Llofruddiaeth
| Erthyglau'n ymwneud â |
| Marwolaeth |
|---|
| Angeueg |
| Meddygaeth |
| Afiechyd anwelladwy · Awtopsi · Ewthanasia |
| Achosion a mathau |
| Cyfradd marw · Hil-laddiad · Hunanladdiad · Llofruddiaeth |
| Wedi marwolaeth |
| Amlosgiad · Angladd · Claddedigaeth · Cynhebrwng · Gwylnos |
| Y gyfraith |
| Corffgarwch · Crwner · Dienyddio · Etifeddiaeth · Ewyllys · Trengholiad |
| Crefydd ac athroniaeth |
| Aberth dynol · Anfarwoldeb · Atgyfodiad · Bywyd ar ôl marwolaeth · Merthyr · Ysbryd |
| Diwylliant a chymdeithas |
| Gweddw · Memento mori · Ysgrif goffa |
| Categori |
Term cyfreithiol yw llofruddiaeth sy'n cyfeirio at y drosedd o ladd bod dynol â bwriad maleisus. Yn y mwyafrif o wledydd cyfraith gyffredin, diffinnir llofruddioiaeth fel y lladd anghyfreithlon bwriadol o berson arall (neu ôl-feddyliad maleisus), ac yn gyffredinol gwahaniaetha'r cyflwr meddyliol hwn rhwng mathau eraill o ladd anghyfreithlon (megis dynladdiad).

Am fod colli bod dynol yn achosi galar mawr ar unigolion a oedd yn agos i'r dioddefwr, yn ogystal â'r ffaith fod y llofruddiaeth ei hun yn dwyn bywyd rhywun oddi wrthynt yn barhaol, ystyria'r mwyafrif o gymdeithasau cyfoes ac yn y gorffennol llofruddiaeth fel trosedd sy'n haeddu'r gosb lymaf. Gan amlaf, dedfrydir person sy'n euog o lofruddiaeth i oes yn y carchar neu'r gosb eithaf hyd yn oed am y fath weithred. Gelwir person sy'n llofruddio yn "llofrudd", yn "llofruddiwr" neu'n "llofruddwraig".
-
Baled am Lofruddiaeth yn Llangybi, Sir Fynwy, 1878

