Llenyddiaeth ffuglen drosedd Saesneg

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth ffuglen drosedd Saesneg
Enghraifft o'r canlynolffuglen drosedd, llenyddiaeth ffuglen, llenyddiaeth Saesneg Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Prif bwncTrosedd Edit this on Wikidata

Gellir olrhain llenyddiaeth ffuglen drosedd yn yr iaith Saesneg yn ôl i hanner cyntaf y 19g. Priodolir i'r llenor Americanaidd Edgar Allan Poe ysgrifennu'r stori dditectif gyntaf, "The Murders in the Rue Morgue", ym 1841. Bu ffuglen drosedd gynnar yn gysylltiedig â dirgelwch, genre arall a arloeswyd gan Poe. Ym 1887, cyflwynodd Arthur Conan Doyle un o dditectifs ffuglennol enwocaf y byd, Sherlock Holmes, yn ei nofel A Study in Scarlet. Byddai Doyle yn ysgrifennu nofelau a straeon byrion am anturiaethau Holmes a'i gyfaill John Watson am 50 mlynedd, a daethant yn hynod o boblogaidd, yn enwedig y cyfresi o straeon a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn The Strand. Rhoddai Doyle bwyslais ar ddull didwythol Holmes o ddatrys dirgelion a chanfod troseddwyr. Ymdrechai nifer o awduron i ddynwared llwyddiant y straeon Sherlock Holmes yn ystod yr Oes Edwardaidd.

Yn y 1920au cychwynnodd "Oes Aur" ffuglen dditectif, y nofel ddirgelwch am lofruddiaeth neu nofel ddatgelu (whodunit), a lewyrchai ym Mhrydain yn bennaf. Blodeuai sawl nofelydd benywaidd yn y cyfnod hyn, gan gynnwys Agatha Christie, Dorothy L. Sayers, Margery Allingham, a Ngaio Marsh, a elwir "Breninesau Trosedd". Datblygodd grefft reolaidd i'r ffuglen hon, gyda phlotiau cymhleth a arweinia at ddiweddglo clyfar a boddhaol, ditectifs craff megis Hercule Poirot a Miss Marple, pwyslais ar gliwiau a phosau fel bo modd i'r darllenydd cael pen llinyn y dirgelwch ei hunan, a diffyg trais. Er gwaethaf pwnc llofruddiaeth, digwydda trwch y stori fel arfer mewn awyrgylch digynnwrf, os nad cysurus, gyda chymeriadau o'r dosbarthiadau canol ac uchaf. Bu'r fath straeon yn hynod o boblogaidd ac enillodd yr awduron hyn lwyddiant aruthrol. Fodd bynnag, trodd nifer o feirniaid a llenorion eraill yn erbyn sicrwydd ac ystrydebau'r genre erbyn diwedd y 1950au, gan arwain at gyfnod o ffuglen drosedd dreisgar, arbrofol, a moesol amwys.

Yn yr Unol Daleithiau, tua'r un cyfnod a'r Oes Aur, blodeuai arddull di-raen a realistig o ffuglen drosedd a elwir hardboiled, gyda chymeriadau gwydn a phresenoldeb trais corfforol, gwaed, rhyw, ac iaith fras. Ditectif yn y ddinas fawr ydy prif gymeriad y stori hardboiled fel rheol, un sydd wedi ei ddadrithio a'i ddiflasu i raddau o ganlyniad i natur ei waith, ac sy'n brwydro'n erbyn llygredigaeth a chamymddwyn ei gyfoedion yn ogystal â gwehilion cymdeithas a throseddwyr proffesiynol. Yn aml byddai'r ditectif ei hun yn troi at gwffio a dihirwch yn ei ymdrech i orfodi'r gyfraith, gan beri dryswch moesol. Ymhlith meistri'r oes hardboiled oedd Dashiell Hammett, Raymond Chandler, James M. Cain, a Mickey Spillane. Is-genre gysylltiedig ydy roman noir, a adroddir o safbwynt dioddefwr, troseddwr, neu un a ddrwgdybir o drosedd, yn hytrach na ditectif.

