Chwarel Graig Ddu

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Graig Ddu (2004).

Chwarel lechi yn ardal Blaenau Ffestiniog, Gwynedd yw Chwarel Graig Ddu, hefyd Chwarel Graig-ddu. Saif ar uchder o tua 600 medr ar lethrau'r Manod Mawr, i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog (cyf. OS SH727456).

Dechreuwyd cloddio llechi yma yn y 1840au, ac yn wahanol i'r mwyafrif o chwareli'r ardal, ni ddechreuwyd cloddio tanddaearol hyd yn 1920au. Un o nodweddion y chwarel yma oedd y "Ceir Gwyllt", a ddefnyddid gan y chwarelwyr i ddod i lawr yr incleiniau. Roedd y chwarel yn parhau i gael ei gweithio hyd yn ddiweddar.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Evans, Emrys Criw diddan dŵr oer (Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd, 1992)
  • Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)

Dolen allanol[golygu | golygu cod]