Superman

Oddi ar Wicipedia
Logo Superman, sy'n ymddangos ar ei frest.

Uwcharwr comics DC yw Superman. Crëwyd gan yr awdur Jerry Siegel a'r arlunydd Joseph Shuster ac ymddangosodd yn gyntaf yn rhifyn cyntaf y llyfr Action Comics ym mis Mehefin 1938. Addaswyd y cymeriad ar gyfer radio, stribedi papurau newydd, rhaglenni teledu, ffilmiau, a gemau fideo. Un o gymeriadau comic enwocaf a mwyaf llwyddiannus y byd yw Superman, a helpodd i greu archdeip yr archarwr Americanaidd a rhoi iddo'r lle blaenaf yn llyfrau comics yr Unol Daleithiau.[1] Adwaenir y cymeriad hefyd gan yr enwau Man of Steel (y Dyn Dur), Man of Tomorrow (Dyn Yfory), a Last Son of Krypton (Mab Olaf Krypton).[2]

Ganwyd Superman ar y blaned Krypton, a Kal-El yw ei enw brodorol. Yn ôl hanes ei darddiad, cafodd ei ddanfon i'r Ddaear ar roced gan ei dad Jor-El, cyn i Krypton gael ei dinistrio. Glaniodd yn Kansas a chafodd ei chanfod a'i fabwysiadu gan ffermwr a'i wraig, a rodd yr enw Clark Kent iddo a'i fagu'n fachgen gweithgar a moesol. Yn ystod ei blentyndod a'i lencyndod dechreuodd ddangos ei alluoedd goruwchddynol. Pan dyfodd yn ddyn, penderfynodd i ddefnyddio'i rymoedd er budd y ddynolryw dan gochl yr hunaniaeth Superman.

Trigai Superman yn y ddinas Americanaidd ffuglennol Metropolis. Dan yr enw Clark Kent, mae'n gweithio fel newyddiadurwr ar gyfer papur newydd y Daily Planet. Gan amlaf, Lois Lane yw ei gariad a'r dyn drwg Lex Luthor yw ei elyn pennaf. Aelod o dîm archarwyr y Justice League yw Superman, a gweithia'n aml gyda Batman a Wonder Woman. Fel nifer o gymeriadau eraill ym Myd DC, darlunir nifer wahanol bortreadau o Superman.

Golwg nodweddiadol sydd gan Superman: gwisg las gydag arwyddlun coch a melyn ar ei frest, sy'n dangos y llythyren "S" tu mewn i darian, a chlogyn goch. Defnyddir y darian mewn amryw o gyfryngau i symboleiddio'r cymeriad. Gwelir Superman yn eicon diwylliannol Americanaidd.[1][3][4][5] Ymdrinia nifer o ysgolheigion â dylanwad y cymeriad, a chaiff ei astudio a'i drafod gan ddamcaniaethwyr, sylwebwyr, a beirniaid diwylliannol. Bu statws perchenogaeth y cymeriad yn bwnc dadl: ceisiodd Siegel a Shuster ddwywaith i erlyn DC Comics am ddychwelyd yr hawliau. Addaswyd y cymeriad mewn masnachfraint eang o gyfryngau, megis ffilmiau, rhaglenni teledu, a gemau fideo. Portreadir Superman gan nifer o actorion gan gynnwys Kirk Alyn, George Reeves, Christopher Reeve, Dean Cain, Tom Welling, Brandon Routh, Henry Cavill, a Tyler Hoechlin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Daniels, Les (1998). Superman: The Complete History Titan Books. ISBN 1-85286-988-7. t. 11.
  2. Rhoades, Shirrel (2008). Comic Books: How the Industry Works. Peter Lang. t. 72. ISBN 0820488925.
  3. Holt, Douglas B. (2004). How Brands Become Icons: The Principles of Cultural Branding. Boston, MA: Harvard Business School Press. t. 1. ISBN 1-57851-774-5.
  4. Koehler, Derek J.; Harvey, Nigel., gol. (2004). Blackwell Handbook of Judgment and Decision Making. Blackwell. t. 519. ISBN 1-4051-0746-4.
  5. Dinerstein, Joel (2003). Swinging the machine: Modernity, technology, and African American culture between the wars. University of Massachusetts Press. t. 81. ISBN 1-55849-383-2.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Larry Tye. Superman: The High-Flying History of America's Most Enduring Hero (Random House,2012).
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: