Llenyddiaeth Hen Saesneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B nodyn Llenyddiaeth Hen Saesneg Tagiau: Golygiad cod 2017 |
ehangu cyflwyniad Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Llenyddiaeth Hen Saesneg}} |
{{Llenyddiaeth Hen Saesneg}} |
||
[[Llenyddiaeth]] a ysgrifennir yn [[Hen Saesneg]], y ffurf ar yr iaith [[Saesneg]] a fodolai yn y cyfnod o |
[[Llenyddiaeth]] a ysgrifennir yn [[Hen Saesneg]], y ffurf ar yr iaith [[Saesneg]] a fodolai yn y cyfnod o ganol y 7g i ddiwedd y 12g, yw '''llenyddiaeth Hen Saesneg''' neu '''lenyddiaeth Eingl-Sacsoneg'''. Dyma oesoedd yr [[Eingl-Sacsoniaid]] yn [[hanes Lloegr]], rhwng dyfodiad y llwythau Germanaidd o'r Cyfandir i dde-ddwyrain [[Prydain Fawr]] yn y 5g a'r 6g a gorchfygiad Lloegr gan [[y Normaniaid]] ym 1066. Ymddengys testunau Hen Saesneg ar sawl ffurf a genre, gan gynnwys yr [[arwrgerdd]], [[bucheddau'r saint]], [[pregeth]]au, trosiadau o'r [[Beibl]], cyfreithiau, croniclau, a dychmygion a damhegion. Mae rhyw 400 o [[llawysgrif|lawysgrifau]] wedi eu cadw o'r cyfnod hwn, corff sylweddol o lenyddiaeth o'r [[Oesoedd Canol Cynnar]]. Maent yn dystiolaeth bwysig o ddatblygiad cynnar yr iaith Saesneg, [[hanes traddodiadol]] Lloegr, ac [[ethnogenesis]] y [[Saeson]]. |
||
O'r holl farddoniaeth yn yr Hen Saesneg, dim ond 30,000 o linellau sydd yn goroesi, wedi eu cadw ym mron i gyd mewn pedair llawysgrif, sef Llyfr Caerwysg, Llawysgrif Junius, Llyfr Vercelli, a llawysgrif Beowulf. Penillion cyflythrennol yw'r brif arddull ym marddoniaeth Hen Saesneg, ac un o'i nodweddion yw dull trosiadol y ''kenning'' neu ddyfaliad. Y gerdd hiraf a mwyaf nodedig yn Hen Saesneg yw ''[[Beowulf]]'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson, a gyfansoddwyd yn yr 8g ar sail hen fytholeg y Germaniaid. Cerdd grefyddol fer gan y bardd [[Cristnogaeth|Cristnogol]] [[Cædmon]], a flodeuai yn ail hanner y 7g, ydy'r esiampl hynaf o waith llenyddol yn yr iaith Saesneg. Mae rhyddiaith Hen Saesneg yn cynnwys testunau cyfreithiol, traethodau meddygol, lên grefyddol a [[didactig]], a chyfieithiadau o'r [[Lladin]] ac ieithoedd eraill. Mae'r croniclau a gweithiau hanesyddol a lled-hanesyddol tebyg, yn enwedig [[y Cronicl Eingl-Seisnig]], yn dystiolaeth bwysig o'r Oesoedd Canol Cynnar yn Lloegr. |
|||
Gwelir gwahanol gyfnodau o ymchwil i lenyddiaeth Hen Saesneg yn yr oes fodern. Yn y 19g a dechrau'r 20g, anterth yr [[ieitheg]]wyr, canolbwyntiai ysgolheigion ar wreiddiau Germanaidd yr Eingl-Sacsoniaid. Yn ddiweddarach, tynnwyd sylw at rinweddau llenyddol yr amryw destunau. gan fynd i'r afael â llenyddiaeth Hen Saesneg o safbwynt y beirniad yn hytrach na'r hanesydd. Mewn ymchwil cyfoes, rhoddir y pwyslais ar [[paleograffeg|baleograffeg]], sef astudiaeth y llawysgrifau eu hunain. Mae ysgolheigion yn trin a thrafod sawl pwnc yn y maes gan gynnwys canfod dyddiad, tarddiad, ac awduraeth testunau, a'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Hen Saesneg ac ieithoedd eraill Ewrop yn yr Oesoedd Canol. |
|||
== Barddoniaeth == |
== Barddoniaeth == |
||
