Llenyddiaeth Saesneg Iwerddon

Oddi ar Wicipedia

Cyflwynwyd yr iaith Saesneg i Iwerddon yng nghyfnod Arglwyddiaeth Iwerddon (1171–1542), pan oedd yr ynys dan dra-arglwyddiaeth y Normaniaid. Yn y cyfnod hwn, y Wyddeleg, Lladin, ac Eingl-Normaneg oedd y prif ieithoedd llenyddol yn Iwerddon.[1] Mae'n bosib i ambell waith yn Saesneg Canol gael ei ysgrifennu yn y Pâl, er nad oes yr un esiampl o bwys yn goroesi. Ni ddaeth unrhyw lenorion Saesneg o Wyddelod i'r amlwg nes ar ôl y goncwest Duduraidd, fel arfer o dras Seisnig neu wedi eu hymsefydlu yn Lloegr, megis y cyfieithydd ac hanesydd o Ddulyn Richard Stanihurst (1547–1618) a gyfrannai at Groniclau Holinshed. Yn Oes Elisabeth aeth y bardd o Sais Edmund Spenser (1552/3–99) i Iwerddon, ac yno mae'n debyg iddo gyfansoddi rhywfaint o'i gampwaith, yr arwrgerdd ddamhegol The Faerie Queene. Spenser oedd awdur A View of the Present State of Irelande (1596), un o'r gweithiau Saesneg cyntaf sydd yn ymdrin â'r wlad, er y mae'n mynegi atgas ffyrnig tuag at y brodorion a'u diwylliant.[2]

Daeth yr iaith Saesneg, a'r Sgoteg, yn gryfach o ganlyniad i wladychu Wlster yn yr 17g a'r Oruchafiaeth Brotestannaidd. Ffynnai llenorion Saesneg o Iwerddon yn ystod y ddwy ganrif nesaf, ond fel arfer buont yn byw ac yn gweithio yn Lloegr, ac yn ymwneud â mudiadau a thueddiadau llenyddol y wlad honno. Daeth sawl Gwyddel i'r amlwg yn y cyfnod "Awgwstaidd", gan gynnwys y dychanwr Jonathan Swift (1667–1745), yr athronwyr Edmund Burke (1729–97) a George Berkeley (1685–1753), y nofelwyr Laurence Sterne (1713–68) ac Oliver Goldsmith (1728–74), y bardd Thomas Parnell (1679–1718), a'r dramodwyr George Farquhar (1677–1707) a Richard Steele (1672–1729). Prif ddramodydd Gwledydd Prydain yn yr oes Sioraidd ddiweddar, mae'n debyg, oedd y Gwyddel Richard Brinsley Sheridan (1751–1816).

Tyfodd llên cenedlaetholdeb Gwyddelig yn y 19g, yn enwedig yn sgil yr adfywiad Gaelaidd a gychwynnodd yn y 1830au. Ysgrifennodd y bardd ac hynafiaethydd Samuel Ferguson (1810–86) nifer o weithiau am hanes a diwylliant Iwerddon yn ogystal â newyddiaduraeth a cherddi ar themâu Gwyddelig. Blodeuai'r nofelwyr Maria Edgeworth (1768–1849) a Sydney, Arglwyddes Morgan (1781–1859).

Ail hanner y 19g a dechrau'r 20g oedd oes y dramodwyr Oscar Wilde (1854–1900), Bernard Shaw (1856–1950), a J. M. Synge (1871–1909).[3] Yn niwedd y 19g hefyd cafwyd dadeni llenyddol yn Iwerddon a diddordeb newydd mewn diwylliant Gaelaidd a'r iaith Wyddeleg, ac aeth sawl llenor ati i greu llenyddiaeth Saesneg a oedd yn unigryw i Iwerddon. Un o hoelion wyth y mudiad oedd y bardd a dramodydd William Butler Yeats (1865–1939), a ysgrifennai hefyd lyfrau am lên gwerin ei famwlad.[4]

Yn yr 20g daeth Moderniaeth i lên Iwerddon. Câi James Joyce (1882–1941) ddylanwad syfrdanol ar lenyddiaeth Saesneg yr 20g, yn enwedig drwy ei nofel Ulysses (1922). Samuel Beckett (1906–89) yw un o'r ffigurau pwysicaf yn theatr yr 20g. Enillwyd Gwobr Lenyddol Nobel gan bedwar llenor Gwyddelig ers ei chychwyn—W. B. Yeats (1923), Shaw (1925), Beckett (1969), a'r bardd Seamus Heaney (1995)—i gyd yn ysgrifennu yn y Saesneg (a Beckett hefyd yn y Ffrangeg). Nofelydd boblogaidd oedd Iris Murdoch (1919–99), athronydd wrth ei gwaith. Ymhlith yr awduron cyfoes o nod mae'r nofelydd ac ysgrifwr Colm Tóibín (g. 1955).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Garret Olmsted, "The Earliest Narrative Version of the Táin: Seventh-century poetic references to Táin bó Cúailnge", Emania 10, 1992, pp. 5–17 (Saesneg)
  2. Andrew Hadfield (2012). Edmund Spenser: A Life (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Rhydychen.
  3. Gaye, Freda, gol. (1967). Who's Who in the Theatre (arg. 14ydd). Llundain: Sir Isaac Pitman and Sons. OCLC 5997224.
  4. Hone, Joseph (1943). W. B. Yeats, 1865–1939 (yn Saesneg). Efrog Newydd: Macmillan. OCLC 35607726.