Gwlad yr Iâ

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ynys yr Iâ)
Neidio i: llywio, chwilio
Lýðveldið Ísland
Gweriniaeth Gwlad yr Iâ
Baner Gwlad yr Iâ Arfbais Gwlad yr Iâ
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Lofsöngur
Lleoliad Gwlad yr Iâ
Prifddinas Reykjavík
Dinas fwyaf Reykjavík
Iaith / Ieithoedd swyddogol Islandeg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Ólafur Ragnar Grímsson
Jóhanna Sigurðardóttir
Annibyniaeth
- Sofraniaeth
Oddiwrth Ddenmarc
17 Mehefin 1944
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
103,000 km² (107fed)
2.7
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2008
 - Cyfrifiad 1980
 - Dwysedd
 
313,376 (178fed)
229,187
2.9/km² (222fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$10.53 biliwn (135fed)
$35,586 (5fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.956 (2il) – uchel
Arian cyfred Króna Gwlad yr Iâ (ISK)
Cylchfa amser
 - Haf
GMT (UTC+0)
Côd ISO y wlad .is
Côd ffôn +354

Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Gwlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng Grønland (yr Ynys Las) a Phrydain Fawr.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Prif erthygl: Hanes Gwlad yr Iâ.

Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9fed ganrif a'r 10fed. Nhw sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930.

Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth.

Pentref pysgota canoloesol (neu Ósvör) wedi'i ail greu nepell o Bolungarvík.

Gwleidyddion [golygu]

Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.

Etholaethau [golygu]

Rhanbarthau [golygu]

Prif erthygl: Cymunedau Gwlad yr Iâ.

Ceir wyth rhanbarth neu sir yng Ngwlad yr Iâ, yn benaf er mwyn hwyluso trefniadaeth ystadegol ac o ran cod-post y wlad. Mae system gyfreithiol y llysoedd hefyd wedi'i sefydlu ar y drefn hon o wyth rhanbarth. Yn rhyfedd iawn, dydy'r wyth rhanbarth heb eu diffinio gan gyfraith gwlad ac nid oes iddynt drefn gweinyddol fel sydd gan siroedd Cymru.

Siroedd [golygu]

Prif erthygl: Siroedd Gwlad yr Iâ.
Siroedd y wlad.

Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 o siroedd, neu sýslur:

Trefi [golygu]

Yr olygfa o Reykjavík o dŵr tal Hallgrímskirkja.

Mae 14 o drefi annibynnol, neu kaupstaðir:

Daearyddiaeth [golygu]

Map o Wlad yr Iâ

Mae Gwlad yr Iâ ar smotyn poeth daearegol ar y Crib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu—crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ar draws y byd. Mae gan y wlad llawer o geysir (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi.

Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavík—lleoliad y maes awyr cenedlaethol—ac Akureyri.

Economi [golygu]

Prif erthygl: Economi Gwlad yr Iâ.

Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon.

Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu adeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn fwy pwysig.

Daearyddiaeth [golygu]

Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnlifo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau.

Diwylliant [golygu]

Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther.

Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r raglan deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.

Lleoliad Gwlad yr Iâ yn Ewrop

Gweler hefyd [golygu]

Cysylltiadau allanol [golygu]