Tan-y-grisiau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tan-y-grisiau

Hen bentref chwarel yw Tan-y-grisiau (hefyd Tanygrisiau), ger Blaenau Ffestiniog yn Ngwynedd.

Codwyd y pentref ar gyfer y chwarelwyr a weithiai yn chwareli'r Moelwynion, uwchlaw'r pentref i'r gogledd.

Yn agos i Dan-y-grisiau mae argae Llyn Stwlan, rhwng Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach, â'i phwerdy trydan dŵr. Mae ffordd o'r pentref yn dringo i fyny iddo a cheir canolfan ymwelwyr yno.

Mae Rheilffordd Ffestiniog, sy'n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Phorthmadog, yn mynd trwy'r pentref ac yn atyniad twristaidd pwysig yn yr haf.

Enwogion[golygu]

  • Brodor o Dan-y-grisiau oedd y bardd ac emynydd Moelwyn (1866-1944). Roedd ei emynau'n boblogaidd iawn ar droad yr 20fed ganrif.
  • Bardd arall o'r pentref oedd Lewis Moelwyn Jones (Lewis Moelwyn).
  • Bu'r bardd a diwygiwr cymdeithasol Silyn yn weinidog yn Nhan-y-grisiau o 1905 hyd 1912.
  • Gwyn Thomas - cafodd y bardd ac ysgolhaig ei eni yn y pentref yn 1936.
  • Mae'r cerddor Gai Toms (Gareth J. Thomas), yn hanu o Danygrisiau.

Gweler hefyd[golygu]