Alþingi
| Llywpdraeth Gwlad yr Iâ Alþingi Íslendinga |
|
|---|---|
| Math | |
| Math | Unicameral |
| Arweinyddiaeth | |
| Llefarydd | Einar Kristinn Guðfinnsson, Plaid Annibynol ers 23 Mai 2013 |
| Strwythur | |
| Aelodau | 63 |
| Grwpiau gwleidyddol |
Y Llywodraeth (38)
Yr Wrthblaid (25)
|
| Etholiadau | |
| System pleidleisio | Rhestr pleidiau dan gynyrchioliad cyfrannol |
| Etholiad diwethaf | 27 Ebrill 2013 |
| Man cyfarfod | |
| Alþingishúsið Austurvöllur 150 Reykjavík Gwlad yr Iâ |
|
| Gwefan | |
| Llywodraeth Gwlad yr Iâ | |
Senedd genedlaethol Gwlad yr Iâ yw'r Alþingi (seinir fel "Althing"). Dyma sefydliad seneddol hyna'r byd, sy'n dal i fodoli.[1] Cafodd ei sefydlu yn 930 yn Þingvellir, (sy'n golygu "maes y senedd") tua 45 km i'r dwyrain o'r hyn a adweinir, bellach, fel y brifddinas, Reykjavík. Hyd yn oed ar ôl yr Undeb gyda Norwy yn 1262 cynhaliodd yr Althing ei sesiynau yn Þingvellir hyd at 1799, pan gafwyd seibiant o 45 mlynedd. Cafodd ei ailgychwyn yn 1844 a'i symud i Reykjavík, sef ei gartref ers hynny. Codwyd adeilad y llywodraeth presenol, sef yr Alþingishús, yn 1881 allan o garreg o Wlad yr Iâ.
Mae cyfansoddiad y wlad yn nodi chwe etholaeth gyda'r posibilrwydd o seithfed, pe bai raid. Maent wedi eu diffinio'n fanwl mewn dogfennau cyfreithiol. Etholir naw cynrychiolydd ym mhob etholaeth ac ychwanegir at y nifer hwn drwy drefn nid anhebyg i'r hyn sy'n bodoli yng Nghymru drwy gynyrchioliad cyfrannol. Er mwyn derbyn aelodau ychwanegol o dan y drefn hon, mae'n rhaid i'r blaid gael dros 5% o'r bleidlais genedlaethol. Yng Ngwlad yr Iâ, mae'r nifer sy'n bwrw eu pleidlais yn uchel, ac fe welir dros 85% yn pleidleisio fel arfer; e.e. yn 2003 bwriodd 87.7% eu pleidlais.
Y Llywydd presenol yw Ásta Ragnheiður Jóhannesdóttir.
Cyfeiriadau[golygu]
Gweler hefyd[golygu]