Yn y 1950au dychwelodd plotiau deallus i ffuglen drosedd, tra'n cadw at naws di-gêl y mudiad o'r blaen, gan esgor ar straeon ingol gyda themâu seicolegol, yn aml yn canolbwyntio ar feddwl a chymhellion y troseddwr ei hun. Esiampl arloesol ydy cyfres Patricia Highsmith o nofelau am y twyllwr a llofrudd Tom Ripley, a gychwynnodd gyda The Talented Mr. Ripley (1955). Yn ddiweddarach ffynnai sawl is-genre, gan gynnwys y nofel gyffro gyfreithiol, sy'n dilyn hynt yr achos llys er enghraifft nofelau John Grisham; y ddrama heddlu, sy'n dilyn dulliau fforensig o archwilio trosedd; y "dirgelwch cartrefol", sy'n dwyn atgof o Oes Aur ffuglen dditectif; a ffuglen drosedd hanesyddol megis The Black Dahlia (1987) gan James Ellroy.

Gwreiddiau'r genre[golygu | golygu cod]

Edgar Allan Poe (tua 1849), arloeswr y stori ddirgelwch.

Er i ambell ffurf lenyddol Saesneg o'r cyfnod modern cynnar, er enghraifft llenyddiaeth dihirod, ymwneud â throseddwyr a thor-cyfraith, datblygodd ffuglen drosedd fodern yn ystod hanner cyntaf y 19g. Priodolir i'r llenor Americanaidd Edgar Allan Poe (1809–49) ysgrifennu'r stori dditectif gyntaf, "The Murders in the Rue Morgue", a gyhoeddwyd yn Graham's Magazine yn Philadelphia ym 1841. Adnabyddir Poe yn bennaf am ei ffuglen arswyd a straeon y macâbr, a fe gyfunai themâu dirgelwch a marwolaeth i greu genre newydd sy'n dilyn y prif gymeriad wrth iddo geisio datgelu llofrudd. Cyflwyna'i gymeriad C. Auguste Dupin, y ditectif ffuglennol cyntaf mewn unrhyw iaith, yn y stori hon. Ymddangosa Dupin mewn dwy stori arall gan Poe: "The Mystery of Marie Rogêt" (1842–43), y stori ddirgelwch gyntaf a seiliwyd ar drosedd go iawn, a "The Purloined Letter" (1844).[1] Cyfeiriodd Poe ei hun at y gweithiau hyn fel "straeon rhesymu" (tales of ratiocination), am i Dupin geisio canfod pwy yw'r troseddwr drwy feddwl yn rhesymegol.

Yng Ngwledydd Prydain, daeth trosedd yn thema ffuglen gyffredin i'r cyhoedd drwy theatr melodrama, a nofelau Newgate (o'r 1820au i'r 1840au) a bortreadai fywydau troseddwyr direidus mewn modd cynhyrfus ac hudolus. Prif arloeswr ffuglen drosedd Lloegr oedd y nofelydd Wilkie Collins (1824–89), a dynnai ar ei hyfforddiant yn y gyfraith wrth ysgrifennu am droseddau a dulliau'r ditectif, gan gynnwys ei ddefnydd o sawl adroddwr i ddangos y stori o wahanol safbwyntiau'r cymeriadau. Sbardunodd ei waith The Woman in White (1860), y nofel ddirgelwch a'r nofel goflyfr gyntaf yn Saesneg, ffasiwn o "ffuglen gynnwrf" yn llên Fictoraidd Lloegr. Ysgrifennodd Collins hefyd y nofel epistolaidd The Moonstone (1868), o ddisgrifir yn aml fel y nofel dditectif gyntaf yn Saesneg, a osodai nifer o gonfensiynau'r genre.[2] Mae eraill wedi galw The Notting Hill Mystery (1862–63) gan Charles Felix—o bosib ffugenw Charles Warren Adams (1883–1903)—yn nofel dditectif gyntaf yr iaith Saesneg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Peter Thoms, "Poe's Dupin and the power of detection" yn The Cambridge Companion to Edgar Allan Poe, golygwyd gan Kevin J. Hayes (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2004), tt. 133.
  2. Nicholas Rance, Wilkie Collins and Other Sensation Novelists: Walking the Moral Hospital (Llundain: Macmillan, 1991), t. 130.