Raymond Chandler

Oddi ar Wicipedia
Raymond Chandler
Raymond Chandler, oddeutu 1943.
Ganwyd23 Gorffennaf 1888 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mawrth 1959 Edit this on Wikidata
La Jolla Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Arddullffuglen dditectif Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDashiell Hammett Edit this on Wikidata
Gwobr/auEdgar Allan Poe Award for Best Novel Edit this on Wikidata

Nofelydd, llenor straeon byrion, a sgriptiwr ffilm Americanaidd oedd Raymond Thornton Chandler (23 Gorffennaf 188826 Mawrth 1959) sy'n nodedig fel un o feistri ffuglen drosedd yn yr iaith Saesneg. Ei gymeriad enwocaf ydy'r ditectif preifat Philip Marlowe, un o arwyr y genre hardboiled o ffuglen dditectif.

Ganed ef yn Chicago, Illinois, Unol Daleithiau America. Gwyddeles oedd ei fam, ac o 1896 i 1912 trigiannodd Chandler gyda hi yn Lloegr, a derbyniodd ddinasyddiaeth Brydeinig. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau ym 1912 ac ymsefydlodd yng Nghaliffornia. Ym 1917, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, teithiodd i Victoria, British Columbia, ac ymunodd â Byddin Alldeithiol Canada. Gwasanaethodd yn y ffosydd ar Ffrynt y Gorllewin, a chafodd ei hyfforddi yn yr Awyrlu Brenhinol. Dychwelodd i Galiffornia ym 1919 a chychwynnodd ar yrfa fusnes yn y diwydiant olew. Erbyn 1931, fe'i dyrchafwyd yn is-lywydd y Dabney Oil Syndicate, ond cafodd ei ddiswyddo blwyddyn yn ddiweddarach oherwydd ei alcoholiaeth a'i ymddygiad personol.

Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, trodd Chandler at ysgrifennu i enill ei damaid, a chyhoeddwyd ei stori fer gyntaf yn y cylchgrawn pwlp Black Mask ym 1933. Dechreuodd gweithio yn Hollywood ym 1943, ac ysgrifennai'r sgriptiau ar gyfer sawl clasur sinema drosedd, gan gynnwys y films noirs Double Indemnity (1944), The Blue Dahlia (1946), a (gyda Czenzi Ormonde) Strangers on a Train (1951).

Ysgrifennodd Chandler saith nofel, pob un yn ymwneud â'r ditectif Philip Marlowe: The Big Sleep (1939), Farewell, My Lovely (1940), The High Window (1942), The Lady in the Lake (1943), The Little Sister (1949), The Long Goodbye (1953), a Playback (1958). Cyhoeddodd hefyd sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys Five Murderers (1944). Bu farw Raymond Chandler yn La Jolla, Califfornia, yn 70 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Raymond Chandler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2023.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Tom Hiney, Raymond Chandler: A Biography (Llundain: Chatto & Windus, 1997).