Ymyrraeth filwrol yn Libya, 2011

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r gwaharddiad hedfan dros Libya a chanolfannau milwrol a llongau rhyfel sydd yn rhan o'r ymyrraeth

Ar 19 Mawrth 2011 dechreuodd ymyrraeth filwrol yn Libya gan glymblaid aml-wladol i weithredu Penderfyniad 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, fel ymateb i'r gwrthryfel yn Libya. Mae'r ymyrraeth yn cynnwys gwaharddiad hedfan, môr-warchae, a chyrchoedd awyr. Ar 24 Mawrth daeth y gwaharddiad hedfan dan reolaeth NATO.

Mae'r glymblaid yn cynnwys aelod-wladwriaethau NATO, Sweden, Qatar, a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

Cynnwys

NATO [golygu]

O aelod-wladwriaethau NATO, Ffrainc, y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Canada, Gwlad Belg, Norwy, a Denmarc sydd yn cynnal cyrchoedd awyr. O'r rhain, dim ond Ffrainc a'r Deyrnas Unedig sydd yn agored i ddwysáu ymgyrchoedd milwrol. Mae Sbaen, yr Eidal, a'r Iseldiroedd yn cynnal ymgyrchoedd rhagchwilio yn unig. Mae Albania yn darparu ei phorthladdau a meysydd awyr ar gyfer NATO, mae llynges Bwlgaria wedi darparu ffrigad, mae Gwlad Groeg yn darparu awyrennau, llong, a chanolfannau milwrol, mae Rwmania wedi darparu un llong, ac mae llynges Twrci yn darparu llongau a llong danfor. Mae gweddill aelodau NATO yn cefnogi'r ymgyrch i amddiffyn sifiliaid fel yr awdurdodir gan Benderfyniad 1973. Er hynny mae llywodraeth yr Almaen yn gwrthod gweithredoedd ymosodol gan luoedd y cynghrair.[1]

Ymateb [golygu]

Yn y Dwyrain Canol dim ond Syria a wrthwynebodd yr ymyrraeth yn gyfangwbl. Mae dwy o wladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig, yn cyfrannu at yr ymyrraeth filwrol. Arhosodd lluoedd milwrol yr Aifft, cymydog dwyreiniol Libya a welodd chwyldro yn Ionawr a Chwefror 2011, yn swyddogol niwtral ar y gwrthryfel cyn i Benderfyniad 1973 gael ei basio, ond roedd barn gyhoeddus o fewn y wlad yn gefnogol iawn dros ymyrraeth gan wledydd y Gorllewin. Er bod llywodraeth Iran yn cefnogi'r gwrthryfelwyr yn erbyn Muammar al-Gaddafi, disgrifiodd Ramin Mehmanparast, llefarydd dros adran dramor Iran, y cyrchoedd awyr fel "gwladychiaeth mewn ffurff newydd".[2]

Cyfrifoldeb i amddiffyn [golygu]

Dywedodd y Council on Foreign Relations (CFR) bod yr ymyrraeth filwrol yn enghraifft o bolisi'r cyfrifoldeb i amddiffyn a fabwysiadwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn ystod Uwchgynhadledd y Byd 2005.[3] Yn ôl Gareth Evans, "nid yw'r ymyrraeth filwrol ryngwladol yn Libya er mwyn bomio am ddemocratiaeth neu ben Muammar Gaddafi. Yn gyfreithiol, yn foesol, yn wleidyddol, ac yn filwrol mae ganddi un gyfiawnhâd yn unig: i amddiffyn pobl y wlad."[3] Er hyn, nododd y CFR yr oedd y polisi ar waith yn Libya yn unig ac nid mewn gwledydd megis Côte d'Ivoire, oedd dan argyfwng gwleidyddol ar y pryd, neu mewn ymateb i brotestiadau yn Yemen.[3] Dywedodd arbenigwr o'r CFR, Stewert Patrick, "Mae'n sicr bydd detholedd ac anghysondeb wrth weithredu norm y cyfrifoldeb i amddiffyn oherwydd cymhlethdod y diddordebau cenedlaethol sydd yn y fantol [...] gan bwerau mawrion eraill sydd â rhan yn y sefyllfaoedd hyn."[3]

Cyfeiriadau [golygu]

Flag of Libya.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Libya. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato