Machen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Hanes diwydiannol: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: gyda ca → gyda cha using AWB |
|||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Saif y pentref wrth droed [[Mynydd Machen]]. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw ''Machen: Then & Now'', sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau. |
Saif y pentref wrth droed [[Mynydd Machen]]. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw ''Machen: Then & Now'', sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau. |
||
Cynrychiolir yr ardal hon yn |
Cynrychiolir yr ardal hon yn [[Senedd Cymru]] gan {{Swits Caerffili i enw'r AC}} a'r Aelod Seneddol yw {{Swits Caerffili i enw'r AS}}.<ref>[http://www.cynulliadcymru.org/memhome.htm Gwefan y Cynulliad;]{{Dolen marw|date=February 2021 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} adalwyd 24 Chwefror 2014</ref><ref>[http://www.parliament.uk/mps-lords-and-offices/mps/?sort=2&type=3 Gwefan parliament.uk;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref> |
||
[[Delwedd:Old spoil heaps above Machen - geograph.org.uk - 88189.jpg|250px|bawd|chwith|Hen domenni gwastraff uwchben Machen.]] |
[[Delwedd:Old spoil heaps above Machen - geograph.org.uk - 88189.jpg|250px|bawd|chwith|Hen domenni gwastraff uwchben Machen.]] |
||
Fersiwn yn ôl 16:08, 6 Mai 2021
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bedwas |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5988°N 3.1347°W |
Cod OS | ST215895 |
Cod post | CF83 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hefin David (Llafur) |
AS/au | Wayne David (Llafur) |
Mae Machen (Cyfeirnod OS: ST 226 887) yn bentref eitha mawr, wedi'i leoli tair milltir i'r dwyrain o Gaerffili ar ffordd yr A468 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn ne Cymru. Mae Bedwas a Threthomas gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir Castell Machen, un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref.
Saif y pentref wrth droed Mynydd Machen. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw Machen: Then & Now, sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Wayne David (Llafur).[1][2]
Hanes diwydiannol
Mae gan pentref Machen wreiddiau yn y diwydiant glo a haearn yn deillio o'r 17g. Er nid oes llawer o ôl y diwydiannau i'w gweld erbyn hyn, roedd y pentref yn leoliad i Efail Machen a sawl pwll glo. Mae yna lwybr hanesyddol leol sy'n ymweld a rhai o'r mannau yma. Yn gynnar yn ei hanes, cychwynodd Efail Machen ddefnyddio y dull Osmond o gynhyrchu haearn gyr.
Roedd un o orsafoedd rheilffordd Brycheiniog a Merthyr ym Machen, gyda changen i Gaerffili ar reilffordd Pontypridd, Caerffili a Chasnewydd, a gaewyd i deithwyr ym 1956. Heddiw mae yna gangen weddilliol o RB&M yn agored i wasanaethu chwarel Hanson Aggregates ym Machen.
Chwaraeon
Mae gan Machen dîm rygbi lleol. Maent yn chwarae yn Adran Pedwar y Dwyrain URC ac mae'r tîm yn gwisgo crysau glas gydag ochrau du, trowsus byr du a hosannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Lles Machen.
Addysg
Mae yna ysgol cynradd ym Machen or enw Ysgol Gynradd Machen. Mae'r ysgol yn darparu ei addysg trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna hefyd ysgol Gristnogol annibynnol ym Machen o'r enw 'Wycliff Independent Christian School', sydd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Saesneg a thrwy weledigaeth Gristnogol unigryw.
Pobl Nodedig
- Alfred Edward Morgans (17 Chwefror 1850 – 10 August 1933), Prif Weinidog Gorllewin Awstralia am ddim ond 32 o ddyddiau in 1901. Cafodd ei eni ym Machen.
- Daw'r gwleidydd Ron Davies o Fachen. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw barddol "Ron o Fachen". Nodir Ron hefyd fel "pensaer datganoli Cymreig", tra'n Ysgrifennydd Gwladol Dros Cymru yng nghabined Plaid Lafur Tony Blair.
- Ian Thomas - cyn gricedwr i Glwb Criced Morgannwg. Fe chwaraeodd dros Forgannwg rhwng 1998 a 2005 gan ennill dwy dlws y Gynghrair Undydd gyda'r sir. Cofir amdano hefyd am iddo sgorio'r can rhediad cyntaf i'w ddarlledu ar deledu yn 2004 (116 heb ei wared yn erbyn Gwlad yr Haf).
- Arthur Machen (Arthur Jones) (1863 - 1947), ffigwr cwlt o'r 1920au a gyhoeddodd nifer o storiau iasoer am y byd goruwch naturiol gan gynnwys The Bowmen.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu