Gruffudd ab yr Ynad Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Bardd llys yng Ngwynedd yn ail hanner y 13eg ganrif oedd '''Gruffudd ab yr Ynad Coch''' (fl. 1277 - 1283), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd ... |
B Wedi symud Gruffudd ab Yr Ynad Coch i Gruffudd ab yr Ynad Coch: 'y' fach sy'n fwy safonol (mea culpa!) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:05, 23 Awst 2007
Bardd llys yng Ngwynedd yn ail hanner y 13eg ganrif oedd Gruffudd ab yr Ynad Coch (fl. 1277 - 1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur un o'r marwnadau enwocaf yn yr iaith Gymraeg, a ganodd i alaru a choffáu Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), Tywysog Cymru.
Cefndir y bardd
Ychydig a wyddys am fywyd personol y bardd. Hanai o deulu o gyfreithwyr Cymreig a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â Llanddyfnan ym Môn ond yn wreiddiol o ardal cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237), a ganodd i Gruffudd ap Llywelyn Fawr, tad Llywelyn Ein Llyw Olaf. Mae'n bosibl mai Madog Goch Ynad oedd tad Gruffudd ab yr Ynad Coch; mae'n bosibl ei fod yn dal tir ym Môn yn ddiolch am ei wasanaeth fel ynad yn llywodraeth Gwynedd.
Ei waith barddonol
Erys ar glawr saith awdl ac un englyn proest o waith Gruffudd ab yr Ynad Coch. Maent i gyd ar gael mewn un llawysgrif yn unig, sef Llawysgrif Hendregadredd. Canu crefyddol yw chwech o'r awdlau.
Mae'r seithfed awdl yn farwnad i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1283 neu'n gynnar yn Ionawr 1284. Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a chatholig ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:
- 'Oerfelawg calon dan fron o fraw,
- Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw;
- Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
- Poni welwch chwi'r deri yn ymdaraw?
- Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw—'r tir?
- Poni welwch chwi'r Gwir yn ymgyweiriaw?
- Poni welwch chwi'r haul yn hwylaw—'r awyr?
- Poni welwch chwi'r sŷr wedi r'syrthiaw?
- Pani chredwch chwi i Dduw, ddynaddion ynfyd?
- Pani welwch chwi'r byd wedi r'bydiaw?'
Llyfryddiaeth
- Rhian M. Andrews a Catherine McKenna (gol.), yn, Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Ceir testun hwylus o destun 'Marwnad Llywelyn ap Gruffudd' mewn orgraff ddiweddar yn y gyfrol Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.