Moel Penamnen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coordinates: 53°01′N 3°55′W / 53.02°N 3.92°W / 53.02; -3.92
Moel Penamnen
(Y Moelwynion)
Moel Penamnen o'r Manod Mawr
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Moel Penamnen o'r Manod Mawr
Uchder (m) 623
Uchder (tr) 2044
Amlygrwydd (m) 133
Lleoliad rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala
Map topograffig Landranger 115;
Explorer 18E
Cyfesurynnau OS SH716483
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Hewitt, Nuttall a HuMP
Moel Penamnen is located in Cymru
Moel Penamnen (Cymru)

Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Moel Penamnen; cyfeiriad grid SH716483. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog ac i'r dwyrain o'r briffordd A470 a Bwlch y Gerddinen. Saif Llynnau Barlwyd i'r gorllewin o'r copa, ac mae ffîn Parc Cenedlaethol Eryri yn mynd dros y copa. I'r gogledd-ddwyrain mae Cwm Penamnen yn ymestyn tua'r gogledd i gyfeiriad Dolwyddelan. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 490metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gellir ei ddringo o Fwlch y Gerddinen, dros gopa is Moel Farlwyd, neu o Gwm Penamnen. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 623m (2044tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]