Manod Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coordinates: 52°59′N 3°54′W / 52.98°N 3.9°W / 52.98; -3.9
Manod Mawr
(Bryniau Ffestiniog)
Manod Mawr
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Manod Mawr
Uchder (m) 661
Uchder (tr) 2169
Amlygrwydd (m) 266
Lleoliad rhwng Blaenau Ffestiniog a Penmachno
Map topograffig Landranger 124;
Explorer 18E 18W
Cyfesurynnau OS SH724446
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall
Manod Mawr is located in Cymru
Manod Mawr (Cymru)

Mae Manod Mawr yn gopa mynydd a geir ym mryniau Ffestiniog rhwng Cwm Penmachno a Blaenau Ffestiniog; cyfeiriad grid SH724446. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 395metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Copa yn Eryri yw Manod Mawr, i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog ac i'r dwyrain o'r briffordd A470, gyda Llyn y Manod a Manod Bach i'r de-orllewin o'r copa, a Llyn Bowydd a Moel Penamnen i'r gogledd; cyfeiriad grid SH724446. Mae dau gopa i'r mynydd, yr ail ychydig i'r gogledd o'r prif gopa.

Ceir chwareli llechi ar raddfa fawr yn yr ardal yma, a saif Chwarel Graig Ddu rhwng dau gopa'r Manod, ar uchder o 600 medr, gyda Chwareli'r Manod ychgydig i'r dwyrain.

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 395metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Golygfa o Manod Mawr gan edrych tua Moel Penamnen.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 661m (2169tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]