Mickey Spillane

Oddi ar Wicipedia
Mickey Spillane
Llun gyhoeddusrwydd o Mickey Spillane pan oedd yn actor gwadd mewn pennod o'r rhaglen deledu dditectif Columbo (1974).
Ganwyd9 Mawrth 1918 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 2006 Edit this on Wikidata
Murrells Inlet Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Erasmus Hall
  • Fort Hays State University Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, nofelydd, ysgrifennwr, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Arddullffuglen dditectif Edit this on Wikidata
Gwobr/auThe Grand Master, Gwobr Inkpot, Gwobr Shamus Edit this on Wikidata

Nofelydd a llenor straeon byrion Americanaidd oedd Frank Morrison "Mickey" Spillane (9 Mawrth 191817 Gorffennaf 2006) sy'n nodedig fel un o awduron mwyaf poblogaidd yr 20g yn genre ffuglen drosedd yn yr iaith Saesneg.

Ganed ef yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd, a chafodd ei fagu yn bennaf yn Elizabeth, New Jersey. Gwyddel Catholig oedd ei dad ac Albanes Bresbyteraidd oedd ei fam. Astudiodd yng Ngholeg Taleithiol Kansas cyn gadael heb ennill radd. Cychwynnodd ysgrifennu yn ei arddegau, yn ystod y Dirwasgiad Mawr, a chyhoeddwyd ei waith cynnar mewn cylchgronau darluniedig, gan gynnwys llyfrau comics gan gynnwys straeon yr archarwyr Superman, Batman, a Captain America. Gwasanaethodd yng Nghorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi diwedd yr ymladd ymunodd â'r syrcas fel trampolinwr a thaflwr cyllyll.[1]

Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, I, the Jury (1947), mewn naw niwrnod, gan gyflwyno ei gymeriad enwocaf, y ditectif preifat Mike Hammer, i'r byd. Bu'r gyfres o nofelau am Hammer yn llawn trais a rhyw, ac yn hynod o boblogaidd yn y 1950au a'r 1960au.

Priododd deirgwaith, a chafodd bedwar o blant gyda'i wraig gyntaf. Bu farw Mickey Spillane ym Murrells Inlet, ger Myrtle Beach, De Carolina, yn 88 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) John Sutherland, "Obituary: Mickey Spillane", The Guardian (19 Gorffennaf 2006). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Rhagfyr 2023.
  2. (Saesneg) "Mickey Spillane, 88, Critic-Proof Writer of Pulpy Mike Hammer Novels, Dies", The New York Times (18 Gorffennaf 2006). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2012.