}} |
||
}} |
}} |
||
⚫ | |||
Mae '''Machen''' (Cyfeirnod OS: ST 226 887) yn bentref eitha mawr, wedi'i leoli tair milltir i'r dwyrain o [[Caerffili|Gaerffili]] ar ffordd yr [[A468]] ym [[Caerffili (sir)|Mwrdeistref Sirol Caerffili]] yn ne [[Cymru]]. Mae [[Bedwas]] a [[Trethomas|Threthomas]] gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir [[Castell Machen]], un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref. |

Llinell 11: | Llinell 10: | ||
Cynrychiolir yr ardal hon yn y [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] gan {{Swits Caerffili i enw'r AC}} a'r Aelod Seneddol yw {{Swits Caerffili i enw'r AS}}.<ref>[http://www.cynulliadcymru.org/memhome.htm Gwefan y Cynulliad;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref><ref>[http://www.parliament.uk/mps-lords-and-offices/mps/?sort=2&type=3 Gwefan parliament.uk;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref> |

==Hanes Diwydianol== |
==Hanes Diwydianol== |
Fersiwn yn ôl 15:31, 12 Tachwedd 2018
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bedwas |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5988°N 3.1347°W |
Cod OS | ST215895 |
Cod post | CF83 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hefin David (Llafur) |
AS/au | Wayne David (Llafur) |
Mae Machen (Cyfeirnod OS: ST 226 887) yn bentref eitha mawr, wedi'i leoli tair milltir i'r dwyrain o Gaerffili ar ffordd yr A468 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ne Cymru. Mae Bedwas a Threthomas gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir Castell Machen, un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref.
Saif y pentref wrth droed Mynydd Machen. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw Machen: Then & Now, sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Wayne David (Llafur).[1][2]
Hanes Diwydianol
Roedd pentref Machen yn wereiddiedig yn niwydianau glo a haearn yn deillio o'r 17g. Er does dim llawer o ôl y diwydianau ar ôl yn gyfredol, roedd y pentref yn lleoliad i Efail Machen a sawl pwll glo. Mae yna lwybr hanesyddol leol sy'n ymweld a rhai o'r manau yma. Roedd Efail Machen wedi mabwysiadu dull Osmond o gynhyrchu haearn gyr yn gynnar yn ei hanes. Roedd un o orsafoedd rheilffordd Brycheiniog a Merthyr a hefyd yn gangen i Gaerffili ar rheilffordd Pontypridd, Caerffili a Chasnewydd, a gaewyd i deithwyr ym 1956. Heddiw mae yna gangen weddilliol o RB&M yn agored i wasanaethu chwarel Hanson Aggregates ym Machen.
Chwaraeon
Mae gan Machen dîm rygbi lleol. Maent yn chwarae yn Adran Pedwar y Dwyrain URC ac mae'r tîm yn gwisgo crysau glas gydag ochrau du, trowsus byr du a hosannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Lles Machen.
Addysg
Mae yna ysgol cynradd ym Machen or enw Ysgol Gynradd Machen. Mae'r ysgol yn darparu ei addysg trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna hefyd ysgol Gristnogol annibynnol ym Machen o'r enw 'Wycliff Independent Christian School', sydd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Saesneg a thrwy weledigaeth Gristnogol unigryw.
Pobl Nodedig
- Alfred Edward Morgans (17 Chwefror 1850 – 10 August 1933), Prif Weinidog Gorllewin Awstralia am ddim ond 32 o ddyddiau in 1901. Cafodd ei eni ym Machen.
- Daw'r gwleidydd Ron Davies o Fachen. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw barddol "Ron o Fachen". Nodir Ron hefyd fel "pensaer datganoli Cymreig", tra'n Ysgrifennydd Gwladol Dros Cymru yng nghabined Plaid Lafur Tony Blair.
- Ian Thomas - cyn gricedwr i Glwb Criced Morgannwg. Fe chwaraeodd dros Forgannwg rhwng 1998 a 2005 gan ennill dwy dlws y Gynghrair Undydd gyda'r sir. Cofir amdano hefyd am iddo sgorio'r can rhediad cyntaf i'w ddarlledu ar deledu yn 2004 (116 heb ei wared yn erbyn Gwlad yr Haf).
- Arthur Machen (Arthur Jones) (1863 - 1947), ffiwgr cwlt o'r 1920au a gyhoeddodd nifer o storiau iasoer am y byd goruwch naturiol gan gynnwys The Bowmen.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu