Dashiell Hammett

Oddi ar Wicipedia
Dashiell Hammett
Dashiell Hammett (1934).
Ganwyd27 Mai 1894 Edit this on Wikidata
Baltimore, Maryland Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1961 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Baltimore Polytechnic Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Arddullffuglen dditectif Edit this on Wikidata
PartnerLillian Hellman Edit this on Wikidata

Llenor Americanaidd yn yr iaith Saesneg oedd Dashiell Hammett (27 Mai 189410 Ionawr 1961) a arloesodd ffuglen drosedd hardboiled.

Ganed ef yn St. Mary's County yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America. Gadwodd yr ysgol yn 13 oed a gweithiodd mewn sawl swydd cyn ymuno ag asiantaeth dditectif Pinkerton am wyth mlynedd. Gwasanaethodd yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a dioddefai'r ffliw Sbaenaidd a thwbercwlosis wedi diwedd y rhyfel.

Wedi i'w iechyd wella, dechreuodd Hammett ysgrifennu ffuglen dditectif ar sail ei brofiadau gyda'r Pinkertons. Ymddangosodd ei straeon a nofeligau cynnar mewn cylchgronau pwlp, yn bennaf Black Mask, ac ym 1929 cyhoeddodd ei ddwy nofel gyntaf, Red Harvest a The Dain Curse. Adroddir y nifer fwyaf o'i weithiau yn y cyfnod o 1923 i 1930 gan "The Continental Op", ymchwilydd preifat yn San Francisco. Ei gampwaith ydy'r nofel ddirgelwch The Maltese Falcon (1930), a gyflwynodd y ditectif Sam Spade. Ei ddwy nofel olaf oedd The Glass Key (1931) a The Thin Man (1934).

Wedi 1934, treuliodd Hammett ei amser yn ymwneud â gwleidyddiaeth yr adain chwith ac yn ymgyrchu dros ryddid sifil. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1937. Ymunodd â'r fyddin unwaith eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gwasanaethodd yn Ynysoedd yr Alewt. Un o brif aelodau'r Civil Rights Congress, ydoedd ac aeth i'r carchar am chwe mis ym 1951 am iddo beidio â datgelu enwau'r rhai a gyfrannodd yn ariannol i'r sefydliad hwnnw. Bu farw Dashiell Hammett yn Ninas Efrog Newydd yn 66 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Dashiell Hammett. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2023.