Y Moelwynion
Oddi ar Wicipedia
Tan-y-grisiau dan lethrau'r Moelwynion
Grŵp o fynyddoedd yn Eryri yw'r Moelwynion. Cyfeiria'r enw yn enwedig at ddau fynydd ucha'r grŵp, Moelwyn Mawr (770m) a Moelwyn Bach (710m). Ceir nifer o hen chwareli llechfaen yn y bryniau hyn.
Mae'r mynyddoedd yn gorwedd rhwng Cwm Ffestiniog yn y dwyrain a Nant Gwynant yn y gorllewin. I'r de mae'r Traeth Mawr, rhwng Tremadog a Phenrhyndeudraeth ac i'r gogledd ceir ardal o ucheldir gwlyb a chreigiog sy'n eu cysylltu â Moel Siabod yn y gogledd ac yn disgyn i gyfeiriad Dyffryn Lledr a Dolwyddelan i'r gogledd-ddwyrain.
Traddodiad [golygu]
Dywedir i Sant Twrog daflu maen anferth o ben y Moelwynion un tro. Glaniodd ym Maentwrog lle mae i'w gweld heddiw yng nghornel yr eglwys. Maen Twrog yw'r enw arno.
copaon [golygu]
|
|
|||
|---|---|---|---|
| Enw | Cyfesurynnau OS | Cyfesurynnau Daearyddol | |
| Carreg y Foel-gron: | SH744427 | map | 52.966°N, 3.871°W |
| Foel Boeth (y Moelwynion): | SH804477 | map | 53.013°N, 3.784°W |
| Foel-fras: | SH728481 | map | 53.015°N, 3.897°W |
| Manod Bach: | SH714447 | map | 52.984°N, 3.917°W |
| Manod Mawr: | SH724446 | map | 52.983°N, 3.902°W |
| Manod Mawr (copa gogleddol): | SH727458 | map | 52.994°N, 3.898°W |
| Moel Farlwyd: | SH707486 | map | 53.019°N, 3.929°W |
| Moel Pen-y-bryn: | SH779496 | map | 53.029°N, 3.822°W |
| Moel Penamnen: | SH716483 | map | 53.016°N, 3.915°W |
| Pen y Bedw (copa dwyreiniol): | SH784470 | map | 53.006°N, 3.813°W |
| Pen y Bedw (copa gorllewinol): | SH779469 | map | 53.005°N, 3.821°W |
| Y Gamallt (Graig Goch): | SH751447 | map | 52.985°N, 3.861°W |
| Y Garnedd: | SH742431 | map | 52.97°N, 3.874°W |
| (Moel Gamallt): | SH743440 | map | 52.978°N, 3.873°W |
| Y Ro Wen: | SH745498 | map | 53.03°N, 3.872°W |