[[Delwedd:Beowulf Cotton MS Vitellius A XV f. 132r.jpg|bawd|chwith|Tudalen flaen ''Beowulf'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson.]] |
[[Delwedd:Beowulf Cotton MS Vitellius A XV f. 132r.jpg|bawd|chwith|Tudalen flaen ''Beowulf'', arwrgerdd genedlaethol y Saeson.]] |
||
Gellir olrhain [[barddoniaeth Saesneg Lloegr]] yn ôl i gerddi Cædmon a Cynewulf yn y 7g. |
|||
Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr |
Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr Eingl-Sacsoniaid, o oresgyniadau'r 5g hyd at eu cristioneiddio yn y 7g, yn goroesi. Dyddia'r cerddi cynharaf yn yr Hen Saesneg o ail hanner y 7g, a dyma'r [[mawlgan|fawlgan]] ''Widstith'' ac ''Emyn Cædmon''. Penillion cyflythrennol yw'r rhain, a gwaith y mynach Cædmon o [[Northymbria]] yw'r enghraifft gyntaf o farddoniaeth dduwiolfrydig Gristnogol yn llenyddiaeth y Saeson. Mae'n debyg taw ''The Dream of the Rood'' yw'r gerdd ddefosiynol wychaf yn nhraddodiad yr Eingl-Sacsoniaid. |
||
Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn |
Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn arwrgerddi'r Eingl-Sacsoniaid. Yr arwrgerdd hiraf ac enwocaf o'r cyfnod yw ''Beowulf'', sy'n traddodi campau'r prif gymeriad a'i frwydr yn erbyn yr anghenfil Grendel. Cyfuniad o straeon paganaidd Gogledd Ewrop a themâu Cristnogol yw ''Beowulf'', sy'n dyddio o'r 8g. |
||
== Rhyddiaith == |
== Rhyddiaith == |
||
Trosiadau o destunau |
Trosiadau o destunau Lladin oedd yr enghreifftiau cyntaf o [[rhyddiaith|ryddiaith]] Hen Saesneg, a gyfieithasid i iaith yr Eingl-Sacsoniaid ar gais y Brenin [[Alffred Fawr]] yn niwedd y 9g. Gweithiau [[didactig]], defosiynol, a hanesyddol ydy'r rhan fwyaf o'r rhyddiaith hon. Mae'n debyg taw'r gwaith pwysicaf ydy Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, casgliad o [[brut|frutiau]] am oesoedd y brenhinoedd Sacsonaidd a gafodd ei ychwanegu ato o'r 9g i'r 12g. Dau o ryddieithwyr Hen Saesneg y mae eu henwau yn hysbys oedd Ælfric, Abad Eynsham (tua 955–1010), a Wulfstan, Archesgob Efrog (bu farw 1023), sy'n nodedig am eu pregethau sy'n gosod sail i [[homileteg]] ganoloesol yr iaith Saesneg. |
||
== Gweler hefyd == |
|||
* [[Llenyddiaeth Normaneg Lloegr]] |
|||
== Darllen pellach == |
== Darllen pellach == |
Fersiwn yn ôl 20:10, 14 Ionawr 2022
Llenyddiaeth Hen Saesneg |
---|
Arwrgerddi |
Rhyddiaith |
Llenyddiaeth a ysgrifennir yn Hen Saesneg, y ffurf ar yr iaith Saesneg a fodolai yn y cyfnod o ganol y 7g i ddiwedd y 12g, yw llenyddiaeth Hen Saesneg neu lenyddiaeth Eingl-Sacsoneg. Dyma oesoedd yr Eingl-Sacsoniaid yn hanes Lloegr, rhwng dyfodiad y llwythau Germanaidd o'r Cyfandir i dde-ddwyrain Prydain Fawr yn y 5g a'r 6g a gorchfygiad Lloegr gan y Normaniaid ym 1066. Ymddengys testunau Hen Saesneg ar sawl ffurf a genre, gan gynnwys yr arwrgerdd, bucheddau'r saint, pregethau, trosiadau o'r Beibl, cyfreithiau, croniclau, a dychmygion a damhegion. Mae rhyw 400 o lawysgrifau wedi eu cadw o'r cyfnod hwn, corff sylweddol o lenyddiaeth o'r Oesoedd Canol Cynnar. Maent yn dystiolaeth bwysig o ddatblygiad cynnar yr iaith Saesneg, hanes traddodiadol Lloegr, ac ethnogenesis y Saeson.
O'r holl farddoniaeth yn yr Hen Saesneg, dim ond 30,000 o linellau sydd yn goroesi, wedi eu cadw ym mron i gyd mewn pedair llawysgrif, sef Llyfr Caerwysg, Llawysgrif Junius, Llyfr Vercelli, a llawysgrif Beowulf. Penillion cyflythrennol yw'r brif arddull ym marddoniaeth Hen Saesneg, ac un o'i nodweddion yw dull trosiadol y kenning neu ddyfaliad. Y gerdd hiraf a mwyaf nodedig yn Hen Saesneg yw Beowulf, arwrgerdd genedlaethol y Saeson, a gyfansoddwyd yn yr 8g ar sail hen fytholeg y Germaniaid. Cerdd grefyddol fer gan y bardd Cristnogol Cædmon, a flodeuai yn ail hanner y 7g, ydy'r esiampl hynaf o waith llenyddol yn yr iaith Saesneg. Mae rhyddiaith Hen Saesneg yn cynnwys testunau cyfreithiol, traethodau meddygol, lên grefyddol a didactig, a chyfieithiadau o'r Lladin ac ieithoedd eraill. Mae'r croniclau a gweithiau hanesyddol a lled-hanesyddol tebyg, yn enwedig y Cronicl Eingl-Seisnig, yn dystiolaeth bwysig o'r Oesoedd Canol Cynnar yn Lloegr.
Gwelir gwahanol gyfnodau o ymchwil i lenyddiaeth Hen Saesneg yn yr oes fodern. Yn y 19g a dechrau'r 20g, anterth yr ieithegwyr, canolbwyntiai ysgolheigion ar wreiddiau Germanaidd yr Eingl-Sacsoniaid. Yn ddiweddarach, tynnwyd sylw at rinweddau llenyddol yr amryw destunau. gan fynd i'r afael â llenyddiaeth Hen Saesneg o safbwynt y beirniad yn hytrach na'r hanesydd. Mewn ymchwil cyfoes, rhoddir y pwyslais ar baleograffeg, sef astudiaeth y llawysgrifau eu hunain. Mae ysgolheigion yn trin a thrafod sawl pwnc yn y maes gan gynnwys canfod dyddiad, tarddiad, ac awduraeth testunau, a'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Hen Saesneg ac ieithoedd eraill Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
Barddoniaeth
Gellir olrhain barddoniaeth Saesneg Lloegr yn ôl i gerddi Cædmon a Cynewulf yn y 7g. Nid oes ffynonellau gwreiddiol o farddoniaeth yr Eingl-Sacsoniaid, o oresgyniadau'r 5g hyd at eu cristioneiddio yn y 7g, yn goroesi. Dyddia'r cerddi cynharaf yn yr Hen Saesneg o ail hanner y 7g, a dyma'r fawlgan Widstith ac Emyn Cædmon. Penillion cyflythrennol yw'r rhain, a gwaith y mynach Cædmon o Northymbria yw'r enghraifft gyntaf o farddoniaeth dduwiolfrydig Gristnogol yn llenyddiaeth y Saeson. Mae'n debyg taw The Dream of the Rood yw'r gerdd ddefosiynol wychaf yn nhraddodiad yr Eingl-Sacsoniaid.
Dethlir buddugoliaethau a dewrder brenhinoedd a rhyfelwyr mewn arwrgerddi'r Eingl-Sacsoniaid. Yr arwrgerdd hiraf ac enwocaf o'r cyfnod yw Beowulf, sy'n traddodi campau'r prif gymeriad a'i frwydr yn erbyn yr anghenfil Grendel. Cyfuniad o straeon paganaidd Gogledd Ewrop a themâu Cristnogol yw Beowulf, sy'n dyddio o'r 8g.
Rhyddiaith
Trosiadau o destunau Lladin oedd yr enghreifftiau cyntaf o ryddiaith Hen Saesneg, a gyfieithasid i iaith yr Eingl-Sacsoniaid ar gais y Brenin Alffred Fawr yn niwedd y 9g. Gweithiau didactig, defosiynol, a hanesyddol ydy'r rhan fwyaf o'r rhyddiaith hon. Mae'n debyg taw'r gwaith pwysicaf ydy Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, casgliad o frutiau am oesoedd y brenhinoedd Sacsonaidd a gafodd ei ychwanegu ato o'r 9g i'r 12g. Dau o ryddieithwyr Hen Saesneg y mae eu henwau yn hysbys oedd Ælfric, Abad Eynsham (tua 955–1010), a Wulfstan, Archesgob Efrog (bu farw 1023), sy'n nodedig am eu pregethau sy'n gosod sail i homileteg ganoloesol yr iaith Saesneg.
Gweler hefyd
Darllen pellach
- S. B. Greenfield, A Critical History of Old English Literature (1965).
- J. D. Niles, Old English Literature in Context (1981).
- C. L. Wrenn, A Study of Old English Literature (1967).