Protestiadau argyfwng ariannol Gwlad yr Iâ (2008–2011)
Digwyddodd protestiadau argyfwng ariannol Gwlad Iâ 2008–2011, a elwir hefyd yn Chwyldro Gwlad yr Iâ, yn ystod argyfwng ariannol Gwlad yr Iâ. Roedd yna brotestiadau ysbeidiol ers Hydref 2008 yn erbyn y ffordd roedd Llywodraeth Gwlad yr Iâ wedi trin yr argyfwng ariannol. Dwysäodd y protestiadau hyn ar 20 Ionawr 2009 wrth i filoedd o bobl ymgaslu wrth y Senedd (Althing) yn Reykjavík.[1][2][3]
Roedd y protestwyr yn galw am ymddiswyddiad swyddogion y llywodraeth ac am etholiad newydd.[4] Stopiodd y rhan fwyaf o'r protestiadau hyn pan ymddiswyddodd yr hen lywodraeth asgell dde.[5] Ffurfiwyd llywodraeth newydd asgell chwith ar ôl yr etholiad ar ddiwedd mis Ebrill 2009. Roedd hi'n gefnogol i'r protestwyr, a dechreuodd y broses o ddiwygio, gan gynnwys erlyn y cyn-Brif Weinidog sef Geir Haarde o flaen yr Uchel Lys (sef y Landsdómur), mewn erlyniad barwnol.
Cynhalwyd gwahanol refferenda i gofyn i'r dinasyddion a oedden nhw eisiau talu dyled Icesave eu banciau ai peidio; etholwyd hefyd 30 pobl, nad oeddent yn aelodau o unrhyw blaid wleidyddol i ffurfio Cynulliad Cyfansoddiadol Gwlad yr Iâ gyda'r bwriad o ysgrifennu Cyfansoddiad Gwlad yr Iâ newydd. Ar ôl rhai problemau cyfreithiol, cyflwynodd y Cyngor Cyfansoddiadol Ddrafft o'r Cyfansoddiad i Senedd Gwlad yr Iâ ar 29 Gorffennaf 2011.[6] Bydd y Llywodraeth yn pleidleisio dros y Cyfansoddiad newydd hwn cyn 20 Hydref 2012.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Gunnarsson, Valur (21 Ionawr 2009). "Icelandic lawmakers return to work amid protests". Associated Press. Archived from the original on 31 Ionawr 2009. http://web.archive.org/web/20090131185044/http://www.google.com/hostednews/ap/article/ALeqM5h-RUl6zdfvvmIjYqtmrqj2ROGbXgD95QU1DG0. Adalwyd 22 Ionawr 2009.
- ↑ "Iceland protesters demand government step down". Reuters. 20 Ionawr 2009. Archived from the original on 3 Chewfror 2009. http://www.reuters.com/article/rbssBanks/idUSLK69268520090120. Adalwyd 22 Ionawr 2009.
- ↑ "Icelandic police tear gas protesters". Associated Press. 22 Ionawr 2009. Archived from the original on 31 Ionawr 2009. http://web.archive.org/web/20090131184619/http://www.google.com/hostednews/ap/article/ALeqM5gHkIlEVsda4i3WimogStwsmm2wrgD95S6Q3O0. Adalwyd 22 Ionawr 2009.
- ↑ "Opposition attempts to call Iceland elections, bypassing PM". icenews.is. 22 Ionawr 2009. Archived from the original on 24 Ionawr 2009. http://www.icenews.is/index.php/2009/01/22/opposition-attempt-to-call-iceland-elections-bypassing-pm/. Adalwyd 22 Ionawr 2009.
- ↑ Nyberg, Per (26 Ionawr 2009). "Icelandic government falls; asked to stay on". CNN. Archived from the original on 29 Ionawr 2009. http://www.cnn.com/2009/WORLD/europe/01/26/iceland.government/index.html. Adalwyd 31 Ionawr 2009.
- ↑ "Stjórnlagaráð 2011 – English". Stjornlagarad.is. 29 July 2011. http://www.stjornlagarad.is/english/. Adalwyd 18 Hydref 2011.